Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd I’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd I’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet Economi), Y Cyng. Mike Stevens (Cyngor Gwynedd), Mr Nick Dawson (Outward Bound),  Mr Llyr B. Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

5.

COFNODION pdf eicon PDF 232 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017.

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 28 Chwefror 2017.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.1       Materion yn codi o’r cofnodion – Eitem 4 (d) (i) Wal y Cei

 

Nododd y Cadeirydd siom na oedd yn bosibl i swyddog Ymgynghoriaeth Gwynedd fod yn bresennol yn y cyfarfod i roi diweddariad peirianyddol ar ddatblygiad gwaith i wal y cei. Roedd y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod yn ddiweddar gyda swyddogion Uned Ymgynghoriaeth Gwynedd ac fe adroddodd ar ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa diweddaraf sef bod bras amcan gyfrif y cynlluniau diwygiedig o ail-ddatblygu wal y cei ar gost o £2.2m.  Ar hyn o bryd, gellir cael oddeutu 75% o’r costau drwy grantiau ac arian Ewrop ond bod diffyg o 25% sydd yn cyfateb i £500,000.   Yn y cyfarfodydd diwethaf fe drafodwyd y posibilrwydd o ddenu trydydd parti i gyfrannu at y costau ac fe fyddai modd trafod hyn ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol hwn. Awgrymwyd bod holl Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y gofyn am gefnogaeth ariannol bosibl a bod y wybodaeth hyn yn cael ei amlygu I aelodau o’r holl gymdeithasau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Harbwr. Deallwyd yr amlygwyd pryder gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn â’r bwriad i ymestyn y strwythur presennol allan oddeutu medr i’r môr ac y byddai’n  effeithio ar gynefinoedd, ond bellach deallir eu bod yn hapus gyda’r cynlluniau diwygiedig.  Deallir ymhellach y bydd y cais yn cael ei gyflwyno a’i ystyried gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sef yr Awdurdod Cynllunio yn Aberdyfi yn fuan.

 

Ychwanegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n trefnu bod copiau o’r cynlluniau ar gael i’w gweld yn swyddfa’r Harbwr Feistr ac y byddai’n cylchredeg nodiadau o’r broses sydd wedi digwydd yn yr wythnosau nesaf.  Nodwyd y byddai’n heriol i geisio canfod £500,000 gyda’r bwriad i edrych ar bob ffynhonell ariannol posibl. 

 

O safbwynt amserlen, hyderir y gellir dechrau ar y gwaith ym mis Ebrill 2019.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         O safbwynt denu cyfraniad lleol, teimlwyd bod £500,000 yn heriol ac a fyddai modd i’r Cyngor ystyried ffynhonellau o gyfeiriad ffrydiau twristiaeth

·         Bod 2018 yn cael ei ddynodi yn Flwyddyn y Môr a phwy a wyr efallai y byddai adnoddau ariannol ar gael gan Lywodraeth Cymru. 

·         Cytunwyd yn y gorffennol bod y cei yn adnodd bwysig i Aberdyfi yn enwedig ar gyfer cynnal busnesau, sefydliad y Bad Achub a.y.b.

·         Bod Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas wedi ei benodi’n ddiweddar yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ac y byddai o fudd cynnal trafodaeth gydag ef ynghylch unrhyw gymorth y gallasai awgrymu 

·         Nad oedd yn opsiwn i beidio adnewyddu wal y cei, neu fe fyddai’n disgyn i’r môr ond bod y llwybr i gyrraedd y nod yn anodd

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod ac edrychir ymlaen i’w drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol hwn ym mis Mawrth 2018.

 

                                    (b)       Bod y cynlluniau diwygiedig ac adroddiad diweddaraf ar gael yn Swyddfa’r Harbwr Feistr ar gyfer eu harchwilio ymhellach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 182 KB

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

(a)          Atgoffwyd yr Aelodau bod angen cyflwyno cyfansoddiad a chofnodion blynyddol cyfredol y mudiadau / sefydliadau maent yn gynrychioli ar y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr er mwyn sicrhau aelodaeth cymwys o’r Pwyllgor yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd yn 2014.  Rhestrwyd y mudiadau hynny nad oedd wedi anfon y dogfennau perthnasol fel a ganlyn:

 

·         Pwyllgor Gwelliannau Aberdyfi

·         Cymdeithas Pysgodfeydd Bae Ceredigion

·         Clwb Cychod Aberdyfi

·         Clwb Hwylio Dyfi

·         Clwb Rhwyfo Aberdyfi

 

Deallir nad yw Partneriaeth Aberdyfi na Siambr Fasnach Aberdyfi yn bodoli mwyach.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod a disgwylir i’r mudiadau uchod anfon y dogfennau perthnasol ymlaen i’r Swyddog Cefnogi Aelodau.

 

(b)          O safbwynt niferoedd angorfeydd yn yr Harbwr gwelwyd leihad o 1 o’i gymharu â 2016 gyda chynnydd yn y badau dŵr personol.  Siomedig fu’r tywydd a oedd yn cael effaith ar yr harbyrau ar draws y Sir ond braf ydoedd nodi bod cychod o Gonwy wedi ymweld â harbwr Aberdyfi a hyderir y byddent yn ymweld eto i’r dyfodol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)           Cod Diogelwch Morwrol

 

Derbyniwyd archwiliad gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ac yn deillio o’u hadroddiad cyfeiriwyd at fân elfennau a oedd angen sylw yn Harbwr Aberdyfi megis tacluso o amgylch y cei gan fod nwyddau a rhaffau wedi eu cadw mewn ffordd a allasai achosi risg.  Fe fydd yr archwilwyr yn ymweld a’r gwasanaeth ymhen blwyddyn a’r bwriad ydoedd gwahodd aelodau’r Pwyllgorau Harbwr i un cyfarfod canolog er mwyn derbyn gwybodaeth gan yr archwilwyr ynglyn â phrif materion y Cod Diogelwch. Rhagwelir bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mhorthmadog.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

  • Bod yr Outward Bound yn cydweithio’n dda gyda staff yr Harbwr o ran unrhyw weithgareddau
  • Dymuniad i weld yr angorfeydd yn y mannau lle roeddynt oddeutu 15 mlynedd yn ôl
  • O safbwynt diogelwch, gofynnwyd a oedd unrhyw broblem yn deillio o ddefnydd badau dŵr personol

 

Ymatebodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a’r Harbwr Feistr i’r uchod fel a ganlyn:

 

(i)             Tra’n cydymdeimlo gyda’r Clwb Hwylio o safbwynt gofod iddynt yn yr aber yn sgil gosodiad yr angorfeydd, eglurwyd bod y sianel yn culhau a’r Harbwr Feistr yn ceisio ei orau i beidio cymryd gormod o le a gwerthfawrogir y cydweithrediad parod gan y Clwb Hwylio ar bob achlysur

(ii)           Gwelwyd gwelliant o ran problemau gyda’r badau dŵr personol ac unwaith y derbynir trefniant cenedlaethol, fe ellir anfon neges allan i phob morwr

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ch)   Mordwyo

 

Adroddwyd bod yr Harbwr Feistr yn gwneud ei orau i gadw’r cymhorthyddion ar safle a sicrhawyd y byddai Bwi Rhif 2 ar y safle cyn Gwyl Y Pasg. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(d)          Cynnal a Chadw

 

Amlinellodd yr Harbwr Feistr ei raglen waith dros gyfnod y gaeaf fel a ganlyn:

 

7.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol:

 

a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

Cofnod:

Penderfynwyd:        Ethol Mr Dave Williams fel sylwedydd i gynrychioli Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar yr isod:

 

·         Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

·         Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

·         Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

8.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 22 Mawrth 2018.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Nodi y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 22 Mawrth 2018.