Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Ymddiheuriadau:- Aled Jones (Aelod Annibynnol) a Mr Richard Parry Hughes (Aelod Pwyllgor Cymuned)

 

Croesawyd y Cynghorydd Dewi Roberts i’w gyfarfod cyntaf o’r pwyllgor hwn.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Nid oedd yna fater brys i’w drafod.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 221 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017 fel rhai cywir.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2016 - 2017 pdf eicon PDF 388 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyddrafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2016-2017.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

 

Nodwyd na chyfeiriwyd unrhyw gŵyn o dorri’r Cod Ymddygiad at y pwyllgor am benderfyniad yn ystod y flwyddyn, ond y gallai un o’r cwynion a restrwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad gael ei chyfeirio at sylw’r pwyllgor maes o law.

 

Cyfeiriwyd at ddau wall bychan yn y fersiwn Saesneg o’r rhan o’r adroddiad sy’n cyfeirio at waith y pwyllgor yn ystod 2016-2017, sef:-

 

Goddefebauangen dileu’r frawddegBoth applications were turned down’ yn yr ail baragraff.

 

Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymrucamsillafiad o’r gairrequest’ yn y frawddeg olaf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r drafft o adroddiad blynyddol gyda’r mân gywiriadau a nodwyd, a’i gyflwyno i gyfarfod 5 Hydref o’r Cyngor.

6.

TREFN DATRYS LLEOL AR GYFER CYNGHORAU TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad y Swyddog Monitro yn ceisio cefnogaeth y pwyllgor i Drefn Datrys Lleol Un Llais Cymru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Croesawyd y protocol fel dull o geisio datrys cwynion lefel isel am aelodau yn lleol, ond mynegwyd peth pryder nad oedd cyfnod penodol o amser wedi’i bennu ar gyfer y broses.

 

Cefnogwyd argymhelliad i annog Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu trefn o’r fath.  Nodwyd hefyd y byddai’n fuddiol gofyn i’r cynghorau hynny adrodd yn ôl i ddweud a ydynt wedi penderfynu derbyn y canllawiau ai peidio.

 

          PENDERFYNWYD cefnogi Trefn Datrys Lleol Un Llais Cymru ac annog Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu trefn o’r fath.

7.

DISGRIFIADAU ROL AELODAETH PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethadroddiad y Swyddog Monitro yn atodi copi o’r adroddiad ar ddisgrifiadau rolau aeth gerbron y Cyngor llawn ar 15 Mehefin ynghyd â chopi o’r Swydd Ddisgrifiadau perthnasol i’r Pwyllgor Safonau.

 

Gofynnwyd i’r swyddogion roi gwybod i’r aelodau pan fydd yn amser iddynt arwyddo’r swydd ddisgrifiadau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

8.

HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 189 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2016-17 ac ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2017-18.

 

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y swyddogaethau a restrwyd yng ngholofn gyntaf yr hunan asesiad gan nodi pa asesiad a gredai oedd yn berthnasol iddynt gan ddefnyddio’r categorïau canlynol:-

 

·         Categori 1 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn yn cyflawni’r swyddogaethau, neu yn achos tasgau penodol, nad yw’r angen i weithredu wedi codi.

 

·         Categori 2 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth yn sylweddol, gan gynnal yr un safon â llynedd.

 

·         Categori 3 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth, ond bod angen rhoi sylw pellach.

 

·         Categori 4 – Dim tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth a bod sail i awgrymu bod angen rhoi sylw i’r maes.

 

Eglurwyd hefyd:-

 

·         Bod angen nodi’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r categori mae’r pwyllgor yn ei ddyfarnu.

·         O ddyfarnu categori i bob swyddogaeth a nodi’r dystiolaeth, gallai’r pwyllgor ddod i gasgliad ynglŷn â pha gamau pellach sydd angen eu cymryd, os o gwbl.

·         Y byddai unrhyw awgrymiadau am gamau pellach yn bwydo trwodd i raglenni gwaith y pwyllgor i’r dyfodol.

Nodwyd y dylai rhaglen waith 2016-2017 (Atodiad 2 i’r adroddiad) gynnwys y rheswm dros beidio cynnal cyfarfod o’r pwyllgor ar 27 Mawrth, 2017.

 

PENDERFYNWYD

(a)        Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig ac wedi’u tanlinellu):-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

TYSTIOLAETH

CAMAU PELLACH

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

2

Mae’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill

 

Nifer fechan iawn o gwynion sy’n dod gerbron.

 

Darperir rhaglen anwytho ar gyfer aelodau newydd.

 

Cadw golwg ar batrymau cwynion.

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

1

Cefnogi rhaglen anwytho ar gyfer y Cyngor newydd.

 

Mae bron pob aelod wedi bod yn y sesiynau byr ar y Cod Ymddygiad ar y dyddiau anwytho sy’n cyflwyno’r hanfodion i’r aelod.  Mae tua 20 aelod wedi mynychu hyfforddiant pellach ac mae rhagor o hyfforddiant i ddod ym mis Medi.

Y pwyllgor i ystyried y data adborth o’r sesiynau hyfforddiant a thargedu yn effeithiol ar sail hynny.  Dylai’r adroddiad meintiol hefyd nodi pa ganran o’r aelodau sydd wedi derbyn yr hyfforddiant.

 

Ystyried dulliau o gynyddu diddordeb aelodau yn y pwnc.

 

Y pwyllgor i dderbyn adroddiad ar sut mae aelodau cymuned a sir yn cael eu hyfforddi gyda’r bwriad o lunio cynllun fydd yn defnyddio dulliau hyfforddi llai confensiynol.

 

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

2

Rhoddwyd ystyriaeth i ddiwygiadau i’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer eu mabwysiadu gan y Cyngor llawn.

 

Ystyried os oes angen ystyriaethau mwy lleol ar y Cod Ymddygiad Enghreifftiol.

 

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

2

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau.

Derbyn adroddiadau blynyddol gan yr Ombwdsmon a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 111 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethadroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Awgrymwyd bod lle i ddadansoddi’r cwynion hyn ymhellach er mwyn gweld oes patrwm o yn bodoli o ran y mathau o feysydd sy’n achosi problemau yng Ngwynedd

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

10.

FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2016 (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethcofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2016.

 

Nodwyd y cynhaliwyd cyfarfod pellach o’r fforwm ym mis Ebrill, ond na dderbyniwyd y cofnodion hyd yma.

 

Nodwyd y dylai’r fforwm gyhoeddi dyddiadau eu cyfarfodydd yn ddigon buan i’r mynychwyr allu bod yn bresennol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at eitem 6 o’r cofnodionCofrestr o Ddiddordebau, gan nodi bod buddiannau cynghorwyr Gwynedd bellach yn cael eu cyhoeddi drwy’r system Modern Gov ar wefan y Cyngor.  Gan gyfeirio at y ffaith nad yw meddalwedd Modern Gov yn dangos opsiwn Cymraeg i alluogi aelodau i lenwi eu cofrestr safonol ar-lein, pwysleisiwyd bod dyletswydd ar yr holl gynghorau dan y ddeddf i gyhoeddi popeth yn ddwyieithog a’i bod yn annheg i’r cynghorau wneud y pwynt ei bod yn rhy ddrud i dalu i’r cwmni i ddiweddaru’r meddalwedd. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2014 - 2016 pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

 

 

 

 

Dilynir y cyfarfod ffurfiol gan sesiwn hyfforddiant byr i’r aelodau ar rôl a threfniadau’r pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethadroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer y blynyddoedd 2014-2015 a 2015-2016 a gyhoeddwyd gyda’i gilydd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 11.00am a daeth i ben am 12.15pm.