skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Ymddiheuriad:-         Y Cynghorydd Lesley Day

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

          Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

             Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

         

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 48 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2015 fel rhai cywir.

 

5.

AELODAETH Y PWYLLGOR

Cyflwyno adroddiad llafar y Swyddog Monitro.

Cofnod:

 

Nododd y Swyddog Monitro â thristwch y disgwylid cadarnhad meddygol ynglŷn â sefyllfa Linda Byrne a’i bod yn ymddangos felly y byddai yna sedd wag ar y pwyllgor.  Byddai’n gwneud datganiad ac yn trefnu i ffurfioli hynny yn yr wythnosau nesaf gan hysbysebu am aelod annibynnol newydd ar y pwyllgor maes o law.

 

6.

CEISIADAU AM ODDEFEB pdf eicon PDF 27 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar ddau gais am oddefeb gan aelodau o Gyngor Cymuned Bethesda mewn perthynas â thrafodaethau ynglŷn â throsglwyddo canolfannau lleol o berchnogaeth Cyngor Gwynedd i berchnogaeth y Cyngor Cymuned (neu gorff cymunedol arall).

 

Manylwyd ar y ddau gais yn unigol, sef:-

 

·         Cais gan y Cynghorydd Godfrey Northam, oedd yn Gadeirydd Pwyllgor Canolfan Rachub ac yn aelod o Bwyllgor Canolfan Cefnfaes, am hawl i siarad yn unig pan drafodir y mater.

·         Cais gan y Cynghorydd Walter Watkin Williams, oedd yn aelod o Bwyllgor Canolfan Cefnfaes, am hawl i siarad a phleidleisio pan drafodir y mater.

 

Nododd y Swyddog Monitro ymhellach:-

·         Nad oedd yr un o’r ddau aelod wedi’u penodi ar y cyfryw bwyllgorau gan y Cyngor Cymuned.

·         Bod gan y Pwyllgor Safonau hawl i ganiatáu goddefeb os yw’r sefyllfa yn dod o fewn un (neu fwy) o’r sefyllfaoedd a restrir yn y rheoliadau perthnasol ac nad oedd rheswm i gredu nad oedd y ddau gais dan sylw yn cyrraedd y sefyllfa olaf ar y rhestr, sef “mae’r busnes yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol yr wyf yn aelod o’i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli ac nid oes gennyf unrhyw fuddiant arall”. 

·         Nad oedd y ffaith bod y ceisiadau’n cyrraedd y sail yma’n golygu y caniateid goddefeb yn awtomatig ac ‘roedd yn rhaid i’r pwyllgor ystyried a oedd budd cyhoeddus o ganiatáu i’r aelodau gymryd rhan, er bod y Cod Ymddygiad yn darparu na ddylent gael gwneud hynny.

·         Nad oedd yn eglur yn yr achosion hyn pam bod angen i’r ddau aelod penodol yma siarad ar y mater.  ‘Roedd y Cynghorydd Northam yn teimlo bod rhaid iddo gymryd rhan er mwyn sicrhau bod y Cyngor Cymuned yn llawn ddeall y sefyllfa ynglŷn â’r neuadd bentref, ond diau y gallai rhywun arall esbonio hynny.  ‘Roedd y Cynghorydd Northam hefyd wedi nodi ar ei ffurflen bod raid i 4 allan o’r 13 aelod ar y Cyngor Cymuned ddatgan buddiant yn y mater, ond ni fyddai hynny’n effeithio ar gworwm.

·         Pe caniateid y ceisiadau hyn, byddai’n rhaid i’r pwyllgor ganiatáu ceisiadau tebyg yn y dyfodol, a heb wybodaeth ynglŷn â pham mae’r angen i siarad yn cyfiawnhau goddefeb, ei bod yn anodd gwybod pa gynsail sy’n cael ei greu.

 

Cytunodd yr aelodau â sylwadau’r Swyddog Monitro gan nodi bod yr wybodaeth yn denau ac yn annelwig ac nad oedd yn hysbys i’r pwyllgor pam yn union fod y ceisiadau hyn wedi’u cyflwyno.

 

Nodwyd ymhellach y gallai’r pwyllgor hwn dderbyn llu o geisiadau tebyg gan fod nifer o gynghorau cymuned yn trafod trosglwyddo asedau ar hyn o bryd ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol darparu nodyn cynghori ar gyfer y clercod yn amlinellu’r disgwyliadau.  Atebodd y Swyddog Monitro fod cyfres o gyrsiau ar gyfer clercod ac aelodau cynghorau cymuned yn cychwyn y noson honno ac y gellid codi’r mater hwn yno.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y ddau gais am oddefeb ar sail diffyg gwybodaeth.

7.

FFRAMWAITH LLYWODRAETHU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 391 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg yn egluro:-

 

·         Sut y datblygwyd y Fframwaith Llywodraethu;

·         Beth yw’r drefn ar gyfer adolygu’r fframwaith ac adrodd ar y canlyniadau;

·         Rôl y Pwyllgor Safonau o fewn y fframwaith.

 

Codwyd cwestiynau gan aelodau ynglŷn â’r Ddeddf Llesiant a Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig.  Ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r cwestiynau hynny, gan egluro y byddai’r gofynion newydd a gyflwynir gan y Ddeddf yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y Fframwaith Llywodraethu, ond nad oedd yn disgwyl y byddai llawer o elfennau newydd yn cael eu hychwanegu gan fod y Fframwaith wedi ei ddylunio i gwmpasu holl weithgareddau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad a chroesawu’r cynnydd yn sgôr effeithiolrwydd y Pwyllgor Safonau. 

 

8.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 7 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

Ymhellach i’r adroddiad, nododd yr Uwch Gyfreithiwr fod yr Ombwdsmon bellach wedi penderfynu peidio ymchwilio i gŵyn 2.3 Achos 201503255, ac felly nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gŵyn agored ar hyn o bryd yn erbyn cynghorwyr Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adrodddiad.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON pdf eicon PDF 5 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu’r rhannau hynny o adroddiad blynyddol yr Ombwdsmon am y flwyddyn 2014-15 sy’n berthnasol i gwynion cod ymddygiad.

 

Croesawyd bwriad yr Ombwdsmon i gymryd sefyllfa gadarnach yn y dyfodol wrth gyfeirio cwynion ‘lefel isaf’ yn ôl i swyddogion monitro i gael eu trin yn lleol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

 

10.

ARSYLLU CYFARFODYDD

Derbyn adborth ar lafar gan yr aelodau annibynnol yn dilyn arsyllu cyfarfodydd Cyngor Gwynedd/cynghorau tref a chymuned.

Cofnod:

Gwahoddwyd yr aelodau annibynnol i roi adborth ar lafar yn dilyn arsyllu cyfarfodydd Cyngor Gwynedd neu gynghorau tref / cymuned.

 

Nododd aelod nad oedd rhestr o gyfarfodydd cynghorau cymuned ar gael yn unman.  Atebodd yr Uwch Gyfreithiwr fod gan y Cyngor restr o glercod y cynghorau cymuned a bod rhaid cysylltu â hwy yn unigol.  Awgrymwyd hefyd y gallai’r aelodau arsyllu ar we-ddarllediadau o gyfarfodydd Cyngor Gwynedd.

 

Cyflwynodd Miss Margaret Jones adborth yn dilyn arsyllu cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanystumdwy gan nodi:-

 

·         Bod y Cyngor Cymuned yn cyfarfod mewn gwahanol leoliadau, sydd i’w groesawu o safbwynt bod yn gynhwysol ac ystyried y gymuned gyfan.

·         Bod ystod dda o’r gymuned yno, gyda’r oedran yn amrywio o 20 i 80, a merched yn bresennol.

·         Bod y clerc yn effeithiol iawn, yn egluro popeth ac yn dilyn popeth i fyny.

·         Bod y cyfarfod yn un trefnus a chynhwysfawr iawn.

·         Bod yr agenda’n amrywiol, gyda 12 eitem, gan gynnwys un eitem eithriedig, dan ystyriaeth.

·         Bod y clerc wedi sôn wrth yr aelodau am yr hyfforddiant a ddarperir ar eu cyfer gan y Swyddog Monitro.

·         Bod y Cyngor Cymuned yn adrodd yn fisol i’r papur bro a bod hyn yn ffordd dda o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â gweithgarwch y Cyngor Cymuned.

 

Trafodwyd rhai materion cysylltiol, sef:-

 

·         Rôl aelod sy’n dyst i achos o dorri’r Cod Ymddygiad.  Nododd y Swyddog Monitro y gallai aelod ofyn i’r clerc roi arweiniad ar y mater neu gysylltu ag ef gan fod gan y Pwyllgor Safonau ddyletswydd i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad yn y Cyngor hwn ac yn y cynghorau cymuned a thref.  Pwysleisiwyd, fodd bynnag, mai cyfrifoldeb yr aelod ei hun yw ymrwymo i’r Cod.

·         Mynediad i’r cyhoedd i gyfarfodydd y Cyngor.  Atebodd y Swyddog Monitro nad oedd trefn i rwystro’r cyhoedd i mewn, ond yn ymarferol ac o safbwynt iechyd a diogelwch, na ellid cael sefyllfa lle mae adeiladau’r Cyngor yn gwbl agored.