skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018-19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2018-19.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2018-19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2018-19.

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 92 KB

Bydd y cadeirydd yn cynnig fod cofnodion cyfarfod diwetha y Pwyllgor Harbwr a gynhaliwyd ar Mawrth 22 2018 yn cael eu harwyddo fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

Cofnod:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 22 Mawrth 2018.

 

Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

5.

DIOGELWCH HARBWR

I ystyried unrhyw faterion diogelwch harbwr.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan yr Uwch Swyddog Harbyrau, gan nodi ei fod yn gyfle i’r Pwyllgor nodi unrhyw faterion diogelwch harbwr neu sylwadau ar y Cod Diogelwch Harbwr.

 

Nodwyd fod y Cod wedi bod yn destun trafodaeth, a bod y Clwb Hwylio wedi cynnal trafodaethau anffurfiol buddiol gyda’r swyddogion harbyrau ynglŷn â materion diogelwch. Ychwanegwyd fod Aberdyfi wedi bod yn brysur dros yr haf, ond na brofwyd unrhyw ddamweiniau na phroblemau diogelwch neilltuol.

 

6.

ADRODDIAD GAN YR UWCH SWYDDOG HARBYRAU pdf eicon PDF 70 KB

I dderbyn adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Diweddariad ar Faterion Rheoli’r Harbwr

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei adroddiad, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

-       Fod y niferoedd o gychod ar yr angorfeydd wedi gostwng ychydig yn 2018, ond bod y ffigwr yn gymharol sefydlog.

-       Fod y nifer o gwsmeriaid wedi gostwng ar draws harbyrau Gwynedd, oedd yn adlewyrchiad o’r hinsawdd economaidd.

-       Fod 53 o gychod pŵer wedi eu cofrestru yn Aberdyfi yn 2018, yr un nifer a 2017. Gwelwyd cynnydd yn niferoedd y cychod pŵer oedd wedi eu cofrestru yn Nhywyn o 9 i 14.

-       Fod y nifer o fadau dwr personol wedi cynyddu ar draws harbyrau Gwynedd, gyda chynnydd o 28 i 50 yn Aberdyfi ac o 3 i 6 yn Nhywyn.

-       Pwysleisiwyd fod croeso i aelodau’r Pwyllgor i drafod y Cod Diogelwch Harbwr gyda’r gwasanaeth.

-       Fod haf 2018 wedi bod yn gyfnod prysur iawn, ond trist nodi fod yr achosion o drais yn erbyn swyddogion wedi cynyddu.

-       ‘Roedd y gwasanaeth yn gobeithio cyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser ychwanegol ar gyfer harbyrau Porthmadog, Aberdyfi ac Abermaw, yn ddibynnol ar y gyllideb oedd ar gael.

-       ‘Roedd disgwyl i ffioedd harbyrau godi gyda chwyddiant yn 2019, gan ragweld tanwariant bychan ar gyllideb yr harbyrau.

 

Cwestiynau a sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Nodwyd siom fod disgwyl i ffioedd cychod pŵer godi

-       Fod y man lansio ar gyfer cychod pŵer yn anghyfleus ac yn fwdlyd iawn, ac y byddai’n fuddiol pe bai posib defnyddio llithrfa arall.

-       Pryder fod lefel preswylydd yr angorfeydd wedi gostwng, ac a oedd peryg fod Harbwr Aberdyfi yn cael ei adael ar ôl?

 

Mewn ymateb nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau

-       Mai'r man lansio presennol ar gyfer cychod pŵer oedd y man mwyaf diogel. Tra’r oedd yn cydnabod ei fod yn safle anghyfleus, ‘roedd yn safle diogel ac nid oedd arian ar gael i’w wella.

-       Fod lefel preswyledd angorfeydd wedi gostwng ar draws y Deyrnas Unedig, nododd mai Harbwr Abermaw oedd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yng Ngwynedd. ‘Roedd defnyddwyr angorfeydd yn tueddu i symud i harbyrau ble’r oedd cyfleusterau gwell. ‘Roedd yn bosib ystyried gwella cyfleusterau Harbwr Aberdyfi, ond byddai angen bod yn ofalus rhag niweidio ei gymeriad.

 

(b)          Adroddiad yr Harbwrfeistr

 

Cyflwynodd yr Harbwrfeistr ei adroddiad gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

-       Fod Harbwr Aberdyfi wedi cael archwiliad gan Dy’r Drindod ar drefniadau diogelwch a mordwyo, gan ganfod fod y trefniadau priodol mewn lle.

-       Fod cwrs sianel fordwyo Harbwr Aberdyfi wedi culhau a symud i’r gogledd. ‘Roedd hyn wedi achosi llawer o waith addasu er mwyn cynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltu â swyddfa’r harbwr er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am ddiogelwch mordwyo.

-       Fod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud, a gofynnodd am sylwadau ar raglen waith cynnal a chadw ar gyfer gaeaf 2018-19.

-       Fod arwyddion diogelwch wedi eu gosod yn Nhywyn ac Aberdyfi yn dilyn adolygiad manwl ar y cyd gyda’r RNLI.

-       Fod cyflwr y llwyfan cerdded  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi yn cael ei gynnal ar Fawrth 5ed 2019.

Cofnod:

Nodwyd fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor wedi ei drefnu ar gyfer Mawrth 5 2019 yn Neuadd Dyfi, Aberdyfi.