Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mr Brian Bates (Bad
Achub), Mr Barry Davies
(Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
I dderbyn a chadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgr Harbwr a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2018. Cofnod: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 13 Tachwedd 2018. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai
cywir. |
|
ADRODDIAD GAN YR UWCH SWYDDOG HARBYRAU PDF 69 KB I dderbyn adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Diweddariad ar Faterion Rheoli’r
Harbwr Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei adroddiad,
gan nodi: -
Ei fod yn rhagweld y byddai
contractwyr angorfeydd yn gosod angorfeydd yn yr harbwr yn niwedd Mawrth, gan
gyflwyno Tystysgrif Ansawdd Angorfeydd i’r Harbwrfeistr
cyn y gellid angori unrhyw gwch. -
Fod adolygiad o drefniadau harbyrau Gwynedd yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ar drefniadau diogelwch. -
Fod swydd harbwrfeistr
cynorthwyol llawn amser ar fin cael ei hysbysebu, gyda’r bwriad o gael yr harbwrfeistr cynorthwyol newydd yn ei le erbyn y Pasg. -
Cyflwynodd adroddiad ar gyllidebau’r Harbwr, gan nodi tra
bod tanwariant pan gynhyrchwyd yr adroddiad ariannol yn niwedd Chwefror, ac y
byddai’r arian hwnnw wedi cael ei wario ar gwblhau gwaith rhaglenedig erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol. -
Fod gwariant tir ac adeiladau
a nodwyd yn cael ei wario ar renti a chynnal a chadw o gwmpas yr harbwr. Roedd
swyddfa’r harbwrfeistr wedi ei gynnwys yma, a nodwyd
fod lleoliad swyddfa’r Harbwrfeistr yn cael ei
adolygu gan nad oedd yr adeilad presennol yn cwrdd â gofynion modern. Sylwadau a chwestiynau yn codi o’r drafodaeth: -
Faint o geisiadau oedd wedi eu derbyn ar gyfer
angorfeydd? -
Nodwyd pryder fod y broses o benodi harbwrfeistr
cynorthwyol yn araf, a bod yr amserlen yn dynn os oedd bwriad i benodi erbyn y
Pasg. -
Sut y llwyddwyd i beidio gwario dim o’r gyllideb ar gyfer
cychod a cherbydau? Mewn ymateb nododd yr Harbwrfeistr ei fod yn
amcangyfrif fod 75 i 80 ffurflen gais wedi eu derbyn. Byddai’n rhannu’r nifer
terfynol gydag aelodau’r Pwyllgor oedd â diddordeb pan fyddai’r rhif hwnnw ar
gael. Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei fod yn
rhannu pryder aelodau’r pwyllgor am arafwch y broses o benodi hawrbwrfeistr cynorthwyol, ond bod diddordeb wedi ei
ddangos yn y swydd. Nododd fod costau cychod a cherbydau’r Harbwr yn digwydd
dod o gyllidebau eraill ac felly heb eu dangos ar y fantolen. Fodd bynnag,
nododd fod cwch yr Harbwrfeistr wedi bod allan o’r
dŵr ac angen gwaith atgyweirio cyn bod yn ddiogel i’w ddefnyddio, ond nad
fyddai cyllideb ar gael i wneud y gwaith hwnnw tan y flwyddyn ariannol nesaf. (b) Adroddiad yr Harbwrfeistr Cyflwynodd
yr Harbwrfeistr ei adroddiad gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol: -
Fod Harbwr Aberdyfi wedi cael archwiliad gan Dy’r Drindod
ar drefniadau diogelwch a mordwyo, gan ganfod fod
y trefniadau priodol mewn lle. -
Fod cwrs sianel fordwyo
Harbwr Aberdyfi wedi culhau a symud i’r gogledd. ‘Roedd
hyn wedi achosi llawer o waith addasu er
mwyn cynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltu â swyddfa’r harbwr er mwyn cael
gwybodaeth gyfredol am ddiogelwch mordwyo. -
Fod gwaith cynnal a chadw wedi ei
wneud, a gofynnodd am sylwadau ar raglen
waith cynnal a chadw ar gyfer
gaeaf 2018-19. -
Fod arwyddion diogelwch wedi eu gosod
yn Nhywyn ac Aberdyfi yn dilyn adolygiad
manwl ar y cyd gyda’r RNLI. - Fod cyflwr y llwyfan cerdded pren ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi yn debygol o gael ei gynnal ar 12 Tachwedd 2019. Cofnod: Nodwyd byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael
ei drefnu ar gyfer Tachwedd
12 2019 yn Neuadd Dyfi,
Aberdyfi. |