Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbynbiwyd ymddiheuriad oddi wrth  Mr Barry Davies (Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig).   

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd materion brys.  

4.

COFNODION pdf eicon PDF 247 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 23 Tachwedd 2017.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.1       Materion a godwyd o’r cofnodion

 

Yng nghyswllt arwyddion diogelwch, cyfeirwyd at y ffaith bod y cofnodion yn nodi bod swyddogion y Gwasanaeth Morwrol wedi cynnal trafodaethau gyda “dau aelod lleol” ac roedd y Cynghorydd Mike Stevens, Aelod Lleol Tywyn, o’r farn nad oedd hyn wedi digwydd.  Roedd ychydig yn ddig gan ei fod wedi llwyddo i ddenu noddwyr ar gyfer ariannu’r arwyddion ond oherwydd diffyg cyfathrebu fe gollwyd oddeutu £3,000 ar gyfer arwyddion i Dywyn.

 

Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned o safbwynt y cynllun bod oediad wedi bod ac ymddiheurwyd am hyn.  Fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Morwrol yn cydweithio’n agos gyda’r Bad Achub oherwydd eu harbenigedd yn y maes.  Ymgynghorwyd ar y cynllun ac fe dderbyniwyd sylwadau ond bod yr amserlen wedi llithrio ychydig ac fe fyddir yn ymgynghori gydag Aelodau Lleol Cyngor Gwynedd gyda’r bwriad o osod yr arwyddion cyn gwyliau y Llungwyn.  Gobeithir cysoni’r math o arwyddion a osodir ar hyd arfordir y Gogledd ac o fewn amserlen realistig.

 

Ychwanegodd Aelod bod y Gwasanaeth Morwrol wedi cysylltu gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.

 

Nododd y Cynghorydd Mike Stevens bwysigrwydd i’r geiriad ar yr arwyddion fod yn addas a phenodol i wahanol leoliadau.

 

Talwyd teyrnged i’r gwaith gwirfoddol a wnaed gan Josh Cooper, Alice Beetlestone (Bad Achub)        mewn ymgynghoriad gyda’r Harbwr Feistr, a rhagwelir y bydd yr arwyddion yn hynod effeithiol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.      

 

 

5.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 337 KB

I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyn cyflwyno yr adroddiad uchod, croesawyd Alison Kinsey, Cydlynydd Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion, a oedd wedi gwneud cais i fynychu’r cyfarfod ac fe esboniodd bwrpas FLAG (Fisheries Local Action Group).  Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

  • Bod 4 grwp yn weithredol yng Nghymru i bwrpas cefnogi’r diwydiant a chymunedau pysgota:  St. Dogmael i Abermaw, Ynys Môn a Gwynedd, Bae Abertawe a Cleddau i’r Arfordir
  • Bod FLAG yn derbyn arian Ewrop a bod oddeutu £160,000 ar gael i’w wario hyd at 2020 a hyderir y gellir gwneud defnydd ohono drwy roi gymorth i prosiectau bychan sydd yn cael eu harwain o’r gymuned
  • Bod strategaeth wedi ei lunio yn seiliedig ar angen lleol
  • Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer ariannu prosiectau sydd yn: 

Ø  ychwanegu gwerth

Ø  creu swyddi

Ø  denu pobl ifanc a

Ø  hyrwyddo arloesedd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd

  • Gellir cynnig cymorth ariannol refeniw at brosiectau megis:

 datblygu prosiectau, prosiectau peilot, astudiaethau dichonoldeb, hyfforddiant, mentora, hwyluso ac ymgynghori.

 

Bu i’r swyddog ymweld â Phwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw, ac yn deillio o’r cyfarfod hwnnw, roedd yr Aelodau yn frwdfrydig a chadarnhaol i gynnal gweithgaredd ar y cei yn Abermaw.

 

Nododd bod Mr Neil Storkey wedi ei benodi fel Cadeirydd un o’r grwpiau gweithredol ac yn rhinwedd ei swydd a’r ffaith y dysgwyd llawer o’r Wyl Fwyd a gynhaliwyd yn Aberdyfi y gellir defnyddio’r wybodaeth a’r profiadau hynny er budd cymunedau FLAG.  Hyderir y gellir cynnal prosiectau / gweithgareddau ar y cei a hyrwyddo’r pysgotwyr lleol, yn enwedig gan ei bod yn Flwyddyn y Môr eleni. 

 

(b)       Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig  yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr ac fe gyfeiriodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yn ei absenoldeb  at y materion penodol canlynol:

 

 

(i) Cod Diogelwch Porthladdoedd

 

Yn deillio o’r uchod, nododd Aelod ei fod o’r farn, nad oedd yr Archwilwyr wedi ymweld ar adeg prysur yn yr Harbwr megis ym mis Gorffennaf/Awst ac felly ddim wedi gweld y darlun cyfan a chywir.

 

Mewn ymateb gwnaed y prif bwyntiau isod:

 

(i)            Eglurodd yr Uwch Swyddog Harbyrau nad y Gwasanaeth Morwrol oedd yn pennu’r dyddiad ac y gall yr Archwilwyr ddod unrhyw bryd yn ogystal ag ail-ymweld.

(ii)           Esboniodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bwrpas yr ymweliad gan nodi mai’r prif nod ydoedd archwilio systemau’r Cyngor a threfniadau rheoli sydd ychydig yn wahanol o safbwynt prysurdeb y safle. 

(iii)          O safbwynt cyfrifoldeb y Cyngor pe byddai unigolyn yn baglu a chwympo dros ochr y cei, nodwyd bod gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol yn ymwneud â’r uchod a thynnwyd sylw nad yw’r côd yn statudol ac mai Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am reoli’r Harbwr.  Ategwyd mai ystyried trefniadau rheolaeth y Cyngor wnaeth yr Archwilwyr yn hytrach na threfniadau gweithredol ar y tir.

(iv)          Pwysig i nodi na all yr Harbwr Feistr fod ar gael bedair awr ar hugain.

(v)           Bod llythyr wedi ei anfon i’r pysgotwyr i gadw’r Harbwr yn daclus.

(vi)          Bod staff yr Harbwr yn gweithio’n ddiwyd i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 2 Hydref 2018.

Cofnod:

Er bod dyddiad wedi ei bennu (2 Hydref 2018) ar gyfer y cyfarfod nesaf, gofynnwyd a fyddai modd newid y dyddiad hwn i ddechrau mis Tachwedd.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau drefnu dyddiad ym mis Tachwedd ar gyfer y cyfarfod nesaf.