Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Dewi Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 93 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH pdf eicon PDF 44 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Monitro i’r pwyllgor fel rhan o’i waith o fonitro safonau o fewn y Cyngor, a gwahoddwyd yr aelodau i nodi, derbyn a chynnig unrhyw sylwadau ar gynnwys yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Nad oedd aelodau’n glir pryd i gofrestru rhodd / lletygarwch ai peidio.  Mewn ymateb, eglurwyd, e.e. nad oedd lluniaeth a ddarperir fel rhan o gyfarfod arferol corff, megis Bwrdd Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), yn lletygarwch, ond bod lluniaeth a ddarperir, er enghraifft, gan gwmni preifat, fel rhan o arddangosfa cyn cyflwyno cais cynllunio, yn fater gwahanol, gan y gall fod ymgais yma i ddylanwadu ar yr aelod.

·         Bod canfyddiad bod cynghorwyr yn derbyn llawer mwy o roddion a lletygarwch nag sy’n digwydd mewn gwirionedd.

·         Mai aelodau’r Cabinet sydd â’r hawl i wneud mwyafrif y penderfyniadau bellach, ac nad oes gan yr aelodau eraill fawr o rôl penderfynu, ac eithrio ar faterion megis cynllunio.

·         Y dylid cynnwys nodyn yn adroddiad blynyddol nesaf y Pwyllgor Safonau yn atgoffa’r aelodau o’r angen i gofrestru unrhyw gynnig o rodd / lletygarwch sy’n werth dros £25, pe derbynnir y cynnig hwnnw ai peidio.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad gyda’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

6.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 49 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod pryder nad oedd aelodau’n sylweddoli pa mor bwysig yw cyflwyno tystiolaeth wrth wneud cŵyn.  Mewn ymateb, nodwyd bod llawer o gwynion yn ymwneud â sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a phwysleisiwyd pwysigrwydd cymryd ciplun (screen shot) neu argraffiad o’r dystiolaeth yn syth rhag ofn i’r postiad ddiflannu.  Nodwyd hefyd, er bod y dystiolaeth yn eithaf eglur mewn rhai achosion, bod yna fathau eraill o achosion sy’n llawer mwy anodd eu profi, ac yn ymwneud â phatrwm ymddygiad sy’n datblygu dros gyfnod o amser o fod yn rhywbeth yn ymddangos yn eithaf di-nod ar y cychwyn i fod yn rhywbeth llawer mwy difrifol.  Roedd achosion o’r fath yn llawer fwy heriol gan fod casglu tystiolaeth yn golygu cofnodi dros gyfnod.  Ychwanegwyd y bwriedid cyfeirio yn yr hyfforddiant aelodau at bwysigrwydd bod yn fyw i’r syniad o gadw cofnod o bopeth.

·         Y dylid cynnwys nodyn yn adroddiad blynyddol nesaf y Pwyllgor Safonau, os bydd hyfforddiant wedi’i gynnal erbyn hynny, yn nodi bod y pwyllgor wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar adeg cyflwyno’r adroddiad blynyddol diwethaf ac wedi cael trafodaeth ar hyn.

·         Nodwyd, er bod modd gwneud sylwadau eithaf hallt a beirniadol yn erbyn aelodau heb dorri’r côd, bod yna riniog na ddylid ei groesi.  Bwriedid cyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn manylu ar ffyrdd o gefnogi aelodau sy’n dioddef aflonyddwch ar-lein o ba gyfeiriad bynnag.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad gyda’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON pdf eicon PDF 47 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 2018/19.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod yr adroddiad yn amlygu’r pwysau gwaith ar yr Ombwdsmon a’i dîm, gyda chwynion iechyd, a hefyd cwynion ynghylch cynghorau cymuned, yn mynd â llawer iawn o’u hamser.  Roedd lle i genhadu a rhoi cefnogaeth i aelodau cynghorau cymuned, ac mewn achos o anghydfod, roedd cynnal trafodaeth yn gyfrwng i osod cyfeiriad.

·         Cyfeiriwyd at y diffyg adnoddau i ymchwilio i gwynion a chwestiynwyd perthnasedd y côd cyflawn i gynghorau bychain.  Nodwyd bod cynghorau cymuned yn amrywio’n aruthrol o ran maint, ac o ystyried natur rhai o’r cwynion ynghylch y cynghorau lleiaf, awgrymwyd y gallai côd llai a chliriach fod yn fwy addas ar eu cyfer.

·         Nodwyd bod rhai cynghorau cymuned yn cael eu rhedeg yn broffesiynol iawn a bod eu holl seddi’n llawn, ond nid oedd hynny’n wir am bob un.  Roedd cyfrifoldeb ar y clercod i gadw safonau ac roedd dyletswydd ar y clercod ac aelodau’r cynghorau cymuned i fynychu hyfforddiant a ddarperir ar eu cyfer.

·         Awgrymwyd bod angen cynnal adolygiad o’r cynghorau cymuned oherwydd bod yna ormod o fwlch rhyngddynt â’r Cyngor Sir.  Adroddwyd y cynhaliwyd ymchwiliad i’r sector yn ddiweddar ond nad oedd wedi cynhyrchu argymhellion am newid chwyldroadol.  Nodwyd y cyfeiriwyd yng nghyfarfod diwethaf Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru at y ffaith bod amrywiaeth lefelau’r cynghorau yn heriol.

·         Croesawyd y cyfeiriad yn yr adroddiad at agor swyddfa ym Mangor, er na ymhelaethwyd ar hynny o gwbl, a chwestiynwyd pam bod angen i brif swyddfa’r Ombwdsmon fod wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

8.

FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

(a)        29 Mehefin, 2018

(b)        26 Mehefin, 2019 (cofnodion drafft)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar:-

 

(a)       29 Mehefin, 2018

(b)       26 Mehefin, 2019

 

Nodwyd bod yna ddiddordeb o Dde Cymru i ymuno â’r Fforwm erbyn hyn.

 

Gan gyfeirio’n benodol at eitem 7 o gofnodion cyfarfod 26 Mehefin, 2019, nodwyd y cafwyd trafodaeth gychwynnol yn y Fforwm ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Cyd-bwyllgor Safonau yn y Gogledd.  Pwysleisiwyd ei bod yn ddyddiau cynnar iawn ar y funud ac nad oedd yn glir eto ai dyma’r cyfeiriad cywir ac a fyddai cydbwyllgor o’r fath yn ychwanegu gwerth ai peidio.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod yna heriau ynghlwm â chydweithio, er ei fod yn swnio’n dda ar bapur.  Roedd Gwynedd yn sir heriol yn ddaearyddol, heb sôn am ychwanegu gweddill siroedd y Gogledd, a gallai cyd-bwyllgor o’r fath fynd yn anhylaw gan fod gan bawb eu trefniadau a’u systemau gwahanol eu hunain.  Roedd y Gymraeg yn elfen arall na ellid ei diystyrru.

·         Y dylid cydweithio o fewn ffiniau Gwynedd yn gyntaf, e.e. ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cyn ystyried ymestyn allan i siroedd eraill.

·         Er bod yna amheuon ynglŷn â chydweithio’n rhy agos, bod lle i’r cynghorau rannu themâu, arbenigeddau, ac ati, drwy gyfrwng trefniant ar-lein o bosib’.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cofnodion.