Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Dr Einir Young a Mr David Clay.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim

4.

COFNODION pdf eicon PDF 290 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2015 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2015 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro’r cyfeiriad yn eitem 5 at y Ddeddf Llesiant a Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig i ddarllen “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig”.

 

 

5.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) 2015 RHAN 4 pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:-

·         Adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor ar Ran 4 o Fil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, cyn belled â’i fod yn ymwneud â swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau, i’w hystyried fel rhan o baratoi ymateb corfforaethol i’r Bil.

·         Y drafft o Ran 4 o’r Bil.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro:-

·         Y byddai Rhan 4 o’r Bil yn gosod dyletswyddau newydd ar bwyllgorau safonau i ymdrin â chwynion fod aelodau o’r darpar gynghorau sirol newydd wedi torri’r dyletswyddau statudol a osodir arnynt o safbwynt perfformiad eu swyddogaethau, megis mynychu cyfarfodydd, cynnal cymorthfeydd rheolaidd, ateb gohebiaeth, cwblhau cyrsiau hyfforddiant mandadol a chyhoeddi adroddiad blynyddol.

·         Y disgwylid hefyd i bwyllgorau safonau fonitro cydymffurfiaeth arweinyddion y grwpiau gwleidyddol gyda’u dyletswyddau i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grŵp gan hefyd gynghori a threfnu hyfforddiant perthnasol.

·         Y byddai dyletswydd hefyd ar bwyllgorau safonau i ddarparu adroddiad blynyddol i’r Cyngor yn disgrifio sut y mae wedi gweithredu’r swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn.

·         Bod y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion am fethiant honedig gan gynghorydd i gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir yn disgwyl bod y Swyddog Monitro yn cyfeirio mater i gadeirydd y Pwyllgor Safonau.  Petai’r Swyddog Monitro a’r cadeirydd yn ystyried na ddylai mater gael ei ymchwilio, ni all ymchwiliad gymryd lle, ond petai naill ai’r Swyddog Monitro neu’r cadeirydd yn ystyried y dylai’r mater gael ei ymchwilio, byddai’n rhaid i’r Swyddog Monitro ei ymchwilio gan ddarparu adroddiad o’r ymchwiliad i’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno’r sylwadau a ganlyn ar Ran 4 o Fil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, i’w hystyried fel rhan o baratoi ymateb corfforaethol i’r Bil:-

·         Cefnogir y syniad o gyflwyno dyletswyddau statudol oherwydd ei fod yn gosod fframwaith y dylid gweithio oddi fewn iddo, ond mae angen mwy o eglurder ynglŷn â’r elfen o hyblygrwydd, e.e. a yw’n dderbyniol i aelod egluro nad yw’n cynnal cymorthfeydd oherwydd ei fod yn gwneud y gwaith mewn ffordd arall, ac oes disgwyl i aelod gydnabod derbyn gohebiaeth neu ddarparu ymateb llawn o fewn 14 diwrnod?

·         Bydd aelodau o’r darpar gynghorau sirol newydd yn arwyddo i fyny i’r gyfundrefn hon ac felly’n ymwybodol o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt.

·         Mae’r drefn ymchwilio a gorfodi yn mynd â’r Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau i faes rheoli perfformiad aelodau unigol a rhaid cwestiynu ai’r Pwyllgor Safonau yw’r arf gorau i ymdrin â than berfformiad o fewn y Cyngor a dylid ystyried dulliau amgen o sicrhau perfformiad, megis y drefn lwfansau.

·         Mae pryder ynglŷn â goblygiadau adnoddau'r gyfundrefn arfaethedig, yn enwedig o safbwynt y Swyddog Monitro a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau oherwydd bod y gofynion yn eang iawn a gallai droi swyddogaeth y Cadeirydd yn swydd llawn amser bron a’i gwneud yn anodd cael pobl i ymgeisio i ddod ar y Pwyllgor Safonau.

 

6.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 106 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Ymhellach i’r adroddiad, nododd yr Uwch Gyfreithiwr fod dwy gŵyn arall i law ers ysgrifennu’r adroddiad ac y byddai’n adrodd arnynt i’r cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

 

7.

CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU 2015 pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth:-

·         Adroddiad y Swyddog Monitro ar Gynhadledd Safonau Cymru 2015 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref.

·         Adroddiad o’r gynhadledd a baratowyd gan Gyngor Dinas Caerdydd oedd yn cynnal y digwyddiad.

 

Diolchodd yr aelodau fu yn y Gynhadledd i’r Swyddog Monitro a’i staff am wneud y trefniadau gan nodi y bu’n fuddiol iawn cael y cyfle i rannu barn gydag aelodau pwyllgorau safonau eraill.

 

Diolchodd y Swyddog Monitro i’r aelodau am ddod i’r Gynhadledd gan roi crynodeb o’r prif negeseuon yn deillio o’r cyflwyniadau a’r gweithdai.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda diolch.

 

 

8.

ARSYLLU CYFARFODYDD

Derbyn adborth ar lafar gan yr aelodau annibynnol yn dilyn arsyllu cyfarfodydd Cyngor Gwynedd / cynghorau tref a chymuned.

Cofnod:

Gwahoddwyd yr aelodau annibynnol i roi adborth ar lafar yn dilyn arsyllu cyfarfodydd Cyngor Gwynedd neu gynghorau tref / cymuned.

 

Cyfeiriodd Mr David Wareing at anawsterau a gafodd wrth geisio mynd i arsyllu cyfarfod o gyngor cymuned gan fod y Cyngor hwnnw’n gweithredu’n uniaith Gymraeg.  Eglurodd, petai wedi troi i fyny’n ddirybudd, na fyddai wedi gallu dilyn y drafodaeth a bod pobl ddi-gymraeg yn cael eu heithrio.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod gofyn i gynghorau cymuned weithredu yn unol â’u cynlluniau iaith fyddai’n gosod eu trefniadau ar faterion megis cyfieithu ar y pryd.  Fodd bynnag, awgrymodd y dylai aelodau gadarnhau beth oedd trefniadau’r cynghorau cymuned ymlaen llaw gan ei fod yn ymwybodol bod amrywiaeth o gyngor i gyngor ynglŷn â phryd a sut y darperir gwasanaeth cyfieithu.  Ychwanegodd y dylid cyfeirio unrhyw gŵyn ynglŷn â diffyg darpariaeth at y cyngor cymuned dan sylw.

 

Atgoffwyd yr aelodau annibynnol fod modd iddynt arsyllu nifer o bwyllgorau a chyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ar y gweddarllediad ar wefan y Cyngor.