skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Ann Roberts  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2016/17

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eirwyn Williams yn gadeirydd y pwyllgor hwn am 2016/17.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2016/17

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Charles Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Y Cynghorydd Tom Ellis, Eric M. Jones ac Owain Williams.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

6.

COFNODION pdf eicon PDF 70 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21/04/2016 fel rhai cywir  (ynghlwm)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2016 fel rhai cywir.

 

Mewn ymholiad am enw traeth lleol, cadarnhaodd y Swyddog Datblygu Iaith ei bod wedi derbyn ateb gan ddau allan o bum cyngor tref/cymuned leol yn nodi bod y ddau enw yn cael ei ddefnyddio - Traeth Greigddu a Black Rocks.  Y Swyddog Datblygu Iaith i fynd yn ôl at y tri chyngor cymuned arall i gael ymateb er cael tystiolaeth i Ordnans.

 

Cyfeiriwyd at fap Saesneg a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ddydd Llun, 4 Gorffennaf a chytunwyd i drafod y mater efo’r Adran Cynllunio.

 

 

7.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet – y Gymraeg

Cofnod:

Croesawyd Debbie Anne Jones yn ôl i’r gwaith yn dilyn cyfnod mamolaeth. 

 

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Awdit Iaith a’r cynllun gweithredu.  Hyrwyddo’r Iaith drwy ein hadnodd gwerthfawr, sef y staff.

·         Cyfarfod efo cynghorau cyfagos i drafod sut i ymateb i ofynion Safonau Iaith i ddod

·         Cynhadledd Prifysgol Bangor a’u gwaith ymchwil oedd yn cynnig tystiolaeth.  Angen mwy o gydweithio.

·         Cyfarfod Prifysgol Aberystwyth.  Adroddwyd bod y Brifysgol yn chwilio am feysydd ymchwil yn y maes tai, symudiad pobl ac eraill.

·         Canolfan Iaith Bangor yn agor diwedd yr haf.

·         Cyfarfod i’w drefnu efo gweision sifil Llywodraeth Cymru i drafod Hunaniaith Cyngor Gwynedd

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

8.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 72 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar y cwynion iaith ddiweddaraf i law a’r ymatebion.

 

Codwyd cwyn am dystysgrifau gwersi nofio uniaith Saesneg yn unig a gyflwynir i blant gan y Ganolfan Hamdden ym Mhwllheli.

 

Adroddodd aelod ei bod wedi rhoi cwyn ymlaen bythefnos yn ôl am arwydd gyda Chymraeg gwallus arno.  Nid oedd y Swyddog Datblygu Iaith wedi derbyn y gwyn hyd yn hyn.

 

Adroddwyd bod yr awdit iaith yn dangos yr angen i dargedu meysydd penodol fel arwyddion a hamdden.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL I'R COMISIYNYDD IAITH pdf eicon PDF 410 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith i’r Comisiynydd Iaith yn adrodd yn erbyn y safonau iaith a ddaeth i rym ar 31 o Fawrth 2016.

 

Nodwyd mai isafswm ydi'r safonau iaith ac mai uchelgais Cyngor Gwynedd ydi cyrraedd lefelau uwch.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

10.

AWDIT IAITH - CANLYNIADAU IAITH A CHYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith gan yr Uwch Reolwr - Democratiaeth a Chyflawni.  Manylwyd ar sut aethpwyd ati i gynnal yr awdit a’r canlyniadau o’r gwaith hynny a wnaeth arwain at y camau gweithredu pellach.  Adroddwyd bod yna fwlch yn rhai elfennau gwasanaeth oedd yn rhwystro rhag gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, er enghraifft, systemau ddim ar gael yn y Gymraeg.  Er hynny, adroddwyd y byddir yn cyfathrebu efo cyrff eraill i roi pwysau arnynt i gynnig gwasanaeth yn Gymraeg.

 

Darganfu'r ‘ymarferiad siopwr cudd’ bod y patrwm iaith yng nghlybiau ieuenctid yn siomedig iawn gyda’r angen i arfogi staff i fod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg bob tro.

 

Adroddwyd nad oedd y Cyngor wedi paratoi esboniad o beth yn union mae Polisi Iaith yn golygu wrth ddefnyddio’r iaith.   O ganlyniad, crëwyd canllawiau newydd yn ddiweddar sy’n cynnwys cyfeiriad at gymorth.  Cyfeiriwyd at yr angen i gytundebau efo cwmniau allanol gynnwys amodau sy’n manylu beth yn union oedd ei angen, er enghraifft gosod arwyddion Cymraeg, a bod angen swyddog Cymraeg ar y safle.

 

Nodwyd bod recriwtio yn rhai meysydd yn anodd a bod trefniadau ar y gweill i drafod y mater fesul Pennaeth Gwasanaeth, yn sgil penderfyniadau blaenorol gan y Pwyllgor hwn.

 

Cytunwyd bod angen newid ymddygiad staff a rheolwyr ac y gellir dylanwadu drwy’r Tîm Cyfathrebu Mewnol. Nodwyd bod y geiriad  ‘Cychwynnwch y sgwrs yn y Gymraeg bob tro’ yn bwysig iawn i newid ymddygiad staff a rheolwyr.

 

Awgrymodd aelod y byddai gofyn i benaethiaid ysgolion am adborth ar y Siarter Iaith yn werthfawr iawn.  Nodwyd pryder yr aelod bod gwaith papur efo’r Siarter Iaith yn mynd yn fyrdwn ar yr ysgolion.  Mewn ymateb i bryder yr aelod, adroddodd yr Uwch Reolwr - Democratiaeth a Chyflawni bod Cyngor Gwynedd wedi arbrofi ers dwy flynedd ar y Siarter Iaith ac yn awr yn edrych beth sydd yn ymarfer da.

 

Eglurodd y Swyddog Datblygu Iaith bod y Cyngor yn y broses o ddatblygu gwe iaith ar gyfer y swyddfa sydd yn cynnwys wyth cwestiwn syml ar ddefnydd iaith, agwedd a hyder staff.  Bydd y Swyddog Datblygu Iaith yn cael clywed gan y swyddogion eu hunain yn hytrach na rheolwyr efo’r we iaith, gan mai barn rheolwyr yn unig sydd ei dderbyn o’r awdit iaith. Y bwriad ydyw defnyddio hwnnw ar gyfer ymyrraeth targedu adrannau sydd angen sylw.

 

Gwnaed y sylw mai anogaeth sydd angen ar staff a chyfeiriwyd at y gwaith anhygoel wnaed gan Dîm Peldroed Cymru yn ddiweddar ac y gall Cyngor Gwynedd wneud gwaith tebyg.  Nodwyd bod dau swyddog cymunedol Hunaniaith wedi bod at Glybiau Ieuenctid yn cyflwyno hanes Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

11.

YMCHWILIAD IAITH - GWELEDEDD Y GYMRAEG YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 57 KB

Derbyn diweddariad ar waith yr Ymchwiliad

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Cynllunio Strategol, Perfformiad a Phrosiectau yn rhoi diweddariad ar waith yr ymchwiliad hyd yma.  Adroddwyd bod cynnydd da gyda’r gwaith ac anelir i adrodd i’r Pwyllgor Iaith ym mis Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

12.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR AR YR IAITH GYMRAEG A LLYWODRAETH LEOL pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol, Mehefin 2016 gan y Swyddog Datblygu Iaith.  Nodwyd bod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn i Wynedd ac yn cynnig 14 o argymhellion.  Adroddwyd bod Cyngor Gwynedd yn barod yn ymateb i’r rhan fwyaf o’r argymhellion hyn.  Nodwyd bod un o’r argymhellion yn berthnasol iawn i Wynedd, sef “Dylai Awdurdodau Lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel Awdurdodau Addysg Leol, fod dan ddyletswydd statudol i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, a lle bo angen, i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r  anghenion hynny.”

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon y sylw canlynol at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi bod y Pwyllgor yn croesawu'r adroddiad sydd yn symud i’r cyfeiriad iawn ac yn edrych ymlaen at y camau nesaf.

 

13.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR IAITH AR GYFER 2016-17 pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni ar raglen waith y Pwyllgor am y flwyddyn i ddod.

 

Awgrymodd aelod bod angen datganiad gan y Cyngor ar ddatblygiad y Cynllun Iaith.

Adroddwyd y byddir yn cyflwyno Cynllun Strategol newydd ym mis Mawrth 2017 gyda datganiad o fwriad i’w gyflwyno i staff cyn hynny.  Adroddwyd bod ystyriaeth yn cael ei roi i gryfhau cyfarfodydd y Cyngor llawn a chynnwys trafodaeth datganiad ‘cyflwr y genedl’ ar gynlluniau o bwys.  Byddai modd cynnwys materion fel yr awdit iaith yn hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.