Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y
Dr Einir Young (Cadeirydd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Nodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. . |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21
Ionawr, 2019 fel rhai cywir. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - CYNLLUN CORFFORAETHOL DRAFFT PDF 45 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn
gwahodd sylwadau ar ymgynghoriad yr Ombwdsmon ar eu Cynllun Corfforaethol
drafft. Gan gyfeirio at
DPA 4 ar dudalen 8 o’r adroddiad, nodwyd bod hyd at 12 mis yn gyfnod hir a
phryderus i’r achwynydd a’r sawl sy’n destun cŵyn Cod Ymddygiad sy’n cael
ei hymchwilio. Ar yr un pryd,
cydnabyddid bod pwysau trwm ar swyddfa’r Ombwdsmon, yn enwedig o ystyried natur
a nifer y cwynion iechyd sy’n cael eu cyfeirio atynt. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 48 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y
Swyddog Monitro yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion
ffurfiol yn erbyn aelodau. Yn ystod y
drafodaeth, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:- ·
Yn
wyneb penderfyniad yr Ombwdsmon i beidio ymchwilio i nifer o gwynion oherwydd
diffyg tystiolaeth, pwysleisiwyd pwysigrwydd cynghori pobl i gadw cofnod manwl
o’r hyn sydd wedi digwydd a phryd mae wedi digwydd, fel y gellir cyflwyno hynny
fel tystiolaeth i gefnogi’r achos. ·
Bod
angen datblygu’r neges o ran yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan aelodau o safbwynt
ymddygiad. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |