skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Ann Roberts  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Ymddiheuriadau:  Y Cynghorydd Gweno Glyn a John Wyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

1.       DATGAN BUDDIANT PERSONOL

 

          Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Nid oedd materion brys i’w trafod.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 220 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 5ed o Orffennaf 2016 fel rhai cywir

Cofnod:

2.       COFNODION

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir.

5.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet - y Gymraeg

Cofnod:

3.       ADRODDIAD YR AELOD CABINET – Y GYMRAEG

 

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Awdit Iaith a’r cynllun gweithredu.  Cyfarfod pedwar Pennaeth Gwasanaeth – Economi a Chymuned,  Rheoleiddio, Oedolion, Iechyd a Llesiant, ac Ymgynghoriaeth i bwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg gan ofyn iddynt raglennu gwaith i ymateb i’r materion a godwyd.

·         Ceisiwyd cyfarfod efo Aelodau Cabinet Cynghorau cyfagos i drafod sut maent yn bwriadu ymateb i ofynion Safonau Iaith ond methiant llwyr fu’r ymgais hynny.  Wedi cyfarfod buddiol iawn efo Swyddog Iaith Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy, cytunwyd i gynnal cyfarfod ar y cyd ym mis Ionawr  gyda holl Swyddogion Iaith i drafod y Safonau Iaith.

·         Cafwyd cyfarfod buddiol gyda swyddog o Swyddfa’r Comisiynydd Iaith i rannu gwybodaeth.

·         Cyfarfod Grŵp Strategol Hunaniaith wedi ei gynnal, yno cytunwyd i wahodd aelodau Grŵp Gweithleoedd hunaniaith a chynrychiolaeth o Fforwm Iaith Môn i’r cyfarfod nesaf ar gyfer trafod  y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

·         Lansio Popdy - Canolfan Iaith Bangor yfory gydag Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru .

·         Bu Alun Davies AC ar ymweliad, yn Ysgolion Abercaseg a Phen-y-bryn, Bethesda heddiw.  Yno cafwyd sgwrs gyda Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol dros Fentrau Iaith a bydd cyfle pellach i drafod llwyddiannau ynghyd â materion na lwyddwyd eu cyfarch mewn cyfarfod sydd eto i’w drefnu.

 

Gofynnwyd a oedd paratoadau ar gyfer y miloedd o bobl, a fydd yn symud i mewn i’r ardal yn sgil datblygiad Horizon?  Adroddwyd bod cwmni Horizon wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd gyda gwasanaethau Cyngor Gwynedd wythnos nesaf. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

6.

YMGYNGHORIAD AR STRATEGAETH Y GYMRAEG pdf eicon PDF 404 KB

I gyflwyno adroddiad ac ymateb drafft yr Aelod Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

4.       YMGYNGHORIAD AR STRATEGAETH Y GYMRAEG

          Cyflwynwyd ymateb drafft yr Aelod Cabinet i’r ddogfen ymgynghori:  Miliwn o siaradwyr erbyn 2050.  Nodwyd bod ffocws Strategaeth Iaith y Llywodraeth flaenorol wedi symud ymlaen erbyn y Strategaeth hon i ganolbwyntio bron yn llwyr ar addysg a thwf addysg Gymraeg fel y cyfrwng i allu gwireddu’r miliwn o siaradwyr erbyn 2050. 

 

Adroddwyd bod

 

·         Angen cyfeirio mwy at gadarnleoedd y Gymraeg a sut y bwriedir cryfhau’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny sydd yn meithrin y Gymraeg yn gwbl naturiol.

·         Angen cyfeirio at gynllunio cymunedol

·         Angen ymrwymiad go iawn a fydd yn treiddio i holl waith Llywodraeth Cymru

 

Gwnaed y sylwadau ychwanegol ar yr ymateb drafft

 

·         Nodwyd nad oes cyfeiriad ar sut y bwriedir gwireddu’r Strategaeth ac o ble daw’r adnoddau i sicrhau ei llwyddiant.

·         Cyfeirir at addysg bellach ac addysg uwch. Nodwyd pryder aelod am y gefnogaeth ariannol a roddir i fyfyrwyr Cymru i fynd i brifysgolion o’u dewis.

·         Nodwyd yr angen am eglurder wrth gyfeirio at addysg ddwyieithog.

·         Awgrymodd aelod bod angen sefydlu ardaloedd penodol Gymraeg.

·         Angen rhoi gwerth economaidd i’r Gymraeg a rhaid defnyddio deddfau cynllunio i warchod y Gymraeg. 

·         Nodwyd bod angen ceisio perswadio pobl Gymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg.

·         Angen rhoi ystyriaeth i swyddi yn y Strategaeth.

·         Angen sicrhau nad yw’n bosib cam-ddehongli’r ymateb drafft o dan y Maes datblygu 3: Addysg a bod angen cynnwys diffiniad o bolisi iaith addysg  Cyngor Gwynedd.

 

Adroddwyd y bydd yr ymateb drafft i’w gyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth cyn diwedd y mis gyda’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 31 Hydref 2016. 

 

Diolchwyd i’r aelodau am eu sylwadau ac adroddwyd bod modd i’r aelodau ymateb yn uniongyrchol i’r ymgynghoriad hefyd.

 

PENDERFYNWYD ymgorffori’r sylwadau ychwanegol yn yr ymateb i’r ddogfen ymgynghori ar ran Cyngor Gwynedd.

7.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT

Adroddiad llafar gan y Swyddog Addysg Ardal Gwynedd

Cofnod:

5.       CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT

 

          Derbyniwyd adroddiad llafar gan y Swyddog Addysg Ardal Gwynedd yn egluro bod Cynllun 2017-20 yn parhau gyda phum deilliant y cynllun 2010.  Adroddwyd y bwriad i  osod targedau uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy gan y bydd y Cyngor yn gorfod adolygu cynnydd yn erbyn y targedau hynny.

 

          Eglurwyd y bwriad gwreiddiol i gyflwyno cynllun drafft i’r Pwyllgor Iaith ond oherwydd bod templed y cynllun wedi newid cymaint ni fu hynny’n bosibl.  Yn ogystal, adroddwyd nad oedd sesiynau ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar draws y Gogledd wedi dod i ben tan wythnos diwethaf, gyda’r olaf  yn Llandudno.  

 

Adroddwyd ar y tair Adran a’r deilliannau ynghyd a’r targedau drafft mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gosod yn y cynllun gweithredu i ymateb i’r gofynion.  Nodwyd bod fframwaith Estyn yn gofyn cwestiwn am y modd y mae’r Cyngor yn cynllunio’n fwriadus a bydd angen dangos hynny. 

 

Nodwyd yr amserlen allweddol ganlynol:-

 

24 Hydref 2016                         Awdurdodau lleol i lansio ymgynghoriad statudol am 8 wythnos

 

Canol Tachwedd           Anfon data Mudiad Meithrin at yr awdurdodau

 

20 Rhagfyr 2016           Awdurdodau’n cyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn

                                       Addysg 2017-20 i’r Llywodraeth.

 

Nodwyd er bod yr amserlen yn dynn bod posibilrwydd y bydd y ddogfen wedi’i pharatoi ar amser.

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu Estyn bob blwyddyn i archwilio ar sail themâu ac archwiliwyd un o feysydd y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.  Dewiswyd Gwynedd a Fflint i’w harchwilio.  Nodwyd bod adroddiad terfynol Estyn ar eu gwefan erbyn hyn ac mae paragraph 49 yn nodi fel a ganlyn:-

 

‘Ceir rhai enghreifftiau da ble defnyddir arbenigedd yn effeithiol i ddatblygu darpariaeth ar draws awdurdodau lleol, mewn cydweithrediad â chonsortia rhanbarthol a rhwydweithiau rhanbarthol.  Enghraifft o hyn yw datblygu’r ‘Siarter Iaith’ yng Ngwynedd.  Nod y Siarter Iaith yw darparu fframwaith i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan ddisgyblion mewn cyd-destun cymdeithasol. Ceir arwyddion cynnar for y ‘Siarter’ yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar gynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan ddisgyblion yn ysgolion Gwynedd. Mae’r ‘Siarter’ yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd.’

 

Nodwyd yr angen i sicrhau bod disgyblion sy’n dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgolion yn gallu dilyn y cyrsiau yn y Gymraeg yn y Colegau wedyn.

 

PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod arbennig i drafod drafft o’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-20 yn ystod y cyfnod ymgynghori.

8.

DIWEDDARIAD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH pdf eicon PDF 321 KB

Adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle yn diweddaru’r aelodau ar weithrediad y Safonau Iaith

Cofnod:

6.       DIWEDDARIAD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH

 

          Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle. 

 

         

Nodwyd bod y gwaith gyda’r Gwasanaeth Oedolion yn canolbwyntio ar ddeall perthynas y Safonau Iaith a Mwy na Geiriau, a sicrhau bod unrhyw ymyrraeth a gynllunnir yn ateb gofynion gweithredu Mwy na Geiriau a’r Awdit Iaith mewnol. Eglurwyd y mewnbwn a roddwyd yn y sesiynau hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth Iaith y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd.  

 

Nodwyd bod y pwyslais yn y cyfnod diwethaf wedi bod ar godi ymwybyddiaeth staff a thimau am ofynion y Safonau Iaith, ac y bydd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu i ledaenu negeseuon am arfer dda.

 

Adroddwyd hefyd bod sgwrs wedi ei chynnal gyda’r tîm Dysgu a Datblygu i edrych ar newidiadau posib i hyfforddiant datblygu sgiliau iaith.

9.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 261 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith

Cofnod:

7.      CWYNION IAITH

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar yr un gwyn iaith ddiweddaraf i law a’r ymateb.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.