Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.  

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Gethin Williams (Pwyllgor Ymgynghorol Harwr Abermaw), Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet Economi), Y Cyng. Brian Bates (Bad Achub). 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 231 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2015. 

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 12 Tachwedd 2015.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

2.1       MATERION YN CODI O’R COFNODION

 

(a)          Eitem 5 (A) – Ffigyrau ymwelwyr i Harbwr Aberdyfi

 

Ymddiheurwyd nad oedd y ffigyrau uchod wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad gerbron a sicrhawyd y byddir yn eu cylchrhedeg i’r Aelodau yn y dyddiau nesaf.  Fodd bynnag, yn y cyfamser nodwyd y ffigyrau isod:

 

2014    -           53 o gychod wedi ymweld ag Aberdyfi

2015    -           18 cwch wedi ymweld ag Aberdyfi

 

Nodwyd ymhellach bod y tywydd wedi bod yn anffafriol iawn a hyderir y ceir tywydd gwell y tymor hwn.  Diolchwyd hefyd am y pecyn gwybodaeth a ddarparwyd gan Aelodau ar gyfer ymwelwyr ac y byddir yn ceisio annog morwyr i ymweld a’r gwahanol harbyrau o fewn y Sir.

 

 

(b)       Rheolaeth Badau Dwr Personol

 

Ni ragwelwyd y byddir yn gallu cael llawer mwy o reolaeth yn ardal y Leri serch trafodaeth gyda swyddogion perthnasol o Cyfoeth Naturiol Cymru.  Fodd bynnag, hyderir y gellir gwella rheolaeth o ochr yr awdurdod Harbwr drwy benodiad swyddog i gynorthwyo’r Harbwr Feistr ac a fydd yn weithredol ar y dwr yn ystod cyfnod prif wyliau’r haf. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd ynglyn a pha gamau gall yr Harbwr Feistr gymryd i ymdrin a rheolaeth y badau dwr personol, eglurwyd bod gan yr Harbwr Feistr bwerau statudol ond nad oedd ganddo’r hawl i roi dirwy ar y pryd ond pe byddir yn cadw tystiolaeth o unrhyw gam ddefnydd o’r rheolau, gellir eu herlyn.  Nodwyd ymhellach bod yr Heddlu yn rhoi cefnogaeth dda mewn achosion o’r fath.

 

(c)          Cynnal a Chadw   

 

Adroddodd Mr Desmond George ei fod yn parhau i drafod dyluniad winsh pwrpasol ar gyfer defnydd gan gychod sy’n cael eu lansio ac yn glanio wrth y Clwb Hwylio.  Diolchwyd iddo gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ac unwaith y daw unrhyw wybodaeth i law y byddir yn ei anfon i’r peiriannydd fel bo modd ystyried y posibilrwydd fel rhan o gynllun ehangach wal y cei.  Y dewis gorau fyddai i’r winsh fod wedi ei leoli mewn un man ac ddim yn rhan o gerbyd neu winsh symudol.

 

(ch)      Symud Tywod

 

Adroddwyd bod y gwaith o symud y tywod wedi ei gwblhau dros yr wythnosau diwethaf ac yr un pryd bod gwaith yn mynd rhagddo i glirio tywod oddi ar y maes parcio a’r promenad.

 

Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglyn a thywod, amlygodd Mr Paul Fowles y canlynol:

Drwy ymestyn y twyni o 4 metr hyd at risiau maes parcio amddiffynfa’r môr a chau’r llifglawdd bach sy’n rhedeg tu ôl i’r bryniau tywod, sy’n gorlifo bob Llanw Mawr, byddai hyn yn caniatáu i system y twyni i symud tua’r dwyrain a’r de ddwyrain heb orfod cael dyfeisiau rheoli fel ffens byst.  Er hynny, byddai grwynau traeth ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MOROWROL pdf eicon PDF 210 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Aberdyfi gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

 

(A)       Cod Diogelwch Harbyrau

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod elfennau diogelwch ac asesiadu risg yn bwysig iawn i’r Gwasanaeth Harbwr a bod y cod diogelwch yn berchen i ddefnyddwyr yr Harbwr ac  Aelodau’r Pwyllgor a bod y staff yr Harbwr yn ddibynnol arnynt i gyflwyno sylwadau.  Nodwyd bod y Cod Diogelwch yn ddogfen fyw a gwirfoddol.  Fe fyddir yn derbyn awdit gan Adran Polisi, Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i drafod y ffordd ymlaen ac i dderbyn adborth gan Adran Polisi Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.  Nodwyd bwysigrwydd y dylai’r cod gydymffurfio a gofynion yr harbwr yn enwedig harbyrau llai fel sydd yng Ngwynedd ac nad oedd yn mynd yn rhy fiwrocrataidd.    

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(B)       Mordwyo ac Angorfeydd

 

Adroddwyd bod y cymorthyddion mordwyo wedi gweithio’n dda tra’n derbyn bod y Sianel wedi newid.  Roedd y contractwyr yn gweithio ym Mhorthmadog ar hyn o bryd ond yn symud i Aberdyfi yn y dyddiau nesaf. 

 

Cyfeiriwyd at 4 rhybudd:

 

·         Golau ar y bwi Fairway ddim yn gweithio

·         Bwi Rhif 1 a 3 oddi ar y safle

·         Bwi Rhif 2 wedi symud oddi ar y safle

 

Rhagdybir na fyddai llawer o gychod yn ymweld a’r Harbwr yn ystod Gwyliau’r Pasg gan fod y gwyliau yn fuan eleni.  Nodwyd bod y golau melyn wedi ei osod ar bwi mewnol yn yr Harbwr.  Nodwyd yn ychwanegol bod cwch yr Harbwr wedi ei lansio ar gyfer y tymor.

 

Mewn ymateb i’r uchod, nododd Aelod ei bod yn glir lle mae’r Harbwr yn dechrau a dymuniad Clwb Cychod Aberdyfi ydoedd cyfleu eu diolch i’r Harbwr Feistr am ei waith.

 

Nodwyd ymhellach y byddai bwiai parth y traeth yn ei le erbyn diwedd mis Mai.  Derbyniwyd archwiliadau gan Ty’r Drindod a chynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar lle mynegwyd pryder ynglyn a’r elfen weinyddol o’r ddarpariaeth symud bwiau.

 

Cadarnhawyd y byddai’r angorfeydd yn cael eu gosod yn yr wythnosau nesaf gan y contractwr lleol, a phwysleiswyd yr angen i bob perchennog angorfa fod yn berchen ar y dystysgrif priodol.  Cadarnhawyd ymhellach bod y tystysgrifau priodol mewn trefn gan y contractwr yn unol a chanllawiau Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

 

Mewn ymateb i bryder ynglyn a newidiadau yn y sianel ac o ganlyniad y lleihad yn y gofod sydd ar gael i gychod fedru angori, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n rhaid derbyn na fyddai rhai cychod yn gallu mynd yn ol i’r un lleoliad ac y byddir yn gorfod addasu’r lleoliad i’r math o gwch yn nhermau hyd a dyfnder, a.y.b.

 

Gofynnwyd a fyddai modd i’r Harbwr Feistr dynnu lluniau fel bo modd cymharu fel mae’r blynyddoedd yn mynd heibio.  Mewn ymateb, eglurwyd bod cwmni Mark Roberts yn gwneud archwiliadau i’r Gwasanaeth Morwrol yn hyn o beth.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(C)     Cyllidebau Harbyrau

 

(i)            Cyflwynwyd crynodeb o’r sefyllfa ariannol i’r Aelodau hyd at 29 Chwefror 2016 ac fe dywyswyd hwy drwy’r wybodaeth gan nodi’r pwyntiau canlynol:  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf ar  11 Hydref 2016 yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cyngor llawn. 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau a Chraffu bennu dyddiad yn nechrau Tachwedd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol yn hytrach na 11 Hydref 2016 fel gymeradwywyd gan y Cyngor llawn yn ddiweddar, gan bod y dyddiad hwn braidd yn fuan yn y tymor.