skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Dr Einir Young (Cadeirydd) a Ms Jacqueline Hughes.

.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 250 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017 fel rhai cywir.

 

5.

HYFFORDDIANT CYNGHORAU CYMUNED pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn argymell cyflwyno trefn amgen o ddarparu hyfforddiant i gynghorau tref a chymuned, a olygai gynnig darparu hyfforddwr i ddod i gynnal sesiwn ar y Cod Ymddygiad yn ardaloedd y cynghorau eu hunain, yn hytrach na chanoli sesiynau yn y prif ganolfannau’n unig.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod angen rhoi anogaeth gref i gynghorau gyd-weithio gyda chynghorau cyfagos ar hyn gan na fyddai’n ymarferol i’r hyfforddwr ymweld â’r 64 cyngor tref a chymuned yng Ngwynedd yn unigol.

·         Y gellid rhedeg rhaglen gyson o sesiynau hyfforddiant, cyn belled â bod y galw yna a theilwrio’r sesiynau yn ôl y gofyn.

·         Y gellid cynnwys taflen yn y pecyn anwytho a ddarperir ar gyfer aelodau newydd o gynghorau tref / cymuned yn crynhoi prif bwyntiau’r Cod Ymddygiad ar ffurf pwyntiau bwled ac yn darparu manylion cyswllt y Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cynnal peilot am flwyddyn o ddarparu hyfforddwr ar y Cod Ymddygiad i gynghorau tref a chymuned, yn unol â’r adroddiad, ac adrodd yn ôl ymhen 12 mis ar y casgliadau.

(b)     Cynnwys taflen gryno ar y Cod Ymddygiad yn y pecyn anwytho a ddarperir ar gyfer aelodau newydd o gynghorau tref / cymuned.

 

6.

SWYDDOGAETHAU'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn rhoi trosolwg o swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau, yn bennaf er budd yr aelodau newydd, ond hefyd fel dull o atgoffa pawb o’r hyn y dylai’r pwyllgor ei wneud a’r hyn y gall ei wneud.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod datgan buddiant yn broblem neilltuol yn y Pwyllgor Craffu Gofal.  ‘Roedd mwyafrif aelodau’r pwyllgor wedi dewis mynd ar y pwyllgor hwnnw oherwydd eu bod yn ymddiddori yn y maes gofal / iechyd, ond gan fod y diddordeb hwnnw’n aml yn tarddu o’u cefndir proffesiynol hwy, neu aelod o’u teulu, e.e. yn uniongyrchol gyflogedig, neu’n gweithio mewn partneriaeth, gyda’r gwasanaeth iechyd, ‘roedd yn ofynnol iddynt ymneilltuo o’r cyfarfodydd yn aml oherwydd eu buddiant yn y materion dan ystyriaeth.

·         Bod gwaith ar droed i baratoi nodyn yn cynghori ar nifer o sefyllfaoedd fel hyn er ceisio adnabod lle mae’r ffiniau gan ei bod yn mynd yn gynyddol anodd gweithredu’r Cod yn briodol tra’n gwarchod y broses ddemocrataidd.

·         Os yw aelod yn gorfod datgan buddiant mor aml, dylid gofyn y cwestiwn ai dyma’r pwyllgor gorau i’r aelod fod yn gwasanaethu arno?  I’r gwrthwyneb, ‘roedd peryg’ wedyn o golli gwir arbenigedd ar y pwyllgor.

·         Bod goddefeb yn un ffordd ymlaen, ond ‘roedd hynny’n ddibynnol ar y seiliau.  Awgrymwyd efallai bod angen codi ymwybyddiaeth aelodau craffu bod modd iddynt gyflwyno cais am oddefeb.

·         Ei bod yn bwysig bod aelodau yn darllen adroddiadau sy’n mynd gerbron gwahanol bwyllgorau ac yn cysylltu ymlaen llaw gyda’r Swyddog Monitro neu’r Uwch Gyfreithiwr Corfforaethol os ydynt yn amau y gallai fod ganddynt fuddiant mewn eitem ar y rhaglen.

·         Er bod mwyafrif y cwynion i’r Ombwdsmon yn cael eu gollwng yn y pen draw, gall aros am y dyfarniad olygu cyfnod anodd iawn i aelod y cyflwynwyd cŵyn yn ei erbyn.  Cadarnhawyd bod y drefn yn gyfrinachol nes cyrraedd gwrandawiad llawn gerbron y Pwyllgor Safonau neu’r Panel Dyfarnu.

 

Yn ychwanegol i gynnwys yr adroddiad, a chan bod aelodaeth y Pwyllgor Safonau bellach yn gyflawn, nododd y Swyddog Monitro ei fwriad i drefnu hyfforddiant byr i aelodau’r pwyllgor ar y drefn gwrandawiadau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 232 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn nodi penderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod yr Ombwdsmon yn cymryd amser maith i ddod i benderfyniad ar achosion unigol pan yn cynnal ymchwiliad a bod hynny’n achosi straen i’r sawl y gwnaed honiad yn ei erbyn.

·         Bod pobl yn cael eu siomi gan benderfyniad yr Ombwdsmon i beidio ymchwilio i’w cŵyn.

·         Bod trefn o benderfynu’n lleol ar gwynion yn well, ond y cydnabyddir bod hynny ar gyfer mân gwynion yn unig.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

8.

FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 10 Ebrill, 2017  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – cofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 10 Ebrill, 2017.

 

Nododd y Swyddog Monitro:-

·         Bod aelodaeth y fforwm bellach wedi’i ymestyn i gynnwys cynghorau Ceredigion a Phowys.

·         Iddo wirfoddoli i gynnal cyfarfod nesaf y fforwm yng Ngwynedd yn ystod Mai / Mehefin.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.