skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Ann Roberts  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2017/18.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y pwyllgor hwn am 2017/18.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Cynghorydd Alan Jones Evans.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd materion brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 293 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).  

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017 rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Derbyn adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.  

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad llafar Aelod Cabinet y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Y Siarter Iaith Cynradd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a rhaid sicrhau ei fod yn gweithio yng Ngwynedd ac yn gwneud gwahaniaeth.  Byddir yn adrodd i’r Pwyllgor Iaith yn rheolaidd y byddwn yn cael trafodaeth bwysig yn rheolaidd.

 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

8.

CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR IAITH pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, yr adran berthnasol o Gyfansoddiad y Cyngor  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Gyfreithiwr - Corfforaethol y cefndir a’r newid i gylch gorchwyl y Pwyllgor Iaith a fabwysiadwyd yn y Cyngor llawn ar 15 Mehefin 2017.  Adroddwyd bod y newidiadau yn sgil y drefn graffu newydd.

 

Gwnaed sylwadau y dylai fod gan y Pwyllgor Iaith rôl fwy gweithredol a rhagweithiol.  Mynegwyd pryder aelod bod yr iaith yn mynd i’r un cwch a nifer o bynciau eraill.

 

          Adroddodd yr Aelod Cabinet ei bod yn awyddus i fod yn ymgynghori hefo’r pwyllgor rhwng y cyfarfodydd ac os bydd yna fater pendant i fynd ar ei ôl, bydd yn croesawu gweithio hefo aelodau’r Pwyllgor.

 

Cadarnhawyd mai rôl y pwyllgor ydi edrych ar sut mae polisi iaith mewnol y Cyngor yn cael ei weithredu a sut mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith.  Prif bwrpas y Pwyllgor ydi edrych ar drefniadaeth fewnol y Cyngor mewn perthynas â’r Gymraeg.  Adroddwyd bod y Pwyllgor wedi bod yn cynnal ymchwiliadau oedd yn edrych ar bynciau neu faes penodol a llunio cyfres o argymhellion gwella.  Adroddwyd y tybir y bydd y drefn yma’n parhau ac awgrymwyd cyflwyno rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgor i’w gyfarfod nesaf.  Nodwyd y bydd materion yn deillio o’r adroddiad safonau i’w gosod ar y rhaglen waith.  Amlinellwyd prif waith y Pwyllgor ac adroddwyd bod hyrwyddo’r Gymraeg yn bwysig a byddir yn ymgynghori gyda’r aelodau ar strategaethau ond prif ffocws y pwyllgor ydi’r trefniadau mewnol.

 

9.

Y DREFN GWYNION GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch GyfreithiwrCorfforaethol yn nodi pwysigrwydd y drefn o ran y cyswllt agos hefo gofal cwsmer i sicrhau bod cwynion yn cael sylw dyladwy a bod goruchwyliaeth o’r ymatebion.

 

          Nodwyd pryder yr aelodau

-       na fydd y Gymraeg, sydd mor bwysig, yn derbyn sylw teilwng o ddilyn y drefn gwynion gorfforaethol.

-       am y fiwrocratiaeth ac y byddir yn colli golwg ar y nod.

-       am ddiffyg rôl i’r pwyllgor o ran dylanwad ar y cwynion a’r ymatebion.  Nodwyd, o ran cadw golwg ar y safonau, mae tystiolaeth yn bodoli bod y Cyngor yn ymateb i’r safonau yn iawn beth bynnag a chwestiynwyd rôl y pwyllgor. 

 

Eglurodd y Swyddog Monitro mai trefn gwynion gorfforaethol ar gyfer y cyhoedd ydyw i godi cwynion ynglŷn â gwasanaeth, yn cynnwys cwynion iaith.  Nodwyd bod y cyhoedd eisiau datrysiad sydyn felly hanfod y drefn yw gwneud pethau yn rhwydd i’r cwsmer.  Os oes gan aelod gwyn, gellir cysylltu â’r gwasanaethau uniongyrchol.  Bydd yna rôl i’r pwyllgor os daw yn amlwg bod patrwm cynyddol i’r cwynion ond dim rôl y pwyllgor ydi delio hefo cwynion unigol. Rôl ehangach o ran ansawdd iaith fydd gan y pwyllgor drwy edrych ar dueddiadau.

 

Mynegwyd pryder aelod nad oedd aelodau’r pwyllgor yn cael gweld y cwynion o hyn ymlaen.  Mewn ymateb nodwyd mai cwynion unigol oedd yn cael eu cyflwyno yn y gorffennol ac nid oedd y pwyllgor yn gweld patrymau dros amser.  O ganlyniad nid oedd dylanwad ar raglen waith y pwyllgor.  Trwy ddilyn y drefn gwynion gorfforaethol bydd tueddiadau yn cael eu hadnabod a gellir dod a’r tueddiadau hynny gerbron y pwyllgor yma.

 

Mynegwyd pryder aelod bod y Gymraeg yn cael ei gwthio i gael yr un math o ystyriaeth a chwyn am dwll yn y ffordd.  Mae’r Gymraeg yn gwbl wahanol ac yn treiddio drwy holl waith y Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Uwch GyfreithiwrCorfforaethol at bwynt 17 yn yr adroddiad sydd yn nodi’r bwriad i adrodd i’r pwyllgor hwn am y niferoedd a’r mathau o gwynion iaith, y patrymau a chynlluniau i wella.  Adroddodd bod y trefniadau yn gryfach o fewn y Cyngor erbyn hyn ac yn sicrhau bod y cwsmer yn cael ateb i’w cwyn.  Mae safon sut mae’r Cyngor yn delio hefo cwynion wedi gwella oherwydd bod yna oruchwyliaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod adroddwyd na dderbyniwyd cwyn iaith ers y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn.

 

          Gofynnodd aelod a oedd modd mynd yn ôl i ddefnyddio’r hen drefn.  Mewn ymateb eglurodd y Swyddog Monitro mai cyfrifoldeb y Cabinet yw’r drefn gwynion a’r Cabinet sydd wedi mabwysiadu’r drefn yma ar sail model cenedlaethol. Hon yw’r drefn gwynion gorfforaethol.  Mae’r drefn yn sicrhau bod problem sydd angen mwy o sylw yn cael sylw a bod y drefn yn un syml sy’n pwyso ar adrannau i gael datrysiad.

 

          Awgrymodd aelod bod cais yn mynd i’r Cabinet i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH pdf eicon PDF 253 KB

Ystyried adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.  Manylwyd ar y cynnwys gan y Swyddog Datblygu Iaith.  Eglurodd eu bod wedi penodi swyddog i’r swydd wag - Swyddog Dysgu a Datblygu a fydd yn helpu hefo datblygu sgiliau staff.

 

Croesawyd y datblygiadau fel y pencampwr iaith hamdden a’r awgrymiadau yn deillio o’r Ymchwiliad Gwelededd yr Iaith Gymraeg sydd yn berthnasol i Safonau Iaith 35 a 36 – Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn ymwneud â digwyddiadau cyhoeddus.

 

Nodwyd bod e fodiwl wedi’i ddatblygu yn unol â gofynion y safonau iaith ac mae ar gael ar gyfer pob aelod o staff.  Adroddwyd ar y Cynllun Pencampwyr Iaith a’r bwriad i’w ledaenu ar draws y Cyngor. Nodwyd bod y gwaith a wnaed hyd yma yn yr adran Ymgynghoriaeth eisoes yn dangos gwahaniaeth yn y modd y mae staff yn cyfathrebu gyda’i gilydd ac mewn cyfarfodydd.

 

Gofynnodd aelod a oedd yna rôl i’r pwyllgor i geisio ymestyn beth mae’n wneud, e.e. gweithio hefo’r sector breifat i wella’r ddarpariaeth.  Er enghraifft, ymestyn allan o waliau’r sir a gweld sut y gellir dylanwadu yn ehangach ar y defnydd o’r Gymraeg.

 

Mewn ymateb awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg bod y pwyllgor yn  derbyn cyflwyniad ar ‘Hunaniaith’ sef y fenter iaith yng Ngwynedd sydd a’r rôl o hyrwyddo’r Gymraeg y tu allan i furiau Gwynedd.  Adroddwyd bod y Cyngor ei hun hefyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau cyd-ddealltwriaeth.  Bydd y Cyngor yn llunio Strategaeth Iaith newydd rhwng nawr a mis Mawrth.

 

Awgrymodd aelod ymestyn y defnydd o gortynnau gwddf / bathodynnau iaith i aelodau yn ogystal â’r staff.

 

PENDERFYNWYD

-       derbyn yr adroddiad

-       bod y pwyllgor yn derbyn cyflwyniad ar ‘Hunaniaith’ yn ei gyfarfod nesaf.

 

 

11.

GWIREDDU'R UCHELGAIS - YMATEB I STRATEGAETH GYMRAEG NEWYDD LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 489 KB

Ystyried adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.  Manylwyd ar y cynnwys gan y Rheolwr Gwasanaethau Iaith.  .  Bydd Strategaeth derfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi ar 11 Gorffennaf 2017. 

 

Nodwyd pryder bod cymaint o ffocws ar addysg fel yr unig gyfrwng i gyrraedd y nod. 

 

Tynnwyd sylw’r aelodau nad oes son am gadarnleoedd yr iaith, yr elfen o ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, a’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymuned.

 

Nodwyd pwysigrwydd gosod cerrig milltir sydd yn cael ei gyfarch yn yr adroddiad, ond yn fater anodd ei fesur.  Defnyddir y system addysg yn aml ond bydd yn her a rhaid meddwl am ffyrdd soffistigedig i fesur.

 

Awgrymodd aelod mai’r unig ffordd i wireddu’r uchelgais yw drwy agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Mae llawer o deuluoedd lle nad yw’r rhieni yn siarad Cymraeg felly dim Cymraeg ar yr aelwyd.

 

Adroddodd aelod bod tri chwarter y siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynhyrchu gan y system addysg a chwarter gan y cartref.  Os am wireddu’r uchelgais, awgrymwyd mai ffordd ymlaen yw drwy ymestyn y system addysg, yn arbennig yn y De Ddwyrain.  Dylai’r Llywodraeth gefnogi’r Awdurdodau Lleol sy’n gweithredu’r gofynion yn barod a’r awdurdodau sydd yn cymryd camau i ymestyn y sector addysg Gymraeg.

 

Mynegwyd siom bod yr adroddiad yn crybwyll defnyddio’r system addysg yn unig i wireddu’r uchelgais ac awgrymwyd cynnwys y maes cynllunio yn ogystal.  Yn aml mae’n faes sy’n cael effaith ar yr iaith.  Cytunodd aelod a’r sylw hwn ac yn enwedig yn sgil penderfyniad Leslie Griffiths, Aelod Cabinet Llywodraeth Cymru yn caniatáu i adeiladwyr apelio eto ar ôl i Wynedd droi cais i lawr ddwywaith ynglyn a’r tir ym Mhenrhosgarnedd.

 

Awgrymodd aelod bod lle i edrych ar rôl Hunaniaeth o ran y pwyslais ar ddatblygu’r Gymraeg yn gymunedol.  Adroddwyd bod Mentrau Iaith gyda rôl ganolog yng nghymunedau mewn llefydd eraill a bod lle i edrych ar rôl y fenter iIaith yn y sir yma.

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg bod y Cyngor wedi pwysleisio’n glir nad trwy un cyfrwng, sef y system addysg, mae gwireddu’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.

 

Adroddodd aelod bod rhaid edrych ar ôl cwmnïau gwledig a bod hybu’r economi yn hanfodol i gadw siaradwyr Cymraeg yma.

 

Adroddodd aelod bod y nod yn iawn, ond bod y Llywodraeth a’r pwyllgor sydd wedi ffurfio’r Strategaeth yn hesb o syniadau ac yn troi at addysg fel petai hynny’n allwedd i bopeth. 

Adroddwyd bod aelodau’r pwyllgor i gyd yn dod o’r De Ddwyrain.

 

Mewn ymateb i’r sylw ar aelodaeth y pwyllgor, adroddodd yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg bod dim cynrychiolaeth o’r Gogledd Orllewin a bron dim o’r Gogledd yn ei gyfanrwydd.  Nodwyd ei bwriad i godi’r mater hefo Cadeirydd y pwyllgor ac i geisio cynrychiolaeth deg o’r siaradwyr ar draws Cymru. 

 

 

 

 

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.30 y.b. a daeth i ben am hanner dydd.