skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a swyddogion i’r  cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. John Pughe Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I ddatgan unrhyw fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unhryw faterion brys sydd wedi codi

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 100 KB

Y Cadwirydd I gadanhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10 Gorffennaf 2018

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD AELOD CABINET

Diweddariad gan yr Aelod Cabinet

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet yr adroddiad gan nodi yn dilyn y Cyngor Llawn fod Cynllun Hybu’r Gymraeg bellach wedi ei fabwysiadu. Mynegwyd fod grant o £2m Arfor wedi ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Ychwanegwyd fod trafodaethau cychwynnol wedi ei gynnal am y cynllun. Ategwyd fod y Gymraeg yn ganolog i’r Cynllun Arfor. Nodwyd fod yr Aelod Cabinet a Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg bellach yn rhan o’r trafodaethau.

Nodwyd fod Cynllun Hunaniaith wedi cael 2 flynedd ychwanegol o gyllid a'u bod yn y broses o greu cynllun ar gyfer 2020/21. Mynegwyd fod y cynllun blaenorol yn cynllun tair blynedd ac fod y dair blynedd bellach yn tynnu at y terfyn. Nodwyd yr angen am gynllun newydd a fydd yn edrych ar brosiectau hir dymor a'i fod yn gyfle i feddwl sut y gall Hunaniaith symud ymlaen.

Sylwadau o’r drafodaeth

·         Nodwyd fod cynllun Arfor yn gynllun sydd wedi cael ei drafod ers pum mlynedd a datganwyd hapusrwydd fod grant wedi ei gyhoeddi.  Trafodwyd y bydd y Cynllun TWF ac Arfor yn rhedeg ochor yn ochor, ond na fyddant yn cyd-weithio, a ni ddylid cynllun TWF amharu ar ddeinameg Cynllun Arfor.

·         Ychwanegwyd fod cynllun Arfor angen ei ddatblygu a bod angen trafod cynlluniau o fewn y 4 sir y bydd Arfor yn rhan ohoni.

·         Mynegwyd gwahaniaethau rhwng cynllun Arfor a TWF gan nodi nad yw diwylliant yn rhan ganolog o gynllun TWF a bod y Gymraeg yn rhan ganolog o Gynllun Arfor.

 

6.

RHAGLEN WAITH Y CYNLLUN HYBU pdf eicon PDF 35 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hwn yn gyfle i edrych yn fanylach a chael trafodaeth ar y rhaglen waith. Ychwanegwyd mai rhaglen waith cychwynnol yw’r hwn ac y bydd datblygiadau yn cael ei wneud i’r rhaglen unwaith y bydd modd cael yr holl bartneriaid at ei gilydd er mwyn datblygu prosiectau ar y cyd.

 

Mynegwyd fod 5 maes blaenoriaeth yn y rhaglen waith ac edrychwyd ar bob blaenoriaeth yn unigol.

 

a.    Iaith y Teulu

 

Trafodwyd partneriaeth gyda’r Mudiad Meithrin gan nodi fod cydweithio yn digwydd ond fod angen trafodaethau pellach. Ychwanegwyd fod y Mudiad Meithrin yn gwneud newidiadau i’w prosiectau ac o ganlyniad nad oes trafodaethau dwys wedi eu cynnal a’r mudiad.

 

Nodwyd fod trosglwyddo iaith yn deuluol yn digwydd yn arferol yng Ngwynedd, ond ychwanegwyd fod angen dealltwriaeth o ble mae’r bylchau o ran ardaloedd ble nad yw trosglwyddo iaith yn deuluol mor uchel ag eraill. Holwyd os byddai modd cael data, a mynegwyd efallai y byddai modd cael y data gan yr Adran Addysg. Trafodwyd y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu mewn ysgolion a nodwyd fod rhieni yn asesu lefel iaith plant cyn iddynt gychwyn yn yr ysgol.

 

Trafodwyd fod plant yn amsugno iaith yn y blynyddoedd cynnar a holwyd os oes appiau ar gael ar gyfer yr oedran yma drwy’r Gymraeg. Ategwyd fod myfyriwr drwy’r Coleg Cymraeg wedi bod yn gwneud ymchwil ar y maes dros gyfnod o 10 diwrnod yn y cyngor, a bod y canlyniad yn dangos fod nifer uchel o appiau yn targedu oedran cynradd a meithrin. Ychwanegwyd fod angen datblygu mwy o appiau ar gyfer oedrannau uwchradd. Mynegwyd fod angen hyrwyddo’r appiau fwy o fewn cymdeithas.

 

Trafodwyd sut mae modd sicrhau fod staff clybiau brecwast ac ar ôl ysgol yn glynu at y polisi iaith. Mynegwyd fod ymrwymiad ysgolion i’r siarter iaith yn gysylltiedig â’r clybiau. Ychwanegwyd fod GwE wedi gwneud asesiad iaith ar staff o fewn ysgolion. Ategwyd efallai fod angen sicrhau fod y Siarter Iaith yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfodydd Llywodraethwyr yn rheolaidd er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei gynnwys ym mhob agwedd o glybiau yn ogystal.

 

b.    Iaith Dysgu

 

Mynegwyd fod y system addysg yn un sydd yn gweithio o fewn y sir ond nodwyd dau fan gwan. Y cyntaf oedd gostyngiad yn nifer y plant sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf ym mlwyddyn 6 a 7 a’r ail y lleihad mewn nifer o blant sydd yn astudio pynciau drwy’r Gymraeg. Nodwyd fod y mannau gwan yma yn cael eu hadnabod o Siarter Iaith ysgolion Uwchradd. Mynegwyd fod angen diweddariad gan yr adran.

 

c.     Iaith gwaith a Gwasanaeth

 

Nodwyd fod angen cadw data o faint sydd yn cael gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol wrth edrych ar wasanaeth ieuenctid, hamdden a gofal. Nodwyd fod angen cadw golwg ar hyn.

 

d.    Iaith a Chymuned

 

Trafodwyd iaith a ddefnyddir mewn cyfarfydd Cynghorau Chymuned ac ychwanegwyd fod ychydig o arian ar gael ar gyfer cael cyfieithwyr mewn cyfarfodydd yn y gymuned. Nodwyd fod yr arian  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR IAITH pdf eicon PDF 44 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr eitem yn ddilyniant i’r eitem flaenorol. Mynegwyd mai pwrpas yr eitem yw er mwyn cael themâu a meysydd penodol y gall y Pwyllgor edrych arnynt. Tynnwyd sylw at ddatblygu gweithlu gan nodi fod y cynllun ar waith. Ychwanegwyd fod mwy o gyfleodd hyfforddiant.

Nodwyd y byddai modd cael staff Hunaniaeth i ddod i’r Pwyllgor yn aml er mwyn cyflwyno achosion achos o’r prosiectau maent yn rhan ohonynt. Byddai hyn, ychwanegwyd, yn codi ymwybyddiaeth y pwyllgor i’r gwaith mae Hunaniaith yn ei wneud.

Holwyd beth yw blaenoriaeth rhaglen waith y Pwyllgor. Mynegwyd y byddai’n dda cael dysgu gan eraill sydd yn gweithio ym maes yr Iaith Gymraeg. Ategwyd y byddai’n dda edrych be all pobl eraill ei ddysgu gan y Cyngor. Nodwyd fod angen magu perthynas a Phwyllgorau Iaith y siroedd cyfagos.

Nodwyd fod angen blaenoriaethu gan bwysleisio fod rhai o’r meysydd a mwy o waith nac eraill. Trafodwyd sgiliau’r gweithlu gan nodi ei bod yn ymarfer da fod y Cyngor yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Holwyd os yw’r polisi yn cynnwys staff sydd yn cael eu contractio, megis gyrwyr tacsis. Mynegwyd nad yw’r polisi yn cynnwys y staff sydd yn cael eu contractio  ac efallai fod angen amlygu’r polisi yn y meysydd yma.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad. 

 

8.

NEWID YMDDYGIAD AC ARFERION IAITH

Cyflwyniad gan Arwel Williams o Brifysgol Bangor

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad Arwel Williams a oedd yn amlinellu ymchwil Newid Ymddygiad a oedd yn ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Manylwyd ar yr ymchwil a'i fod wedi bod yn canolbwyntio newid ymddygiad ac arferion iaith yn benodol mewn adran y Brifysgol. Manylwyd ar fethodoleg yr ymchwil ac y sut y bu i’r data gael ei gasglu. Ychwanegwyd y bydd y Cyngor yn ail ran yr ymchwil a fydd yn cychwyn yn ystod y misoedd nesaf.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod yr ymchwil yn un diddorol ond fod pob gweithle am fod yn unigryw gan ei fod yn ddibynnol ar nifer y bobl sydd yn siarad Cymraeg yn y swyddfeydd. Ychwanegwyd fod tueddiad os rhywun yn ddi-gymraeg i sgyrsiau droi i’r Saesneg.

¾     Mynegwyd fod gwersi i’w dysgu ar gyfer lleoliadau eraill o gam cyntaf yr ymchwiliad.

¾     Nodwyd diddordeb i weld beth fydd canlyniadau’r ail ran o’r ymchwil gyda Chyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd.

¾     Trafodwyd beth yw effeithiau hir dymor y cynllun ond nodwyd nad oes dadansoddiad llawn o’r data wedi ei wneud ac y bydd yr Adran Seicoleg yn rhan o’r gwaith i ddadansoddi’r data.

 

9.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 49 KB

I dderbyn diweddaraid gan Reolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod un cwyn wedi ei dderbyn yn ystod y cyfnod sef holiadur aelwydydd. Ychwanegwyd fod yr holiadur yma heb gael ei anfon allan gan y Cyngor ac wedi ei ryddhau yn ddiarwybod i’r Cyngor.

 

Ychwanegwyd fod un ymchwiliad yn mynd rhagddo a bydd mwy o wybodaeth i ddilyn. Trafodwyd trefn gwynion y Comisiynydd Iaith, a bod yr adran Iaith yn ceisio cyfeirio pethau at y Comisiynydd i ofyn am gymorth os yn methu cydymffurfio a’r gofynion iaith. Cyflwynwyd enghraifft sydd wedi ei gyfeirio at y Comisiynydd sef gwers lyfrau ar gyfer hyfforddiant mewn maes arbenigon ar gael yn Saesneg yn unig.

 

Tynnwyd sylw at rai cwynion penodol yn ymwneud a Pholisi Iaith y Cyngor oedd wedi ei derbyn. Yn y maes amgylchedd roedd rhai dogfennau ar gael yn Gymraeg yn unig, roedd hyn o ganlyniad i amserlen dynn o fewn yr adran. Ychwanegwyd pan dderbyniwyd y gwyn roedd y dogfennau Saesneg yn barod i’w cyhoeddi. Tynnwyd sylw os yn chwilio am y Cyngor ar wefan ‘Google’ mai'r cyfeiriad Saesneg sydd yn cael ei ddangos. Nodwyd fod yr adran yn ceisio cysylltu â Google i edrych ar y mater ac nad yw wedi ei ddatrys eto. Mynegwyd fod cwyn wedi dod o ganlyniad i Amodau Cronfa Benthyciadau Busnes heb ddefnyddio’r Gymraeg, ond yn dilyn y gwyn fod yr adran wedi edrych ar hyn ac wedi creu amodau newydd. Ychwanegwyd fod cwyn o ganlyniad i ddim taflenni Cymraeg ar gyfer Cymunedau dros Waith, ond roedd y lleoliad penodol wedi gorffen eu cyflenwad o daflenni Cymraeg ac felly bu iddynt dderbyn mwy gan yr adran berthnasol.

 

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

10.

MESUR O LWYDDIANT: CRYNODEB O ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD Y GYMRAEG 2017/18 pdf eicon PDF 177 KB

Er gwybodaeth i aelodau

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai atodiad munud olaf oedd y crynodeb. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi canlyniadau'r flwyddyn. Nodwyd fod angen dadansoddiad Gwynedd yn benodol a bydd angen ail ymweld â’r eitem yn y cyfarfod nesaf.