skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer  2019 / 2020

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2019 / 2020

 

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Cynghorydd Dewi Owen (Cyngor Gwynedd), Llŷr B Jones Pennaeth Cynorthwyol Economi ac Chymuned a  Barry Davies (Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5 Mawrth 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5ed o Fawrth, 2019, fel rhai cywir.

 

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 70 KB

I ystyried adroddiad  yr Uwch Swyddog Harbyrau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019.

 

Angorfeydd

 

Adroddwyd bod nifer yr angorfeydd yn sefydlog er newid ym mhatrwm ymddygiad defnyddwyr. Amlygwyd bod cychod pŵer a beiciau dwr bellach yn fwy poblogaidd na chychod hwylio ac yr un yw’r sefyllfa ar draws y wlad.

 

                 Cod Diogelwch

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol a system Harbyrau Bwrdeistrefol Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol.  Yn dilyn ymweliad pellach i weld sut roedd yr ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu, adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio â darpariaethau’r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd. Atgoffwyd yr Aelodau o’u dyletswydd i gyflwyno sylwadau ar addasrwydd y Cod Diogelwch a chyfeirio unrhyw bryderon i’r Harbwrfeistr.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd bod Harbwrfeistr Cynorthwyol llawn amser wedi ei benodi ac wedi ei leoli yn Harbwr Aberdyfi. Bydd y penodiad yn sicrhau cefnogaeth i’r harbwrfeistr ynghyd a chynorthwyo mewn harbyrau eraill ar draws y Sir pan fydd angen. Nododd yr Harbwrfeistr bod penodi Mr Oliver Simmonds i’r tîm eisoes wedi profi yn werthfawr a bod ei brofiad o weithio gyda’r Clwb Hwylio yn fanteisiol. Ategodd yr Aelodau bod cydweithio da ymysg y staff a bod y penodiad yn un da.

 

Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd tanwariant o £4,121. Amlygwyd bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y tanwariant, amlygwyd bod bwriad prynu bwi ynghyd a gwaith cynnal a chadw dros dymor y gaeaf.

                       

(b)          Adroddiad yr Harbwr Feistr

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwrfeistr yn manylu ar faterion mordwyo, gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

·         Bod y gwasanaeth yn parhau i fonitro llwybr y sianel fordwyo i Aberdyfi. Nodwyd bod y sianel yn newid yn barhaol gyda symudiad gogleddol. Nodwyd bod hyn yn creu gwaith addasu i gynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo.

·         Bod Ymddiriedolaeth yr Outward Bound a Chlwb Hwylio Dyfi wedi cynnal rhaglen brysur o ddigwyddiadau llwyddiannus dros yr Haf

·         Bod y Gwasanaeth wedi gweld cynnydd mewn nifer carcasau anifeiliaid wedi eu golchi i fyny ar y traeth

·         Diolchwyd i’r Ymddiriedolaeth Outward Bound a Chlwb Hwylio Dyfi am y cymorth a gafodd y Gwasanaeth tra bod gwaith atgyweirio strwythurol ar gwch yr harbwr

·         Bod ysgolion tywod pren yn galluogi mynediad ar draws y twyni i’r traeth yn dilyn gwaredu llwybr pren y clwb golff

·         Bod sefyllfa’r bont dros y rheilffordd i Fryn Llestair (Picnic Island) yn cael ei drafod a phryderon diogelwch yn cael eu hystyried.

·         Bod y Gwasanaeth wedi bod yn cydweithio gyda’r physgotwyr masnachol i dacluso lloc y pysgotwyr. Y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr aelodau

 

a)    Cei Aberdyfi

 

Peryglon Cei Harbwr Aberdyfi

 

 

 

 

Cofnod:

(a)              Cynllun Cei Aberdyfi

 

Ar gyfer adnewyddu’r wal, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cais mewn egwyddor a’r cynllun bellach wedi ei restru ar Gynllun Asedau’r Cyngor. Amlygwyd bod y Cyngor wedi cadarnhau bod arian cyfatebol wedi ei glustnodi a manylion pellach ar y Cynllun Busnes Llawn wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn mynd allan am dendr yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20 gyda’r dogfennau tendr a methodoleg asesu tendr wedi eu cwblhau. Y bwriad yw penodi contractwr cyn Mawrth 31ain 2020 i ddechrau’r gwaith yn Medi 2020 (gan osgoi tymor yr Haf) a chwblhau'r gwaith erbyn Pasg 2021. Ategwyd y byddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei drefnu i rannu gwybodaeth gyda busnesau lleol a'r gymuned, cyn i’r gwaith ddechrau.

 

Derbyniwyd hyn fel newyddion calonogol iawn. Canmolwyd y cynlluniau a chroesawyd bod yr arian wedi ei sicrhau. Awgrymwyd y dylid gwahodd y contractwr llwyddiannus i’r cyfarfod cyhoeddus fel bod modd adeiladu perthynas agored gyda’r gymuned leol. Ategwyd bod llawer o waith angen ei wneud i sicrhau llwyddiant y cynllun gyda chais i bawb fod yn gefnogol.

 

-       Awgrymwyd uwchraddio swyddfa’r harbwrfeistr yn ystod y cyfnodcyfle rhy dda i’w golli

-       Angen sicrhau bod y contractwr yn cysylltu a chydweithio gyda’r Bad Achub a’r pysgotwyr masnachol

 

Mewn ymateb i’r sylw am uwchraddio’r swyddfa, nodwyd bod yr Uned Eiddo yn ymwybodol o’r sefyllfa ac felly bod modd cynnal trafodaethau.

 

(b)              Diogelwch Cei Aberdyfi


Yn dilyn damwain ddiweddar ar y cei, amlygwyd y bwriad o beidio defnyddio’r ardal fel man parcio ond fel safle llwytho a dadlwytho yn unig. Y dymuniad yw peidio caniatáu cerbydau i barcio ar y cei fel bod modd osgoi gwrthdrawiad gyda cherddwyr.

 

 

8.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 3ydd Mawrth 2020

Cofnod:

Nodwyd, yn swyddogol, mai dyddiad y cyfarfod nesaf yw Mawrth 3ydd 2020. Er hynny, derbyniwyd cynnig am geisio dyddiad arall fel bod modd derbyn diweddariad ar dendr gwaith y cei. Gwnaed cais i’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd drafod y cynnig gyda’r Gwasanaeth Morwrol.