skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Nodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 79 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

COFRESTR BUDDIANNAU AELODAU pdf eicon PDF 48 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor am ei farn ar y broses o gofrestru buddiannau ac ar y Ffurflen Cofrestru Buddiannau oedd wedi ei hatodi i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn gefnogol i’r broses o gofrestru buddiannau ac o’r farn bod y Ffurflen Cofrestru Buddiannau yn gynhwysfawr ac yn addas i bwrpas.

 

6.

CYFARFODYDD PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 48 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn ceisio barn y pwyllgor ar amlder a nifer cyfarfodydd y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD cynnal 3 cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau yn flynyddol, wedi eu hamseru i gyd-fynd ag amserlen y Cyngor, ond gan gadw’r hawl i alw cyfarfod brys petai angen, e.e. i ystyried ceisiadau am oddefebau.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y Swyddog Monitro yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Sylwyd bod mwyafrif y cwynion yn deillio o gynghorau cymuned a thref a chadarnhawyd bod y gwaith o drefnu hyfforddiant ar gyfer y cynghorau hynny ar droed, gyda’r bwriad o gychwyn ar y sesiynau yn y gwanwyn.

·         Holwyd a fyddai’n briodol i un o bwyllgorau craffu’r Cyngor edrych ar strwythur y cynghorau cymuned a thref i weld oes modd sefydlu trefn o glercod mwy proffesiynol llawn amser yn gyfrifol am fwy nag un cyngor.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru yn cynnal astudiaeth ymchwil i rôl a swyddogaethau cynghorau cymuned a thref a’u potensial i’r dyfodol.  Croesawyd y ffaith bod y Llywodraeth yn edrych ar hyn gan fod llawer o glercod rhan amser yn gweithio dan bwysau sylweddol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL DYFARNU pdf eicon PDF 43 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu adroddiad blynyddol Panel Dyfarnu Cymru 2017/18.

 

Tynnwyd sylw’n benodol at y materion isod yn yr adroddiad:-

 

·         Mai’r un themâu sydd wedi codi yn yr achosion a glywyd gan y Panel Dyfarnu dros y flwyddyn ddiwethaf, sef aelodau etholedig yn bwlio ac yn aflonyddu ar swyddogion cynghorau ac yn methu dangos parch ac ystyriaeth.

·         Yr angen i bwyso a mesur yn ofalus hawl hanfodol cynrychiolwyr mewn democratiaeth i fynegi eu barn a hawl pobl eraill i beidio â chael eu bwlio neu eu cam-drin yn y gweithle.

·         Bod y prif faterion sy’n codi yn ymwneud â diffyg parch a methu datgan buddiant.

 

Mynegwyd tristwch ynglŷn â’r bwlio a’r diffyg parch sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad a phwysleisiwyd pwysigrwydd herio, nid pardduo.  Cyfeiriwyd hefyd at bwysigrwydd peidio tanseilio hyder cyhoeddus drwy gam ddefnyddio ieithwedd, yn arbennig wrth wneud defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.