Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y
Cynghorydd Michael Sol Owen a Mr David Clay. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin,
2016, fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27
Mehefin, 2016 fel rhai cywir. |
|
PARATOI AR GYFER ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 PDF 106 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi adroddiad fu gerbron
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor ar yr 20fed o Fedi ar y gwaith sy’n
mynd rhagddo i baratoi ar gyfer anwytho aelodau newydd i’r awdurdod yn sgil
etholiadau Mai 2017. Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried yr adroddiad a chynnig arweiniad ar
gyfleoedd hyfforddiant pellach posib’ ar y Cod Ymddygiad. Nododd y Cadeirydd ei bod yn croesawu’r
ffaith bod cynlluniau ar y gweill i baratoi ar gyfer yr etholiadau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:- ·
Ei bod yn hanfodol bwysig bod yr aelodau newydd yn
derbyn hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. ·
Bod angen meddwl am fformat sy’n cyflwyno prif
bwyntiau’r Cod Ymddygiad i aelodau newydd mewn ffordd hwylus a gafaelgar gan
hefyd barchu difrifoldeb y testun. ·
Bod angen i’r aelodau newydd gael cyfarwyddyd ar y
cychwyn ynglŷn â sut i weithredu dros yr wythnosau cyntaf fel cynghorydd
heb dramgwyddo’r Cod Ymddygiad. ·
Na chredir bod galw heibio stondin yn y Ffair Wybodaeth
ar y dyddiau anwytho yn ffordd ddigonol yn ei hun o gyflwyno’r Cod Ymddygiad i
aelodau newydd ac y bydd angen cyflwyniad mwy manwl gan y Swyddog Monitro i
ddilyn yn fuan wedyn. PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad. |
|
TREFN DATRYS LLEOL MODEL CYNGHORAU CYMUNED Ystyried
adroddiad llafar y Swyddog Monitro. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro yn nodi:- ·
Bod y mater hwn wedi’i gynnwys ar
raglen waith y Pwyllgor Safonau, ond bellach bod Unllais
Cymru wedi cychwyn ar y gwaith o lunio trefn genedlaethol i gynghorau cymuned
gyda’r Ombwdsmon, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion monitro yn
rhan o’r broses hefyd. ·
Bod y newyddion hwn i’w groesawu a
gobeithid y byddai’r drefn newydd yn creu mecanwaith ymarferol a mwy grymus
fydd yn galluogi i gynghorau cymuned ddatrys problemau yn haws. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y dylid cysylltu ag Unllais
Cymru maes o law i awgrymu bod unrhyw hyfforddiant ar y drefn newydd yn cael ei
gynnal yn lleol. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2015/16 PDF 180 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu’r
rhannau hynny o adroddiad blynyddol yr Ombwdsmon am y flwyddyn 2015/16 sy’n
berthnasol i gwynion cod ymddygiad ac yn nodi’r hyn sydd gan yr Ombwdsmon i’w
ddweud yn ei lythyr blynyddol ynglŷn
â chwynion cod ymddygiad. Nododd y Cadeirydd mai canran fechan o’r cwynion sy’n mynd ymhellach
a’i bod yn ymddangos mai parch ac uniondeb yw’r materion sy’n codi fwyaf. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 104 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion
ffurfiol yn erbyn aelodau. Nododd yr Uwch Gyfreithiwr fod dwy gŵyn arall i law ers paratoi’r adroddiad ac y
byddai’n adrodd arnynt i’r cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |