Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
am 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Gweno
Glyn yn gadeirydd y pwyllgor hwn am 2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd am 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Eirwyn
Williams yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Elwyn
Edwards, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllian ac Elfed
Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyfeiriodd y Cadeirydd at fater a godwyd gan aelod
o’r pwyllgor hwn yn y Pwyllgor Cynllunio diwethaf, sef y dylid dosbarthu
asesiadau ardrawiad ieithyddol gyda rhaglenni’r Pwyllgor Cynllunio. Esboniodd yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni y cefndir
i hyn gan nodi:- ·
I Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio
egluro nad oedd y mater o ba bapurau sydd i’w cynnwys ai peidio gerbron y
pwyllgor hwnnw ac y cytunwyd bod modd trafod y broses ddosbarthu yn y pwyllgor craffu
priodol neu’r Pwyllgor Iaith. ·
Bod
y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar fin cychwyn ymchwiliad craffu i’r drefn
gynllunio ac y byddai’r mater hwn yn derbyn sylw yng Nghyfarfod Paratoi’r
pwyllgor ym mis Gorffennaf. ·
Pe
na fyddai’r mater yn cael ei gyfarch gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y gallai’r pwyllgor hwn edrych arno. PENDERFYNWYD nodi’r mater
a gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau adael i’r pwyllgor
hwn wybod os ydynt yn
bwriadu cyfarch y mater hwn ai peidio. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2015 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG Ystyried adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu
ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys
mewnbwn yr adrannau i’r Cynllun
Strategol, trafodaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, llwyddiant y Siarter Iaith, cychwyn y broses o ymgynghori gyda sefydliadau ar yr Hysbysiad
Cydymffurfio ar y Safonau Iaith a llwyddiant y cais am gyllid cyfalaf ar gyfer Canolfan
Iaith Bangor. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
SAFONAU'R GYMRAEG - YMGYNGHORI AR YR HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO PDF 256 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Aelodau – Gwasanaeth Democrataidd (a Iaith) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ac Iaith) yn gofyn
i’r aelodau drafod a chytuno ar ddull o sicrhau
mewnbwn y Pwyllgor Iaith ei hun i’r
ymgynghoriad ar y Safonau Iaith – Hysbysiadau Cydymffurfio. PENDERFYNWYD
galw cyfarfod arbennig o’r pwyllgor
hwn i drafod y mater ar ddyddiad sy’n
gyfleus i’r Aelod Cabinet - Y Gymraeg. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y CYNLLUN IAITH 2014-15 PDF 100 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Aelodau – Gwasanaeth Democrataidd (a Iaith) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ac Iaith) yn gofyn
i’r aelodau dderbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Iaith
2014/15 i’w anfon at Gomisiynydd y Gymraeg erbyn 30 Mehefin, 2015. Dosbarthwyd tabl diwygiedig yn manylu ar
sgiliau ieithyddol staff yr Adran Rheoleiddio. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:- ·
Bod lefel sgiliau ieithyddol y staff yn
galonogol iawn ar y cyfan ond bod rhaid gochel nad yw’r toriadau yn arwain at
ddirywiad yn y ffigurau hyn. ·
Mai’r hyn sy’n peri’r pryder mwyaf o safbwynt
cydymffurfiaeth iaith yw’r cytundebau trydydd parti yn y maes Gwasanaethau Cymdeithasol
ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol derbyn adroddiad ymhellach ymlaen yn y flwyddyn
gan y Grŵp Tasg a sefydlwyd mewn ymateb i ofynion ‘Mwy Na Geiriau’. ·
Bod nifer y
wardeiniaid traffig di-Gymraeg yn yr Uned Trafnidiaeth a Gofal Stryd yn
uchel. Pwysleisiwyd bod angen annog
rheolwyr i ddwyn pwysau ar eu staff i fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael
a’i bod yn bwysig bod staff di-Gymraeg yn cael pob cefnogaeth i gyrraedd y
safon angenrheidiol. Awgrymwyd y gellid
gofyn i’r Tîm Dysgu a Datblygu roi cyflwyniad i’r Pwyllgor Iaith nesaf ar
faterion megis sut maent yn adnabod pobl sydd angen hyfforddiant, faint o
orfodaeth y gellir ei roi arnynt, sut maent yn
datblygu’r staff, ayb. ·
Bod angen mynd yn ôl at yr adrannau i ofyn am
eglurder ar rai o’r ffigurau, gan hefyd edrych y tu ôl i’r data a gyflwynwyd er
mwyn gweld oes yna raglen waith i’r pwyllgor yn codi ohono. PENDERFYNWYD (a) Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol i’w anfon at Gomisiynydd
y Gymraeg erbyn 30 Mehefin, 2015. (b) Gofyn am adroddiad i’r pwyllgor hwn
ymhellach ymlaen yn y flwyddyn gan
y Grŵp Tasg a sefydlwyd mewn ymateb i ofynion ‘Mwy Na Geiriau’. (c) Gofyn i’r Tîm
Dysgu a Datblygu roi cyflwyniad i’r cyfarfod nesaf
ar y broses o ddatblygu
staff di-Gymraeg. |
|
GWAITH YMCHWIL TRYWYDD I DDEFNYDD ANFFURFIOL O'R GYMRAEG YN YSGOLION UWCHRADD Y SIR PDF 326 KB (a) Cyflwyno Crynodeb Gweithredol Trywydd (ynghlwm). (b) Derbyn cyflwyniad ar ganfyddiadau’r
gwaith ymchwil. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd Crynodeb Gweithredol Trywydd a rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ac Iaith) gyflwyniad ar ganfyddiadau’r
gwaith ymchwil. Ymhelaethodd ar ofynion y briff,
maint y sampl / y fethodoleg a’r prif ddarganfyddiadau, gan fanylu ar
y meysydd unigol fesul themâu ac argymhellion, sef:- ·
Diffinio natur ieithyddol yr ysgolion ·
Y modd y mae ysgolion yn hyrwyddo a hwyluso’r
defnydd o’r Gymraeg ·
Defnydd iaith a’r cwricwlwm ·
Defnydd iaith disgyblion y tu hwnt i’r
dosbarth ·
Y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddefnydd iaith
y disgyblion ·
Agweddau tuag at y Gymraeg ·
Y Gymraeg tu hwnt i’r ysgol Rhoddodd drosolwg o ganfyddiadau’r ymchwil a’r argymhellion
yn ymateb i’r canfyddiadau hynny gan amlinellu’r
hyn y bydd y Cyngor yn ei
wneud dros y flwyddyn nesaf mewn ymateb i’r
argymhellion o safbwynt:- ·
Y Prosiect Cefnogi Arferion Iaith ·
Prosiect Hunaniaith ·
Cynllun Strategol 2015/16 Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:- ·
Bod y gwaith da sy’n cael ei wneud yn yr
ysgolion cynradd yn diflannu wrth i’r plant symud i fyny i’r uwchradd, hyd yn oed
yng nghadarnleoedd y Gymraeg. ·
Ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn rhoi
arweiniad yn hyn o beth a byddai’n ddymunol gweld ymateb yr Adran Addysg i
adroddiad Trywydd. ·
Bod angen i blant a phobl ifanc weld bod
dwyieithrwydd yn cynnig gwell cyfleoedd iddynt a bod angen i hynny gael ei yrru
gan y sir a’r Adran Addysg. ·
Na ddylai’r aelodau fodloni eu hunain fod
popeth yn ei le. ·
Yn ddelfrydol, dylai plant fynd i’r
canolfannau iaith cyn dechrau ar eu cyfnod yn yr ysgolion lleol fel nad ydynt
yn cael eu labelu o’r cychwyn fel ‘di-Gymraeg’, ond cydnabyddir nad yw hynny’n bosib’ bob tro gan fod rhaglen y canolfannau yn
rhedeg fesul tymor. ·
Ei bod yn bwysig bod hyfforddwyr chwaraeon ar
ôl ysgol yn defnyddio’r iaith Gymraeg ac y byddai’n fuddiol edrych i mewn i’r
syniad o enwebu Pencampwr Hyfforddwyr Cymraeg o fewn y Cyngor. ·
Y bu’n syniad da comisiynu cwmni o’r tu allan
i’r ardal i gynnal yr arolwg gan fod modd iddynt edrych ar y sefyllfa’n fwy
gwrthrychol. ·
Bod ethos ysgol yn
dibynnu ar y pennaeth a’r uwch dim rheoli, ac os nad ydynt yn gweld gwerth yn
nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg, mae’n mynd i fod yn dalcen caled. ·
Bod rhaid i’r Cyngor weithredu lle mae ganddo
ddylanwad, ac er bod yr Adran Addysg yn ceisio gwthio hyn yn ei flaen, ‘roedd
sicrhau llwyddiant o fewn cyfnod byr yn mynd i fod yn fwy o her yn y sector
uwchradd. Diolchwyd i’r Rheolwr Gwasanaeth
Democrataidd (ac Iaith) am y cyflwyniad. |
|
PENODIADAU PWYLLGOR SAFONAU PDF 205 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn adrodd
ar y drefn o benodi i’r Pwyllgor Safonau yn sgil
y pryder a fynegwyd yn y cyfarfod diwethaf
bod y Cyngor wedi penodi dau aelod
annibynnol di-Gymraeg ar y pwyllgor. Nododd y Swyddog Monitro ymhellach:- ·
Bod lefel yr ymateb a gafwyd i’r hysbyseb yn
isel ac mai 1 yn unig o’r 7 ymgeisydd a gafodd eu
cyfweld oedd yn rhugl yn y Gymraeg. ·
Bod y gwaith yn seiliedig ar y meini prawf a
sefydlwyd gan y Cyngor llawn yn 2012 a bod yr unig arweiniad cenedlaethol sydd
yn bodoli ar y mater mewn drafft ac yn nodi bod rhaid cael 1 aelod Cymraeg ar y
Pwyllgor Safonau. ·
Na ellid mynnu bod y Gymraeg yn hanfodol ar
gyfer y swydd oherwydd natur a thrawsdoriad y
pwyllgor. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:- ·
Y byddai gofyniad Cymraeg yn hanfodol yn
golygu bod yna feini prawf gwahanol ar gyfer yr aelodau etholedig a’r aelodau annibynnol
ar y Pwyllgor Safonau. ·
Nad oedd cydbwysedd presennol y Pwyllgor
Safonau (h.y. 5 aelod di-gymraeg a 4 aelod Cymraeg) yn adlewyrchu cydbwysedd
ieithyddol y sir. ·
Ei bod yn siom bod cyn lleied o siaradwyr
Cymraeg wedi ymgeisio oherwydd bod hynny’n clymu
dwylo’r Panel Penodi a bod angen gwneud mwy o waith i hyrwyddo ymwybyddiaeth
o’r swyddogaeth, e.e. drwy hysbysebu’r cyfle yn y papurau bro. ·
Y gellid hysbysu aelodau’r Cyngor pan fo’r cyfle’n codi fel bod modd iddynt dynnu sylw siaradwyr
Cymraeg o fewn eu wardiau a allai fod â diddordeb
mewn ymgeisio am y swydd. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth a phwysleisio pwysigrwydd gweithio i geisio sicrhau bod aelodaeth y pwyllgor yn adlewyrchu
natur cymunedau’r sir. |
|
Ystyried adroddiad Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd (Gweithle) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd (Gweithle) yn manylu
ar y cwynion iaith diweddaraf i law. Nododd aelod fod y Gymdeithas
Hawliau Perfformio wedi gwrthod siec
a ysgrifennwyd yn Gymraeg ganddo ac awgrymwyd bod yr aelod yn anfon
y manylion llawn i’r swyddogion. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |