skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a swyddogion i’r  cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Elin Walker Jones a’r Aelod Cabinet dros Iaith Cyng. Nia Jeffreys.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I ddatgan unrhyw fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unhryw faterion brys sydd wedi codi

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 99 KB

Y Cadeirydd i gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd

ar y 18 Hydref 2018

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 18 Hydref, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD AELOD CABINET DROS YR IAITH GYMRAEG

Diweddariad gan yr Aelod Cabinet

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau’r Iaith Gymraeg yr adroddiad yn absenoldeb yr Aelod Cabinet. Nodwyd ei bod wedi bod yn gyfnod tawel  gyda chynlluniau hybu yn mynd rhagddi. Mynegwyd fod y cynllun Hybu’r Gymraeg yn fewnol yn datblygu yn dda a bydd diweddariad yn dod i’r Pwyllgor Iaith yn fuan.

 

Tynnwyd sylw at gynllun ‘Common Voice Cymraeg’ sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Nodwyd mai ymgais yw’r cynllun i greu data rhydd ar gyfer adnabod lleisiau, fel bod peiriannau yn gallu deall yr hyn yr ydych yn dweud wrthynt er mwyn ymateb. Ychwanegwyd y bydd ymgyrch yn cael ei gynnal ym mis Mawrth er mwyn annog pobl gyfrannu i’r cynllun, y mwyaf o amrywiaeth mae’r peiriant yn ei gael, y gorau y bydd y gallu eu dehongli.

 

Cadarnhawyd fod HunanIaith wedi derbyn grant am y ddwy flynedd nesaf, a bod rhaglen waith drafft wedi ei greu. Ategwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal gyda Llywodraeth Cymru er mwyn proffesiynoli’r maes.

 

6.

ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD Y GYMRAEG- MESUR O LWYDDIANT pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwynir yr adroddiad sicrwydd er mwyn i’r aelodau drafod ei gynnwys ac ystyried unrhyw bwyntiau sydd yn codi allai fod yn berthnasol i Gyngor Gwynedd ac allai arwain at gamau gweithredu er mwyn gwella cydymffurfiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd cyfrifiad arall yn cael ei gynnal mewn dwy flynedd. Nodwyd fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno yn y cyfarfod blaenorol ond fod angen crynodeb a thrafod y nodweddion perthnasol i Wynedd. Mynegwyd yn flynyddol fod Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi adroddiad sydd yn destun ymchwil gan ei swyddogion am lwyddiannau sefydliadau i weithredu a chydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg. Ychwanegwyd eu bod yn cyhoeddi’r adroddiadau er mwyn cynnig barn annibynnol er mwyn rhoi gwybod i siaradwyr Cymraeg, i dynnu sylw sefydliadau at arferion llwyddiannus ac i ddarparu tystiolaeth i wleidyddion. Mynegwyd mai adroddiad am 2017/18 yw’r adroddiad hwn, gan nodi fod gwaith datblygu wedi ei wneud bellach.

Esboniwyd fod yr adroddiad yn amlygu tair prif her i sefydliadau fel y nodir isod

-        Datblygu eu darpariaeth er mwyn sicrhau gof gwasanaethau Cymraeg ar gael ac o ansawdd, ac nad ydynt yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

-        Gwella dealltwriaeth o’r rhesyma dros benderfyniadau defnyddwyr, a chymred camau cadarnhaol i hybu a hwyluso defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg

-        Rhoi ystyriaeth fanwl a strategol ar sut i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mynegodd y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg, fod yr adroddiad yn codi sawl pwynt diddordeb, ond ei bod am ganolbwyntio ar 3 argymhelliad i sefydliadau.

Argymhelliad 1 - Nodwyd er bod profiadau defnyddwyr yn dal i wella, mae angen cysondeb er mwyn rhoi ffydd i bobl fod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg, ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mynegwyd mai Technoleg yw’r mater dan sylw a bod llawer o ddatblygiadau wedi bod yn dilyn arolwg  gael ei gynnal o’r gwasanaeth hunanwasanaeth. Ond ategwyd, er bod hyn yn gadarnhaol fod angen fod yn wyliadwrus o appiau newydd i sicrhau fod y ddwy iaith yn gweithio. Ychwanegwyd fod angen edrych i mewn i greu appiau ein hunain yn hytrach na cheisio addasu rhai sydd ar gael yn Saesneg yn barod.

Argymhelliad 2 - Nodwyd mai’r argymhelliad oedd i sefydliadau annog defnyddio gwasanaethau Cymraeg, a'u gwneud yn hawdd i’w defnyddio a deall profiadau go iawn ddefnyddwyr. Mynegwyd fod yr argymhelliad yma wedi  ei thrafod mwy nad unwaith, a bod y dystiolaeth a gyflwynwyd ddim yn codi dim pryderon newydd. Nodwyd fod angen meddwl am ffordd o ddelio gyda’r rhwystrau. Ychwanegwyd fod rhai adrannau o fewn y Cyngor wedi bod yn ceisio gwneud mwy o ddefnydd o Gymraeg clir ac i leihau’r defnydd o eiriau mwy technegol.

Trafodwyd ffurflenni gan nodi fod ymchwiliad ym Mangor wedi dangos mai dim ond hanner y cyfranogwyr oedd yn dewis llenwi ffurflenni drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd ei fod yn codi’r cwestiwn os oes angen creu ffurflenni dwyieithog, ac i ystyried camau syml i newid hyn. Nodwyd fod yr adroddiad cenedlaethol yn nodi  y byddai pobl yn ‘debygol iawn o wneud cais swydd yn Gymraeg os yw’r Gymraeg yn hanfodol’ i’r swydd. Serch hyn, nodwyd fod nifer uchel o geisiadau swyddi yng Ngwynedd yn cael ei gyflwyno drwy’r Saesneg. Ychwanegwyd fod hyn er bod lefel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARODDIAD CYNNYDD CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 67 KB

I ystyried cynnwys yr adroddiad cynnydd a chynnig sylwadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y Pennaeth Adran Addysg yn mynd drwy saith deilliant sydd yn rhan o’r Cynllun Strategol er mwyn cael trafodaeth ar y meysydd.

Deilliant 1 - Mwy o blant 7 oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mynegodd y Pennaeth Addysg fod y targed o 99.1% yn darged cwbl uchelgeisiol ac y gwir ganran yw 97.9%. Nodwyd mai hwyr ddyfodiad gan blant heb ddim Cymraeg yw un o’r rhesymau dros beidio cyrraedd y targed. Ychwanegwyd fod un ysgol o fewn dalgylch Bangor o ganlyniad i fod yn ysgol grefyddol a mwy o annibyniaeth ieithyddol. Mynegwyd yn dilyn penodiadau newydd i’r ysgol fod newidiadau wedi bod i agwedd yr ysgol at yr iaith.

Deilliant 2 - Mwy o ddisgyblion yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Uwchradd. Nodwyd fod y canran yn is ac yn 83.4% o’i gymharu â’r taged o 84.7%. Mynegwyd fod hyn o ganlyniad i un ysgol uwchradd ym Mangor. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud gyda’r ysgol a bod gwelliant sylweddol wedi digwydd gyda chynnydd yn y nifer sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.

Deilliant 3 a 4 - Mwy o fyfyrwyr 14-16 yn astudio at gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg a Mwy o fyfyrwyr 14-19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgolion, Colegau a Dysgu Seiliedig ar Waith. Nodwyd fod data calonogol ar gyfer llwybr 14-19oed. Nodwyd ei bod yn anodd mesur faint yn union sydd yn gwneud eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd yn 2016-17 fod 79% wedi cofrestru i wneud TGAU Cymraeg iaith Gyntaf. Nodwyd fod yr adran yn parhau i weithio gyda'r ysgolion i sicrhau cyrsiau amodol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Deilliant 5 - Mwy o fyfyrwyr a sgiliau uwch yn y Gymraeg. Nodwyd fod y targed cyntaf - sef fod 77.2% o ddisgyblion ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 a Graddau A* i mewn TGAU yn darged heriol. Mynegwyd fod canran Gwynedd yn uwch ‘na chanran llawer o siroedd. Mynegwyd fod cwymp yn y canrannau eleni yn cyd-fynd a’r cwymp cenedlaethol mewn canlyniadau. Mynegwyd fod y canlyniadau'r deilliant yma yn cyd-fynd a buddsoddiad y sir mewn trochi pobl ifanc yn yr iaith.  

Deilliant 6 - Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Cyfrwng Cymraeg. Nodwyd nad oes targedau ar gael ar gyfer darpariaeth anghenion Dysgu ychwanegol a bod hyn o ganlyniad i ddarpariaeth ar gael yn ddwyieithog i’r holl ddisgyblion.

Deilliant 7 - Cynllunio’r Gweithlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Nodwyd fod y mater yma yn fater sydd wedi codi yn benodol yn rhanbarthol. Gan fod angen sicrhau gweithlu o safon uchel er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mynegwyd fod angen gwella sgiliau athrawon ac angen i ysgolion fod yn arwain ar godi’r defnydd o’r Gymraeg. Nodwyd pan drafodwyd y Siarter Iaith Uwchradd a’r ysgolion, fod Ysgol Friars a Tywyn wedi bod yn flaengar iawn ac yn cyfrannu llawer mwy at y drafodaeth. Mynegwyd yn Ysgol Tywyn fod gwaith arbennig o dda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

AIL-STRWYTHURO CANOLFANNAU IAITH

Cyflwyniad gan yr Adran Addysg

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg wybodaeth ar ail strwythuro'r Canolfannau Iaith yng Ngwynedd.  Pwysleisiwyd y Pennaeth Addysg mai ond briffio yn unig fyddem heddiw yn ôl y drefn  gywir.  Nodwyd fod pedwar opsiwn dan ystyriaeth  wedi eu trafod, Yn dilyn prosesau  ymgynghorol, rhwng Adnoddau Dynol, gwasanaeth Addysg, staff uniongyrchol a’r Undeb yn Hydref 2018.

Nodwyd fod y drafodaeth ymgynghorol wedi digwydd yn Hydref 2018, i ymateb sefyllfa ariannol yr adran ar gyfer 2019/20 sydd yn dangos diffyg o £96,000.  Nodwyd na all y  gwasanaeth Addysg cyfiawnhau'r gost o ddarparu arian cyfatebol.

Y ffordd orau ymlaen, nodwyd, heb doriad diffygiol i’r safon dysgu ac i ddiogelu'r gweithle  bydd rhaid cyflogi dau berson i bob canolfan.  Edrychwyd ar fframwaith a strwythur  cyflogaeth y Canolfannau Iaith fel maent ar hyn o bryd gan gwestiynu'r ffordd orau i symud ymlaen.  Mynegwyd gyda chwyddiant mewn cyflogau a phensiynau'r gweithwyr cyflogedig yn barod, bydd edrych ar y gost effeithiol cyn ystyried cwtogi, manylwyd ar y 4 opsiwn sydd gan yr adran.

Pwysleisiwyd fod y gwasanaeth wedi edrych ar yr ochor gyllidol, effaith ar safon dysgu’r Gymraeg, a sicrhau diogelwch o fewn y canolfannau (h.y. isafswm o ddau berson i bob canolfan) cyn cyflwyno’r opsiynau.

Amlinellwyd yr opsiynau a ganlyn:

Opsiwn 1:

·         Cau un Canolfan Iaith Gynradd.

·         Cynyddu Capasiti pob Canolfan Iaith i dderbyn 19 o ddysgwyr.

·         Strwythur staffio o Arweinydd ac Athrawes ymhob Canolfan Iaith.

 

Opsiwn 2:

·         Pob Canolfan Iaith yn parhau’n agored.

·         Capasiti Canolfan Iaith Dolgellau yn cynyddu i 16.  Capasiti pob Canolfan Iaith arall yn aros yr un fath.

·         Strwythur staffio o Arweinydd a Chymhorthydd ymhob Canolfan Iaith.

Opsiwn 3:

·         Pob Canolfan yn parhau’n agored.

·         Capasiti Canolfan Iaith Dolgellau yn cynyddu i 16.  Capasiti pob Canolfan Iaith arall yn aros yr un fath.

·         Un Arweinydd ar gyfer yr holl Ganolfannau Iaith Gynradd, strwythur o Athro a Chymhorthydd ymhob Canolfan Iaith (ble na leolir yr Arweinydd).

·         Strwythur staffio o Arweinydd a Chymhorthydd yn y Canolfan Iaith Uwchradd

 

Opsiwn 4:

·         Pob Canolfan yn parhau’n agored.

·         Capasiti Canolfan Iaith Dolgellau yn cynyddu i 16.  Capasiti pob Canolfan Iaith arall yn aros yr un fath.

·         Un Arweinydd ar gyfer yr holl Ganolfannau Iaith Gynradd ac Uwchradd, gyda strwythur o Athro a Chymhorthydd ymhob Canolfan Iaith (ble na leolir yr Arweinydd).

Derbyniwyd sylwadau gan yr Aelodau gan gyfeirio at wrthwynebiad i’r opsiynau a ddarparwyd gan y gwasanaeth Addysg.  Nodwyd pryder am ansawdd yr addysg os bydd rhaid dewis un o’r opsiynau uchod.  Teimlai’r  Aelodau y byddai’n well ganddynt gael trafodaeth bellach gyda’r athrawon ynglŷn â’r opsiynau.  Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg bod trafodaethau cyfreithiol wedi eu cyflawni gyda’r athrawon yn unol â’r gofynion. 

Eglurwyd y bydd yr eitem o flaen y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y 24 o Ionawr 2019.

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd yr adroddiad. 

 

9.

CWYNION IAITH

I dderbyn diweddaraid gan Reolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan nodi nad oedd adroddiad ysgrifenedig. Mynegwyd y bydd adroddiad llawn yn cael ei gynnwys yn y cyfarfod nesaf. Esboniwyd mai’r brif eitem i’w drafod oedd negeseuon allan o swyddfa staff, yn benodol yn fewnol, gan fod yr holl aelodau bellach yn cael ei gynnwys fel staff y Cyngor. Nodwyd fod cwyn wedi ei godi fod y negeseuon allan o swyddfa yn uniaith Gymraeg yn fewnol. Holwyd os dylai fod yn ddwyieithog, penderfynwyd fod angen iddo aros yn uniaith Gymraeg ac i egluro i’r aelod a oedd wedi codi’r mater.