Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. . Cofnod: Ms Linda Byrne a’r Cynghorydd Eryl
Jones-Williams. Cyfeiriwyd at waeledd Ms Linda Byrne a nododd y
Cadeirydd ei bwriad i anfon gair at y teulu. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym
marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o'r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:- (a)
13
Ebrill, 2015 (cyfarfod arbennig) (ynghlwm) (b)
20
Ebrill, 2015 (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:- (a) 13 Ebrill,
2015 (cyfarfod arbennig) (b) 20 Ebrill,
2015 |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2014-15 PDF 180 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer
y cyfnod 1 Ebrill 2014 hyd at 31 Mawrth 2015. Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen. Nodwyd y byddai’r cyn-Gadeirydd a’r Swyddog Monitro
yn ychwanegu rhagair i’r adroddiad
cyn ei gyhoeddi. Nododd yr Uwch Gyfreithiwr
y bwriedid cylchredeg yr adroddiad i glercod y cynghorau cymuned. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r drafft o adroddiad blynyddol a’i gyflwyno i gyfarfod 8 Hydref o’r Cyngor a cheisio
cyflwyno’r adroddiadau blynyddol i Gyfarfod Blynyddol y Cyngor yn y dyfodol, neu
os nad ydi
hynny’n bosib, i gyfarfod Gorffennaf. |
|
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn adrodd
fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi
trydydd fersiwn ei Ganllawiau ar
y Cod Ymddygiad i Aelodau Awdurdodau
Lleol yng Nghymru ac yn amgáu’r
canllawiau ar gyfer Cynghorau Sir. Nododd y Swyddog Monitro fod y fersiwn hwn
o’r Canllawiau yn ymgorffori:- ·
Y prawf dau-gam diwygiedig y bydd yr
Ombwdsmon yn ei ddefnyddio wrth ystyried cwynion ynghylch torri Cod Ymddygiad
Aelodau sydd bellach yn cynnwys trothwy budd cyhoeddus. ·
Cyfarwyddyd pellach ar ddefnydd o gyfryngau
cymdeithasol a mynegiant gwleidyddol a siartiau llif fydd yn rhoi cymorth ac
eglurder i aelodau ar faterion buddiannau. Nododd ymhellach:- ·
Fod angen cylchredeg yr arweiniad hwn i holl
aelodau Cyngor Gwynedd ac i glercod y cynghorau cymuned ac y byddai hefyd yn
fuddiol cynnig gweithdy hyfforddiant ar gyfer aelodau’r pwyllgor hwn a holl
aelodau’r Cyngor i roi diweddariad ar y Cod Ymddygiad yn sgil y newidiadau. ·
Y byddai hyfforddiant yn cael ei drefnu ar
gyfer y cynghorau cymuned a thref yn yr Hydref a gellid, yn y cyfamser,
ddatblygu model o drefn datrys yn lleol ar eu cyfer gan awgrymu ei fod yn
ffordd iddynt ddatrys ambell fater syml eu hunain oherwydd y prawf budd
cyhoeddus. Pwysleisiwyd bod rhaid i unrhyw becyn cymorth a ddarperir ar gyfer
y cynghorau cymuned a thref fod yn
dalfyriad syml a chlir ac yn cyfeirio
at y ffaith bod yna ragor o fanylion ar gael yn
y ddogfen lawn. PENDERFYNWYD
nodi’r canllawiau diwygiedig ar y Cod Ymddygiad i Aelodau a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. |
|
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu
rhaglen waith ddrafft ar gyfer
y pwyllgor yn dilyn cynnal yr
hunan asesiad yn y cyfarfod diwethaf. Nododd y Swyddog Monitro y ceisid ffurfioli’r drefn o arsyllu pwyllgorau ac y byddai’n dda o beth i’r
aelodau annibynnol fynd i arsyllu i gyfarfod o gyngor cymuned / tref er mwyn magu
dealltwriaeth o sut mae’r cynghorau hyn yn gweithredu. PENDERFYNWYD (a) Cytuno ar y rhaglen
waith a ganlyn a’i diwygio / ychwanegu
ati yn ôl
yr angen:- 5 Hydref, 2015 ·
Adroddiad
Blynyddol yr Ombwdsmon ·
Trefn
Llywodraethu Gorfforaethol ·
Honiadau yn
erbyn Aelodau ·
Trefn Datrys
Leol Model Cynghorau Cymuned 25 Ionawr, 2016 ·
Cofrestr
Rhoddion a Lletygarwch ·
Cofrestr
Datgan Buddiant ·
Adroddiad
Blynyddol y Panel Dyfarnu ·
Honiadau yn
erbyn Aelodau 18 Ebrill, 2016 ·
Honiadau yn
erbyn Aelodau ·
Hunan
Arfarniad a Rhaglen Waith ·
Hyfforddiant (b) Bod
pob aelod annibynnol yn mynd
i arsyllu i un o bwyllgorau
Cyngor Gwynedd neu gyfarfod o gyngor cymuned / tref rhwng nawr a diwedd
Medi ac yn adrodd yn ôl
i’r cyfarfod nesaf. (c) Anfon rhestr cyfarfodydd
Cyngor Gwynedd 2015/16 i’r aelodau annibynnol. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 198 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth – (a) Adroddiad y Swyddog
Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau
ac yn diweddaru’r pwyllgor ar sefyllfa
ynglŷn â chyfarwyddyd
y pwyllgor y dylai’r Cynghorydd Christopher O’Neal dderbyn
hyfforddiant gan y Swyddog Monitro ar y Cod Ymddygiad a holl Brotocolau’r Cyngor sy’n berthnasol
i ymddygiad cynghorwyr yn sgil torri’r
Cod. (b) Rhifyn 4 o Goflyfr y Cod Ymddygiad. Ymhellach i’r adroddiad, nododd yr Uwch Gyfreithiwr:- ·
2.1
Achos 6141/201400682 - Bod
yr Ombwdsmon bellach wedi dod i’r casgliad nad oedd tystiolaeth bod cynghorydd
tref wedi cam ddefnyddio ei safle er mwyn cael mantais ariannol, ac er bod yr
Ombwdsmon wedi dweud ei bod yn debygol bod y cynghorydd wedi cymryd rhan mewn
trafodaeth ar fater lle ‘roedd ganddo fuddiant oedd yn rhagfarnu, ‘roedd wedi
defnyddio’r prawf budd cyhoeddus ac wedi penderfynu nad oedd am ymchwilio. ·
2.2
Achos 5847/201404989 & 5847/201404990 – Bod yr achos hwn wedi cau ond nad oedd yr Ombwdsmon wedi
cadarnhau hynny mewn ysgrifen eto. Ymhellach i’r adroddiad, nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod y
Cynghorydd O’Neal wedi gofyn am wrandawiad er mwyn egluro pam nad oedd cymryd
rhan yn yr hyfforddiant. ·
Bod y
ddeddf yn rhoi grym i bwyllgor safonau, sy’n dod i’r casgliad bod aelod wedi
methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod, gymryd un o dri
phenderfyniad yn unig, sef peidio cymryd unrhyw gamau, ceryddu’r aelod neu ei
atal rhag bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw am gyfnod sydd heb fod yn fwy na chwe mis. ·
Gan
hynny, nad oedd grym statudol y tu cefn i benderfyniad y pwyllgor bod y
Cynghorydd O’Neal i dderbyn hyfforddiant, ac mai argymhelliad yn unig ydoedd. ·
Na
chredai fod budd cyhoeddus mewn parhau i geisio
trefnu hyfforddiant ar gyfer yr aelod ac na ellid chwaith gyfiawnhau’r adnoddau
a’r amser fyddai’n gymryd i gynnal gwrandawiad arall. PENDERFYNWYD (a) Nodi’r adroddiad ar gwynion
ffurfiol yn erbyn aelodau er
gwybodaeth. (b) Gofyn i’r Swyddog Monitro
anfon llythyr at y Cynghorydd Christopher O’Neal yn datgan siomedigaeth y pwyllgor nad yw
wedi manteisio ar yr hyfforddiant
a argymhellwyd ar ei gyfer. |
|
CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU 2015, CAERDYDD, 20 HYDREF, 2015 Cyflwynir
adroddiad ar lafar gan y Swyddog
Monitro. Cofnod: Nodwyd bod gwahoddiad i hyd
at dri aelod o’r pwyllgor fynd
i Gynhadledd Safonau Cymru 2015 yng Nghaerdydd ar 20 Hydref gyda’r Cadeirydd
a’r Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD ceisio
anfon y Cynghorydd Lesley
Day, Ms Jacqueline Hughes a Miss Margaret Jones i’r gynhadledd gyda’r Cadeirydd a’r Swyddog
Monitro. |