skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Mr John Johnson (Cymdeithas Pysgota Abermaw a Bae Cerdigion, Y Cyng. Rob Williams (BRIG), Dr John Smith (Grwp Mynediad Traphont Abermaw).

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir:  

 

(a)          Cyng. Gethin Williams – aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(b)          Cyng. Julian Kirkham  - yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi

(c)           Mr Mike Ellis – aelod o bwyllgor Ras y Tri Copa

(d)          Mrs Wendy Ponsford – aelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(e)          Cyng. Rob Triggsaelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio

(f)            Mr Martin Paroutygweithredwr masnachol yn yr harbwr, aelod o’r Clwb Hwylio ac Ymddiriedolaeth Cymunedol

 

Ni fu i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd yn ymwneud â’u buddiant personol. 

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 276 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 23 Hydref 2017.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i’r canlynol:

 

Eitem 6 (b) – Cyfeiriwyd at y cofnod a dymunai y Cyng. Rob Triggs nodi nad oedd y stropiau wedi methu.

 

Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod angen adolygu’r ddogfennaeth a phwysleiswyd bwysigrwydd i dderbyn tystiolaeth cyfredol a chywir ynglyn â chyflwr angorfeydd.  Ychwanegwyd bod cyfrifoldeb ar bob perchennog cwch i sicrhau bod angorfeydd yn addas i’r pwrpas.  Cadarnhawyd bod angorfeydd y Cyngor yn addas ac i safon uchel.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â risg i’r Cyngor ynglyn â chyflwr angorfeydd, sicrhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd risg o gwbl i’r Cyngor ond pwysleiswyd y byddai’n achos o bryder ac yn effeithio ar bremiwm yswiriant perchnogion cychod, pe na fyddai’r angorfeydd sydd mewn perchennogaeth preifat i fyny i safon a thystiolaeth perthnasol i warantu hynny. 

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

(a)  Eitem 6 (d) – Cynnal a Chadw

 

Nodwyd y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr yn gallu diweddaru Aelodau o raglen waith cynnal a chadw dros gyfnod y gaeaf.

 

(b)   Penderfyniad (b) yn Eitem 6  -  Ffonau Gwasanaeth Brys

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd neb wedi defnyddio’r ffonau Gwasanaeth Brys ers dros ddwy flynedd a bod signal ffonau symudol ar gyfer 999 ar gael ymhob un o’r lleoliadau maent wedi eu lleoli heblaw Porth Ceiriad (Dwyfor).

 

Penderfynwyd:          Cyfleu i’r Aelod Cabinet perthnasol gymeradwyaeth y Pwyllgor Ymgynghorol i waredu y ffonau Gwasanaeth brys yn Abermaw a Fairbourne oherwydd y costau sydd ynghlwm iddynt a’r diffyg defnydd ohonynt.  

 

(ch)     Eitem (iv) – Diogelwch Parcio

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod wedi trafod gyda’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth ynglyn â’r darn sydd wedi ei liwio gyda llinellau melyn wrth ymyl adeilad SS Dora ac wedi derbyn cadarnhad ei fod yn weithredol fel rhan o’r gorchymyn parcio.  Fe fydd perchennog unrhyw gerbyd sydd yn parcio ar y llecyn dan sylw yn derbyn tocyn parcio gan y Swyddog Gorfodaeth.

 

Ychwanegwyd nad oedd unrhyw benderfyniad pellach wedi ei wneud ynglyn â ffordd ger y compownd.

 

(c)   Digwyddiadau

 

Adroddwyd ei fod yn gamarweiniol yn y cofnod o safbwynt trefnu digwyddiadau yn yr Harbwr ac y dylai’r cofnod ddarllen y dylai “trefnwyr gysylltu â’r Gwasanaeth Morwrol yn gyntaf i gael caniatad i gynnal gweithgareddau”.  

 

(dd)  Ardal Weithgareddau wedi ei raffu i ffwrdd

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod ardal o dan y Bont, yn ymyl yr hen orsaf y Bad achub wedi ei adnabod fel ardal weithgareddau ac y byddir yn rhoi rhes o fwiau melyn i gadw cychod o’r ardal penodol yma, a’i dreilau am gyfnod.  Esboniwyd nad oedd ardal arall ar gael ac nad oedd yn ddŵr a oedd wedi ei adnabod ar gyfer ymdrochi.  Pwysleiswyd yr angen i drefnwyr cystadlaethau ymgymryd ag asesiadau risg er mwyn sicrhau diogelwch cystadleuwyr.

 

(d)  Taclusrwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 240 KB

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r Pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr.

 

(a)          Croesawyd Alison Kinsey, Cydlynydd Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion, a oedd wedi gwneud cais i fynychu’r cyfarfod ac fe esboniodd bwrpas FLAG (Fisheries Local Action Group).  Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

  • Bod 4 grwp yn weithredol yng Nghymru i bwrpas cefnogi’r diwydiant a chymunedau pysgota:  Llandudoch i Abermaw, Ynys Môn a Gwynedd, Bae Abertawe a Cleddau i’r Arfordir
  • Bod FLAG yn derbyn arian Ewrop a bod oddeutu £160,000 ar gael i’w wario hyd at 2020 a hyderir y gellir gwneud defnydd ohono drwy roi gymorth i prosiectau bychan sydd yn cael eu harwain o’r gymuned
  • Bod strategaeth wedi ei lunio yn seiliedig ar angen lleol
  • Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer ariannu prosiectau sydd yn: 

Ø  ychwanegu gwerth

Ø  creu swyddi

Ø  denu pobl ifanc a

Ø  hyrwyddo arloesedd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd

  • Gellir cynnig cymorth ariannol refeniw at brosiectau megis:

 datblygu prosiectau, prosiectau peilot, astudiaethau dichonoldeb, hyfforddiant, mentora, hwyluso ac ymgynghori.

 

Rhoddwyd engreifftiau o’r math o weithgareddau y gellir eu cynnal gyda chymorth FLAG:

 

  • Gŵyl fwyd môr ar y cei
  • Cystadleuaeth coginio bwyd môr rhwng cogyddion y gwestai lleol
  • Anfon fflyd o bysgotwyr allan i’r môr i ddal pysgod
  • Annog yr Ysgol leol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth coginio bwyd môr
  • Cydweithio gyda grwp o bysgotwyr lleol i gynnal gweithgareddau, a.y.b. 

 

I gloi, esboniodd y Cydlynydd bod Mr Neil Storkey o Aberdyfi, yn gweithio’n agos gyda hi, ac y byddai cael cynrychiolydd o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw yn fanteisiol i fod yn rhan o gyfarfodydd FLAG i’r dyfodol.

 

Yn ogystal cyfeirwyd at Cywain sydd yn rhan o brosiectau Menter a Busnes a ddatblygwyd i gefnogi datblygu cynnyrch a marchnadoedd i gynnyrch amaethyddol a physgodfeydd. 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

  • Bod gan Abermaw fwytai ardderchog ac y byddai’n ddelfrydol i gynnal gŵyl fwyd môr ar y cei
  • Bod grŵp Cambrian yn weithredol sydd yn casglu deunyddiau plastig a olchir o’r môr ar y traeth

 

Cynigwyd ac eilwyd i enwebu y Cynghorydd Rob Triggs i fod yn bwynt cyswllt o’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn ac addawodd y Cydlynydd y byddai’n cysylltu ag ef yn uniongyrchol gyda unrhyw wybodaeth pellach.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo i enwebu’r Cynghorydd Rob Triggs i gynrychioli’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn mewn cyfarfodydd grŵp FLAG yn yr ardal.

 

(b)          Nododd y Cadeirydd nad oedd angen i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig dywys yr Aelodau drwy ei adroddiad ond yn hytrach gofynnwyd i Aelodau os oeddynt yn dymuno codi neu amlygu unrhyw fater yn deillio o gynnwys yr adroddiad.  I’r perwyl hwn, amlygwyd y materion canlynol o gynnwys adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig

 

(i)            Clirio Tywod – ar ôl blynyddoedd o waith i gadw’r Afon Ysgethin yn llifo ymddengys bod y twyni tywod yn diflannu i’r môr ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ildio i wneud rhywbeth am y mater.  Yn anffodus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

 

(a)          Cyngor Tref Abermaw

 

·         Angorfeydd

·         Safleoedd tipio tywod

·         Clirio tywod ar y sarn a’r promenad ar gyfer mynediad i’r anabl

·         Clirio tywod ar hyd y llwybr ar top y compownd 

·         Carthu

 

(b)          Cyngor Cymuned Arthog

 

·         Datblygiadau Rheolaeth Pwynt Penrhyn Fairbourne

 

 

(c)  Clwb Hwylio Merioneth

 

·         Mwy o wybodaeth ynglyn â’r honiadau cau ffordd y promenad yn y gaeaf   

·         Rheiliau tu allan i Adeilad Dora

·         Mae’n ymddangos bod mwy o gychod ar draeth y fynwent – a yw rhain mewn defnydd?

 

 

 

Cofnod:

(a)        Cyngor Tref Abermaw -  Carthu

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw beth y gallasai’r Cyngor ei wneud?

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod yn rhaid derbyn bod y sianel yn newid ac yn cau i fyny yn naturiol gyda’r sianel yn mynd yn bellach oddi wrth yr Harbwr, a rhaid bod yn realistig o safbwynt cyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.  Ni ragwelir y bydd gwaith carthu yn digwydd oherwydd cyfyngiadau a’r gost.

 

Nododd y Cynghorydd Rob Triggs ei fod wedi cwrdd â thrafod gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn âg ymgymeryd â’r gwaith ar lefel lleol gyda chychod, ac ar ddeall bod modd gwneud hynny heb drwydded.

 

Amlygwyd pryder os na fyddir yn carthu y gellir colli’r Harbwr.

 

Awgrymwyd y ffordd ymlaen fyddai i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig dderbyn enwau swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod ymhellach goblygiadau o garthu cyn cymryd camau pellach i symud ymlaen.  

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drefnu i weithredu yn unol â’r uchod.

 

(b)       Cyngor Cymuned Arthog - Datblygiadau Rheolaeth Pwynt Penrhyn Fairbourne

 

Nododd Cynghorydd Julian Kirkham bod Cyngor Cymuned Arthog yn gofyn am gymorth gyda’r amcanion isod ar gyfer rheoli’r mewnlifiad sylweddol o draffig twristiaeth sy'n cyrraedd yr ardal: 

 

  • Bod ymyrraeth wedi bod ar arwyddion rhybudd traffig 30mya yn arbennig wrth Tŷ Golff ar y ffordd i Bwynt Penrhyn
  • Mannau parcio i’w paentio wrth faes parcio “dolen pasio”
  • Gofynnwyd am atgyweiriadau i’r ffordd uwchben lle mae’r ffordd yn mynd i lawr i’r giât
  • Marciau igam-ogam DIM PARCIO ar frig yr ardal sydd wedi’i atgyweirio
  • Gofynnir am fannau parcio yn ardal parcio Pwynt Penrhyn
  • Rhwystr cyfyngiad uchder yn ardal y maes parcio – os nad yw hyn yn bosibl, gosod dau arwydd o rybudd wrth fynedfa’r pentref a’r llall yng Ngogledd Penrhyn Drive yn nodi “Cyfyngiad ar gyfer Cerbydau Mawr ym Mhwynt Penrhyn”
  • Gosod peiriant Talu ac Arddangos ynghyd â rhybudd parcio “£1.00 am 4 awr” a defnyddio’r arian tuag at gadw toiledau Friog ar agor

 

Nododd y Cynghorydd Kirkham ymhellach y byddai Cyngor Cymuned Arthog yn fodlon rheoli Llithrfa Fairbourne ond y byddai ef yn bersonol yn ymddeol o’r Cyngor Cymuned ym mis Ebrill a bod angen aelodau ifanc a fydd efallai gyda diddordeb i reoli Pwynt Penrhyn.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(a)          Clwb Hwylio:

 

  • Mewn ymateb i honiadau ynglŷn â chau Ffordd y Promenad, sicrhaodd y Cadeirydd nad oedd wedi clywed dim am yr uchod.
  • O safbwynt rheiliau tu allan i Adeilad Dora, mynegwyd bryder gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am y difrod a greuwyd i’r rheiliau gan gwch masnachol ac y byddir yn gwneud cais am ad-daliad ar gyfer y difrod.  Nodwyd bod bwlch rhwng yr hanner llithrfa a’r stepiau yn achosi risg uchel o safbwynt iechyd a dioglewch i unigolion ddisgyn i’r môr ac yn dilyn asesiad risg, penderfynwyd gosod ffens.  Nodwyd nad oedd y tir yn addas ar gyfer gerbydau barcio a dyna’r rheswm pam y gosodwyd byrddau picnic yna.  Tra’n derbyn yn hanesyddol bod cychod wedi eu gaeafu yno nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 23 Hydref 2018. 

Cofnod:

Penderfynwyd:    Nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 23 Hydref 2018.