Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Ann Roberts 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: 1. YMDDIHEURIADAU Y Cynghorydd Elwyn
Edwards. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: 2. DATGAN
BUDDIANT PERSONOL Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: 3. MATERION
BRYS Ni dderbyniwyd materion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir. Cofnod: 4. COFNODION Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4
Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG Derbyn adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg. Cofnod: 5. ADRODDIAD
YR AELOD CABINET – Y GYMRAEG Cyflwynwyd adroddiad llafar Aelod Cabinet y Gymraeg, yn manylu ar
ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan
gynnwys y canlynol:- ·
Digwyddiad yn Llandudno yn Ymgynghori ar Bapur
Gwyn y Llywodraeth – Taro’r Cydbwysedd iawn:
Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.
Nodwyd bod Alun Davies, Y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg
yn bresennol. Adroddwyd bod pwyslais yr
ymgynghoriad ar ffafriaeth y Llywodraeth o ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg a
sefydlu Comisiwn y Gymraeg. ·
Y gwaith o lunio Strategaeth Iaith newydd
Gwynedd yn mynd yn ei flaen. Y bwriad
fydd ymgynghori ar y Strategaeth drafft yn ystod mis Tachwedd/Rhagfyr. ·
Ymestyn y siarter iaith i’r ysgolion uwchradd
drwy gyfrwng y Strategaeth Iaith Uwchradd. ·
Canllaw Cynllunio Atodol – gwaith yn mynd
rhagddo ar y canllawiau. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg Dogfennau ychwanegol: Cofnod: 6. YMATEB
I DDOGFEN YMGYNGHOROL PAPUR GWYN Y LLYWODRAETH – TARO’R CYDBWYSEDD IAWN:
CYNIGION AR GYFER BIL Y GYMRAEG Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod
Cabinet – Y Gymraeg yn cyflwyno ymateb drafft yr Uned
Iaith i ymgynghoriad
y Llywodraeth ar eu Papur Gwyn: Taro’r Cydbwysedd iawn: Cynigion ar gyfer
Bil y Gymraeg. Eglurodd bod ymgynghoriad y Llywodraeth i ystyried newidiadau
i Fesur y Gymraeg a’r modd
y caiff y Safonau eu gosod a’u
gweithredu gyda’r nod o symleiddio’r broses. Nodwyd bod y broses wedi bod yn system o fiwrocratiaeth drom a chroesawir y newid hwn tuag at drefn
a fydd yn hybu a hwyluso, ac yn annog newid
drwy fagu ewyllys da yn hytrach
na gorfodi. Cyflwynwyd y materion yn y crynodeb
ar amcan y papur a’r ymateb
gan y Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg. Nodwyd bod bylchau yn yr wybodaeth
a gyflwynwyd ym mhapur y Llywodraeth, a’r angen i
ddeall mwy cyn gallu rhoi
barn bendant ar ambell i fater. Adroddwyd y bu cynrychiolaeth mewn digwyddiad ymgynghori agored gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac y bydd cyfarfod arall
ar 13 Hydref ar gyfer swyddogion
yn benodol. Tywyswyd yr
aelodau drwy’r ddogfen drosolwg o Ran 1 i Ran 5. Nodwyd bod y pwyslais wrh son am y meysydd strategol y mae’r Llywodraeth yn gyfrifol amdanynt
y rhan 1 ar y maes Addysg ac nad oedd digon
o sylw pendant i feysydd eraill fel cynllunio a’r
economi a thwristiaeth nac am feysydd eraill lle mae
potensial i ddylanwadu ar ddefnydd
iaith. Trafodwyd ac ystyriwyd y gwahanol opsiynau yn amlinellu’r
dewisiadau posib ar gyfer strwythur
newydd a lle bydd y gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau yn gorwedd. Mynegwyd pryder am yr opsiwn
sydd yn cael
ei ffafrio gan y Llywodraeth o sefydlu Comisiynydd ac am ddiffyg gwybodaeth eglur yn y papur
ar wahanol agweddau. Pwysleiswyd yr angen i
gael cymaint o annibyniaeth a phosib i’r corff newydd,
a bod angen pwysleisio yn ymateb y Cyngor i’r Papur Gwyn yr angen i
gydweithio yn hytrach na bod ar wahân. Trafodwyd pwysigrwydd
gwreiddio hawliau unigolion yn y Mesur er bod y Llywodraeth wedi dweud nad ydi
hynny’n bosib. Trafodwyd yr angen i
bobl gael y sicrwydd y bydd eu hanghenion ieithyddol
yn cael eu
parchu, a’r ddadl mai dim ond drwy
osod hawl cyfreithiol y gellir gwneud hynny. PENDERFYNWYD derbyn ymateb drafft yr
Uned Iaith i ymgynghoriad y Llywodraeth ar eu Papur Gwyn: Taro’r Cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil
y Gymraeg. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR IAITH PDF 232 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: 7. RHAGLEN
WAITH Y PWYLLGOR IAITH Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg ac atgoffwyd yr aelodau
o gadarnhad yr Uwch Gyfreithiwr – Corfforaethol am gylch gorchwyl y Pwyllgor Iaith yn y cyfarfod
diwethaf. Gofynnodd aelod
sut y gall y Pwyllgor Iaith oruchwylio gweithrediad y polisi iaith a chydymffurfiaeth gyda’r Safonau Iaith os nad
ydi’r Pwyllgor yn craffu ar
hynny. Rhaid sicrhau sefydlu
rhaglen waith cadarn. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad a’r Rhaglen
Waith |
|
CWYNION AC YMCHWILIADAU PDF 340 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: 8. CWYNION
AC YMCHWILIADAU Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg. Nodwyd bod ymchwiliad hir a beichus wedi dod
i ben gan y Comisiynydd Iaith i fethiant posib
i gydymffrufio wrth ddarparu gwersi
nofio. Adroddwyd bod y Comisynydd wedi barnu i’r
Cyngor fethu a chydymffurfio gyda Safon 81, a bod yr Uned Iaith wrthi’n
ystyried sut i ymateb i
gais y Comisiynydd i gymryd camau
gweithredu. Nodwyd yr enghreifftiau o ddulliau gweithredu posib y gellid eu defnyddio i
hybu a hysbysebu gwersi nofio Cymraeg
a thrafodwyd yr angen i fod
yn ofalus iawn wrth eirio
hysbysebion. Mewn ymateb
i sylw aelod
bod rhai aelodau o staff yn gallu siarad
Cymraeg ond yn siarad Saesneg
efo'i gilydd, adroddwyd bod y Cyngor yn rhoi cefnogaeth
i staff i gryfhau eu sgiliau
Cymraeg. Adroddwyd bod y Cyngor wedi bod yn gweithio
gyda staff Hamdden i wella’r sefyllfa
a chytunwyd bod arferion ieithyddol sydd wedi hen sefydlu yn mynd i
gymryd amser i’w newid. Nodwyd bod swyddog o’r adran
hamdden yn gyfrifol am arsylwi gwersi nofio a bod llawer o waith cefndir yn
mynd yn ei
flaen i gefnogi
staff Hamdden. Eglurwyd bod y ddwy gŵyn a ddaeth i law ers
y cyfarfod diwethaf yn ymwneud â pholisi
recriwtio’r Cyngor a’r angen i
gael sgiliau Cymraeg i ymgeisio
am swyddi. Nodwyd nad oedd
y cwynion yn manylu ar ba
swyddi oedd yr unigolion wedi
ceisio amdanynt. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL Diweddariad ar lafar gan y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: 9. CANLLAW
CYNLLUNIO ATODOL Cyflwynwyd diweddariad ar lafar gan
y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg ar y gwaith
ar y Canllaw Cynllunio Atodol. Atgoffwyd yr aelodau
eu bod wedi eu gwahodd i
sesiwn briffio anffurfiol ar y cyd gyda’r Pwyllgor
Craffu Cymunedau ar 22 Medi, ble
y cafwyd cyfle i drafod y canllaw
gyda’r Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg a swyddogion cynllunio. Adroddwyd bod y gwaith o lunio’r Canllaw Atodol yn mynd rhagddo,
ac atgoffwyd yr aelodau o’r bwriad
i gyflwyno adroddiad drafft i’r Pwyllgor Craffu
Cymuendau ddechrau Tachwedd. Nodwyd y bydd y Pwyllgor Iaith a’i aelodau yn
cael eu cynnwys
yn y broses o gyfrannu at a
chraffu’r canllaw ar gais y Pwyllgor
Craffu Cymunedau,ac ar y cyd gyda
phwyllgorau cyfatebol Cyngor Sir Ynys Mon.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad
llafar Dechreuodd y cyfarfod am 10.30 y.b. a daeth i ben am 11.55.y.b |
|
GWEITHDY Ar ddiwedd y cyfarfod, cynhelir gweithdy i drafod Strategaeth Iaith newydd Gwynedd. Hwylusydd: Swyddog Datblygu Iaith. |