skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Williams  01286 672729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Eric Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad buddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd materion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 216 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dilid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2017, fel rhai cywir.

 

 

 

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2017 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad llafar Aelod Cabinet y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

§  Penodiad Eluned Morgan fel y Gweinidog newydd gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg – mae bwriad i’w gwahodd yn swyddogol i Wynedd i ddangos y gwaith sydd yn mynd ymlaen yma.

§  Dim wedi derbyn diweddariad o beth fydd yn digwydd ynglŷn â Bil y Gymraeg.

§  Y gwaith ymgynghori ar Gynllun y Cyngor, fydd yn mynd ger bron y Cyngor Llawn ar y 1 Mawrth 2017, ynghyd â’r Cynllun Llesiant lle mae’r Gymraeg wedi ei gynnwys fel un o’r blaenoriaethau.

§  Diolchwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau’r Iaith Gymraeg ar ei gwaith o lunio’r Strategaeth Iaith a fydd yn mynd allan am ymgynghoriad ym mis Mawrth.

§  Wedi cyfarfod gyda Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned Gymraeg yn y Llywodraeth, a bydd cyfarfodydd rheolaidd yn ei gynnal i drafod materion sy’n digwydd yn genedlaethol ac yn lleol e.e. Datblygiadau Technoleg Iaith.

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

6.

STRATEGAETH IAITH GWYNEDD pdf eicon PDF 222 KB

Diweddariad ar yr amserlen a chyflwyniad.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg yn diweddaru’r pwyllgor ar gynnwys Strategaeth Iaith Gwynedd. Eglurwyd fod yr amserlen wreiddiol i ymgynghori ar y strategaeth wedi llithro er mwyn sicrhau bod y blaenoriaethau sydd wedi eu nodi yn y strategaeth yn adlewyrchu blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a’r Cynllun Llesiant. Nodwyd bod y Strategaeth Iaith ddrafft bellach wedi ei gwblhau a bydd yn mynd gerbron y Cabinet ar y 13 Mawrth 2018 i ofyn am gymeradwyaeth i ddechrau’r cyfnod ymgynghori. Mae bwriad i gyflwyno’r strategaeth i’r Pwyllgor Iaith ym mis Ebrill er mwyn ymgynghori gyda’r pwyllgor yn ffurfiol.

Tywyswyd yr aelodau’r drwy gynnwys y Strategaeth Iaith ddrafft. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-

§  Croesawu cynnwys yr adroddiad a mynegwyd gwerthfawrogiad i’r adran am eu gwaith.

§  Pwysigrwydd cyfoethogi cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith fel iaith naturiol, cymunedol sydd yn cael ei defnyddio pob dydd; er na fydd hyn yn cynyddu’r nifer sy’n siarad y Gymraeg, bydd hyn cryfhau’r iaith ac yn ei sicrhau ar gyfer y dyfodol.

§  Beth yw gwerth strategaeth yn erbyn gwerth polisi?

§  Trefniadau monitro cynnydd y blaenoriaethau – pwysig bod y Pwyllgor Iaith efo rhan allweddol yn y broses yma.

§  Angen adnabod manylder meysydd gwaith ein partneriaid i sicrhau bod gwaith ddim yn cael ei ddyblygu.

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y strategaeth.

 

7.

STRATEGAETH IAITH UWCHRADD pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y Strategaeth Iaith Uwchradd gan y Swyddog Addysg Ardal Ysgolion a Chydlynydd y Strategaeth Iaith Uwchradd. Nodwyd fod y strategaeth yn ymateb i’r galw i sicrhau dilyniant i’r Siarter Iaith sydd eisoes wedi bod yn weithredol yn yr ysgolion cynradd. Adroddwyd bod y strategaeth, fel dogfen ddrafft, wedi bod gerbron y Grŵp Cynllunio Strategaeth Uwchradd, y Pwyllgor Iaith, a’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi am ymgynghoriad, ac wedi ei fabwysiadu gan y Cabinet ar y 26 Hydref 2017.

Tywyswyd yr aelodau drwy’r strategaeth. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-

§  A oes modd monitro'r nifer o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg mewn ysgolion megis Tywyn.

§  Yr angen i fynd i’r afael â’r dirywiad parhaol yng nghanlyniadau disgyblion sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg Iaith Gyntaf ar ddiwedd CA3. A oes modd ymgorffori’r anghenion yma yn narpariaeth GwE?  

§  Ymateb i’r strategaeth gan bennaeth newydd CBAC.

§  Yr angen i godi niferoedd yr athrawon sy’n dysgu yn y Gymraeg iaith gyntaf i osod y deunydd craidd i ddysgu pob pwnc yn y Gymraeg.

§  Sicrhau bod gwirfoddolwyr/hyfforddwyr sy’n  dysgu plant ar ôl ysgol yn defnyddio’r Gymraeg.

§  Angen i’r strategaeth ymledu i bob cwr o’r Cyngor.

§  Pwysig bod y Colegau hefyd yn cael eu cynnwys yn y strategaeth.

PENDERFYNWYD derbyn y cynnwys yr adroddiad a’r camau nesaf.

 

8.

CYFLWYNIAD I WAITH HUNANIAITH

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor gan Reolwr Canolfan Popdy ym Mangor ar waith Hunaniaith sef Menter Iaith Gwynedd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-

§  A yw gwaith Hunaniaith yn dyblygu gwaith y llyfrgelloedd?

§  Pwysigrwydd derbyn yr iaith sut bynnag y mae hi’n cael ei siarad.

§  Yr angen i annog mwy o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc.

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad.

 

9.

CWYNION

Dim cwynion i’w hadrodd.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw gwynion yw nodi.

 

10.

MATERION YN CODI

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion eraill yn codi.