Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gelfyddyd (Arts Room), Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd I’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016-17.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016-17.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:     Y Cynghorydd  Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Rob Williams (BRIG), Dr John Smith (Grŵp Mynediad Traphont Abermaw), Y Cyng. David Richardson (sylwedydd yn cynrychioli Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir:  

 

(i)            Cyng. Julian Kirkham – yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi 

(ii)           Mr Martin Paroutyyn aelod o’r Clwb Hwylio ac yn weithredwr masnachol yn yr Harbwr

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 268 KB

I dderbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2016.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Cofnodion cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2016.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.  

 

4.1       MATERION YN CODI O’R COFNODION

 

Eitem 2.1 (a) – Gaeafu Cychod

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd, nododd yr Harbwr Feistr nad oedd wedi derbyn unrhyw gais ar gyfer gaeafu cychod ar ran o faes parcio’r Cyngor.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

6.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 190 KB

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:                         Adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn diweddaru’r Pwyllgor ar faterion rheolaethol Harbwr Abermaw. 

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr Aelodau drwy gynnwys yr adroddiad

 

Darllenodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr adroddiad ynglyn a chynnal a chadw i’r aelodau a gwnaed cyfeiriad penodol i’r isod:

 

(a)  Harbwr Abermaw

 

  • O ran prysurdeb yn yr Harbwr gwelwyd sefydlogrwydd o ran niferoedd gyda 5 cwch wedi gadael ar ddiwedd 2015/16. Fe fydd yr Harbwr Feistr  yn cysylltu gyda’r cwsmeriaid i geisio derbyn rheswm dros adael yr Harbwr. 
  • Gwelwyd cynnydd yn y nifer o gychod pŵer a badau dwr personol a fu wedi cofrestru mewn cymhariaeth á 2015 a braf ydoedd nodi bod y cwynion wedi lleihau o safbwynt y badau dwr personol a chysondeb yn y niferoedd a gofrestrir
  • Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglŷn â chwynion ac a oedd hyn oherwydd nad oedd bwiau wedi eu gosod, esboniwyd drwy drafodaeth y cafwyd cytundeb gan y Pwyllgor Ymgynghorol i beidio rhoi bwiau allan ond os yw yn creu pryder, gellir ail-ystyried y sefyllfa a chadarnhawyd bod bwiau I’r dwyrain o’r Pont y Rheilffordd wedi ei osod.  Fodd bynnag, nodwyd ymhellach nad oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cwyn ynglyn a chamddefnydd gan gychod pwer yn yr Harbwr
  • Ychwanegwyd bod gan y Cyngor drefniadau ffurfiol a phroses i’w ddilyn ar gyfer derbyn cwynion a bo’r Gwasanaeth yn cydymffurfio a chysylltu gyda’r swyddogion priodol pan fo cwyn yn cael ei dderbyn. 
  • O safbwynt derbyn cwynion llafar, eglurwyd y drefn sef bod unrhyw gwyn yn cael ei nodi yn y dyddiadur yn swyddfa’r Harbwr fel sydd yn digwydd ymhob Harbwr arall y Cyngor. Mae unrhyw gwyn ysgrifenedig yn cael ei gofnodi drwy drefn Cwynion y Cyngor
  • Bod y Cod Diogelwch Morwrol yn berthnasol i bob Harbwr ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd.  Fe fydd archwiliwr allannol yn treulio amser gyda’r Harbwr Feistr i adolygu’r cod ac sustemau’r holl harbyrau dan reolaeth y Cyngor ym mis Ionawr 2017.
  • Yn ystod yr haf, ni chodwyd unrhyw fater o sylw sy’n berthnasol i ddyletswyddau statudol yr Harbwr a hyderir y bydd hyn yn parhau
  • Cyfeiriwyd at y trychineb ym mis Awst lle gollodd dau fachgen ifanc eu bywydau a thalwyd teyrnged i staff yr Harbwr, staff y Gwasanaeth, y Bad Achub a’r gymuned leol am eu hymdrechion clodwiw yn ystod y digwyddiad hwn
  • Yn sgil y digwyddiad uchod, cynhaliwyd cyfarfod gydag Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd, ac asiantaethau perthnasol eraill  i drafod materion diogelwch y cyhoedd ac yn benodol cynllun ar gyfer arwyddion er ceisio gwella gwybodaeth i ymwelwyr a defnyddwyr y traeth i’r dyfodol
  • Bu i un cwch dorri’n rhydd o’i angorfa yn ystod gwyntoedd cryf a bu’n rhaid cau Pont y Rheilffordd am gyfnod byr er mwyn galluogi Gwylwyr y Glannau a criw y Bad Achub I dynnu’r cwch oddi ar y bont. Cadarnhawyd na chafodd difrod ei achosi i’r bont yn dilyn y digwyddiad hwn. Fe archwilwyd y rheilffordd gan arbenigwyr rheilffyrdd er sicrhau na chafodd difrod ei achosi i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 192 KB

 

(a)         Adroddiad ar Gynllun Rheoli Pwynt PenrhynCyngor Cymuned Arthog 

 

(b)          Cynllun Busnes (Cynllun Datblygu’r Harbwr)  Cyng. Rob Triggs

 

(c)           Polyn a sbigyn peryg yn Harbwr Aberamffra 

 

(ch)      Diweddariad ynglyn a sefyllfa tywod

 

(d)          Bagiau Tywod / Giat ar frig y llithrfa

 

(dd)      Gorsaf Danwydd Petrol

 

(e)        Angorfeydd

 

(f)            Bysedd y Pontwn

 

(ff)       Pysgod Marw

 

(Copi o fanylion (dd) i (ff) yn amgaeedig)

 

 

 

 

 

 

 

Cofnod:

(a)  Cynllun rheoli Pwynt Penrhyn

 

Diolchodd y Cyng. Julian Kirkham, Cyngor Cymuned Arthog, i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am ei gymorth a’i gefnogaeth mewn goresgyn rhai o broblemau parcio ym Mhwynt Penrhyn.

 

Fodd bynnag, roedd faniau campio o bob maint yn anwybyddu’r arwydd “Dim Parcio Dros Nos”.  Nodwyd bod rhywun wedi troi'r arwydd fel nad ydyw yn weledol a gofynnwyd a fyddai modd i’r Gwasanaeth Morwrol ail-osod yr arwydd.   Nodwyd ymhellach  bod faniau campio yn enwedig y rhai mwy wedi cymryd i barcio yn yr ardal uwchben y llithrfa ac yn anwybyddu’r arwydd ac awgrymwyd y gall arwydd arall “Dim Parcio Dros Nos” gael ei osod lle mae’r cylch bwi achub bywyd.

 

Deallir hefyd bod Adran Trafnidiaeth yn bwriadu rhoi arwyddion 30 m.y.a. ar y ffordd i’r pwynt. A oedd hyn yn golygu y gallai cerbydau sydd wedi parcio dros nos ar y briffordd fod yn destun erlyniad.  Ychwanegwyd nad oedd mannau parcio ar y cylch troi.  Roedd un o aelodau’r Cyngor Cymuned wedi ymchwilio i is-ddeddfau ynglyn a “gwersylla gwyllt”.

 

Gwnaed cais i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am bwynt cyswllt yn yr Adran Gyfreithiol fel bo Clerc Cyngor Cymuned Arthog yn gallu cysylltu i wneud cais am gyfarfod ac i archwilio’r posibilrwydd i Bwynt Penrhyn fod ynbwynt arbrawf”.

 

Nodwyd bod Rheilffordd Fairbourne yn cytuno y gellid gosod giât i stopio faniau campio ddefnyddio’r ardal uwchben y llithrfa;  amcan cyntaf y Cyngor Cymuned fyddai gosod y giât a  gosod clo gyda chod pwrpasol, lle y gellir ei roi i ddeiliad “bona fide” am drwydded ddi-dâl i lansio eu cwch, ar ôl gwneud cais i Gyngor Cymuned Arthog am drwydded.   

 

Mewn ymateb, adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig:

 

·         Bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsoddi mewn arwyddion a chytunwyd i roi giât yma ond derbyniwyd gwrthwynebiad a bu’n rhaid ail-ystyried oherwydd bod y ffordd yr unig fynediad i safle lansio cychod Pwynt Penrhyn

·         Croesawyd bod Adran Trafnidiaeth wedi cytuno i roi arwyddion 30 m.y.a. ar y ffordd i’r pwynt

·         Bod problemau parcio dros nos yn bodoli ledled y Sir a’i fod yn anodd ei reoli

·         Cytunwyd y byddai’r Harbwr Feistr yn gosod arwyddion ychwanegol ar y safle cyn diwedd mis Mawrth 2017 ac yn trwsio’r arwydd a fu wedi ei ddifrodi cyn diwedd 2016

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

 

(b)          Cynllun Busnes (Cynllun Datblygu’r harbwr)

 

(i)            Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a chynllun i ddatblygu’r harbwr, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd gan y Gwasanaeth Morwrol y gyllideb a’r adnoddau i arwain ar ddatblygiadau. 

 

Nododd y Cadeirydd ymhellach bod y Grŵp Llywio Cymunedol yn ystyried prosiect ehangach a’i fod yn gynamserol i drafod cynllun datblygu’r harbwr hyd nes y gwelir beth fydd adwaith datblygiad y Grŵp Llywio dros y flwyddyn nesaf.

 

(ii)         Yng nghyd-destun ymholiad ynglyn a’r tir tu ol i swyddfa’r Harbwr Feistr, gofynnwyd i’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr edrych ar y posibilrwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

PROSIECTAU GWASANAETHAU ABERMAW pdf eicon PDF 330 KB

Ar gais y Cadeirydd, i dderbyn, er gwybodaeth, restr o prosiectau gwasanaethau Abermaw drafodwyd gan y Grwp Llywio Cymunedol. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

                                                 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, restr o brosiectau gwasanaethau Abermaw drafodwyd gan y Grwp Llywio Cymunedol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r rhestr.

 

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 14 Mawrth 2017.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 14 Mawrth 2017.