skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Dr Einir Young (Cadeirydd).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Nodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - CYNLLUN CORFFORAETHOL DRAFFT pdf eicon PDF 45 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd sylwadau ar ymgynghoriad yr Ombwdsmon ar eu Cynllun Corfforaethol drafft.

 

Gan gyfeirio at DPA 4 ar dudalen 8 o’r adroddiad, nodwyd bod hyd at 12 mis yn gyfnod hir a phryderus i’r achwynydd a’r sawl sy’n destun cŵyn Cod Ymddygiad sy’n cael ei hymchwilio.  Ar yr un pryd, cydnabyddid bod pwysau trwm ar swyddfa’r Ombwdsmon, yn enwedig o ystyried natur a nifer y cwynion iechyd sy’n cael eu cyfeirio atynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

6.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 48 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y Swyddog Monitro yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Yn wyneb penderfyniad yr Ombwdsmon i beidio ymchwilio i nifer o gwynion oherwydd diffyg tystiolaeth, pwysleisiwyd pwysigrwydd cynghori pobl i gadw cofnod manwl o’r hyn sydd wedi digwydd a phryd mae wedi digwydd, fel y gellir cyflwyno hynny fel tystiolaeth i gefnogi’r achos.

·         Bod angen datblygu’r neges o ran yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan aelodau o safbwynt ymddygiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.