skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Dim.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

          Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 307 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2016 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2016 fel rhai cywir.

 

Diolchodd y Cynghorydd Lesley Day i’w chyd-aelodau am eu dymuniadau da.

 

Nododd y Cynghorydd Michael Sol Owen y bu iddo, trwy amryfusedd, anghofio anfon ymddiheuriad.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2015/16 pdf eicon PDF 181 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2015 hyd at 31 Mawrth 2016.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.  Nodwyd y byddai’r Cadeirydd a’r Swyddog Monitro yn ychwanegu rhagair i’r adroddiad cyn ei gyhoeddi.

 

Nododd yr Uwch Gyfreithiwr y bwriedid cylchredeg yr adroddiad i glercod y cynghorau cymuned a thref yn dilyn y Cyngor llawn yn Hydref.

 

Gofynnwyd i’r aelodau wirio eu manylion personol ac e-bostio’r Uwch Gyfreithiwr.

 

Yn ystod y drafodaeth ar gynnwys yr adroddiad:-

 

·         Awgrymwyd cyfeirio at anallu Linda Byrne i barhau fel aelod annibynnol oherwydd gwaeledd.

·         Nododd y Cynghorydd Lesley Day nad oedd yn gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn 2015/16.

 

Holwyd a fyddai’n bosib’ cyflwyno’r adroddiad blynyddol i gyfarfod Gorffennaf o’r Cyngor o hyn allan, ond eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y calendr yn ffafrio hynny.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r drafft o adroddiad blynyddol a’i gyflwyno i gyfarfod 6 Hydref o’r Cyngor.

 

 

6.

MYNYCHU AC ARSYLLU CYFARFODYDD pdf eicon PDF 106 KB

Adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn adolygu’r drefn o ymweld â chyfarfodydd Cyngor Gwynedd a Chynghorau Cymuned y Sir a’r budd a gafwyd ac yn gofyn i’r pwyllgor ystyried fyddai gwerth mewn adnabod rhaglen fwy strwythuredig o arsyllu cyfarfodydd.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Safonau arsyllu’r gwaith o baratoi ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017, ac yn benodol y sesiynau i godi ymwybyddiaeth darpar ymgeiswyr a’r rhaglen anwytho ar gyfer aelodau etholedig yn dilyn yr etholiadau.  Awgrymwyd hefyd y byddai’n syniad cynnwys eitem ar waith y Pwyllgor Safonau yn y sesiynau codi ymwybyddiaeth fel bo darpar ymgeiswyr yn gwybod sut i ymddwyn yn y gweithgareddau ymgyrchu.  Nododd y Swyddog Monitro ei fod eisoes mewn trafodaethau gyda’r Gwasanaethau Democrataidd ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth o fewn y drefn anwytho ynglŷn â rôl y Pwyllgor Safonau.

·         Awgrymwyd ei bod yn synhwyrol i gysylltu â chynghorau ymlaen llaw i’w hysbysu o fwriad aelod i ddod i arsyllu cyfarfod, yn enwedig os yw’r aelod hwnnw angen gwasanaeth cyfieithydd.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Bod gwerth mewn adnabod rhaglen fwy strwythuredig o arsyllu cyfarfodydd ac ymddiried yn y Swyddog Monitro a’r Uwch Gyfreithiwr i gytuno rhaglen ddrafft o ymweliadau â chymaint o gynghorau â phosib’ dros y 12 mis nesaf.

(b)     Gofyn i’r Swyddog Monitro ddarparu adroddiad byr i’r cyfarfod nesaf yn amlinellu’r gwaith o baratoi ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017 a sut mae’r drefn Safonau yn gweu i mewn i hynny.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Gyfreithiwr fod yr Ombwdsmon bellach wedi hysbysu’r Cyngor ei fod yn ymchwilio i Achos 201600999.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.