skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 72 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018 fel rhai cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 45 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2017-18.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 4 Hydref, gyda’r ychwanegiad a ganlyn:-

 

·         Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad – nodi bod hyfforddiant wedi’i ddarparu ar gyfer aelodau Cyngor Gwynedd hefyd fel rhan o’r broses anwytho.

 

(b)     Awdurdodi’r Swyddog Monitro i gwblhau’r rhageiriau a’r bywgraffiadau, mewn ymgynghoriad â’r cadeirydd.

 

6.

HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 53 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-

·         gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2017-18; ac

·         ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2018-19.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2017/18:-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

1

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm  Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cynhaliwyd cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed CLllC.

 

Adolygu Protocolau Rhoddion a Lletygarwch a Chyswllt Aelodau Swyddogion.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Nifer y cwynion a dderbynnir yn isel.

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

1

Cefnogi rhaglen anwytho ar gyfer y Cyngor newydd.

 

Swyddog Monitro a’i dim yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i aelodau.

 

Drws y Cyngor bob amser yn agored i’r aelodau.

 

Ystyried adborth Hyfforddiant a rhaglen hyfforddi newydd

 

Aelodau’r Pwyllgor Safonau i fynychu’r sesiynau hyfforddiant ar y Cod.

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

1

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru

 

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir

 

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Parhau i fonitro ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Ystyried y diwygiadau i’r Cod ymddygiad a sut i rannu’r newid.

 

Cynnwys buddiannau aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau ar wefan y Cyngor gan hefyd ystyried dulliau eraill o godi proffil y Pwyllgor Safonau ar y wefan.

 

Gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried dulliau o godi proffil y Pwyllgor Safonau ar y Porth Aelodau. 

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud a’r Cod Ymddygiad

 

1

Cynhaliwyd cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Rhaglen Hyfforddiant newydd a chynnwys hyn fel eitem ar raglen waith 2018/19

 

Rhoi goddefebau i aelodau

 

1

Ymdriniwyd â cheisiadau am oddefebau gan weithredu ar sail wrthrychol a phriodol.

 

 

Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

1

Ni chyfyd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn

 

Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

1

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath

 

 

Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

3

Swyddog Monitro a’i dim  yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod Ymddygiad.

.

Hyrwyddo trefn datrys leol Unllais Cymru I Gynghorau Cymuned

 

Rhaglen Hyfforddiant newydd.

 

Cydnabyddir bod mwy o waith cenhadu i’w wneud gan fod cynghorau cymuned a thref yn dal i gynhyrchu cwynion i’r Ombwdson, er bod y rhiniog ar gyfer ymchwilio i gwynion wedi codi.  Mae angen lledaenu’r neges mewn ymgais i newid y diwylliant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

PROTOCOL AR GYSYLLTIADAU AELODAU SWYDDOGION pdf eicon PDF 177 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-

·         ystyried cyfres o newidiadau arfaethedig i’r Protocol ar Gysylltiadau Aelodau Swyddogion yn sgil dymuniad yr aelodau i adolygu’r Protocol ac ymgynghoriad gyda’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, penaethiaid adran ac uwch reolwyr y Cyngor; ac

·         argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r Protocol.

 

Rhannwyd copïau o Atodiad 2 i’r adroddiad (sef eitem 6 o gofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 12 Ebrill 2018) yn y cyfarfod gan i’r ddogfen gael ei hepgor o’r rhaglen drwy amryfusedd. 

 

Canmolwyd y Protocol ar y sail ei fod yn rhoi arweiniad clir i aelodau a swyddogion o ran eu cysylltiadau â’i gilydd.

 

Gan gyfeirio at adran 21.6 (a) o’r protocol, sy’n cyfeirio at yr egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, nodwyd bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru 9 nodwedd warchodedig o gymharu â’r 6 a restrwyd yma.  Eglurodd y Swyddog Monitro fod y nodweddion yn unol â’r hyn sydd yn y Cod Ymddygiad, ond y byddai’n gwirio rhag ofn bod angen diwygio’r Cod.

 

          PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ar 4 Hydref fabwysiadu’r diwygiadau i’r Protocol Cysylltiadau Aelodau a Swyddogion, gyda’r ychwanegiad a ganlyn:-

 

·         Adran 21.9.3 – Bwlio neu harasio – nodi bod modd cyfeirio at Bolisi Bwlio mewnol y Cyngor am ragor o wybodaeth.

 

8.

CANLLAWIAU COD YMDDYGIAD AELODAU pdf eicon PDF 40 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i ystyried a chymeradwyo drafftiau o ddau ganllaw i gynorthwyo aelodau gyda’r Cod Ymddygiad, sef:-

 

·         Canllaw Datgan Buddiannau;

·         Canllaw Cyswllt Aelod â’r Cyngor fel Unigolyn

 

Nodwyd y byddai’r Canllaw Datgan Buddiannau yn ddefnyddiol i gynghorau cymuned hefyd.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cymeradwyo’r drafft o’r Canllaw Datgan Buddiannau, yn amodol ar gynnwys manylion cyswllt ar gyfer y Swyddog Monitro, yr Uwch Gyfreithiwr (Dirprwy Swyddog Monitro) a’r Uwch Gyfreithiwr.

(b)     Cynhyrchu’r Canllaw ar ffurf taflen fechan liwgar a deniadol ar gyfer yr aelodau ac hefyd ar ffurf poster i’w osod ar y wal yn ystafelloedd cyfarfod y Cyngor.

(c)     Cymeradwyo’r drafft o Ganllaw Cyswllt Aelod â’r Cyngor fel unigolyn.

 

9.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 52 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Gan gyfeirio at y dadansoddiad o natur y cwynion hyd yn hyn eleni, nodwyd y byddai’n fuddiol cynnwys y ffigurau cronnus yn yr adroddiadau i’r pwyllgor dros weddill y flwyddyn.

 

          PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

 

10.

CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU 2018 pdf eicon PDF 45 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer Cynhadledd Safonau Cymru a gynhelir yn Aberystwyth ar ddydd Gwener, 14 Medi, 2018 ac yn gwahodd y pwyllgor i gytuno ar cynrychiolwyr i fynd yno.

 

          PENDERFYNWYD rhoi enwau’r Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Beth Lawton ymlaen i fynd i’r gynhadledd.

 

11.

FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 34 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2017  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – cofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2017.

 

Nododd y Cadeirydd iddi gael ei phlesio gyda’r cyfarfod o’r Fforwm a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ar 29 Mehefin.  Cyflwynir cofnodion y cyfarfod hwnnw i’r pwyllgor hwn er gwybodaeth maes o law.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.