skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

          Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

          Nid oedd yr eitem hon wedi’i chynnwys ar y rhaglen, ond cytunodd y Cadeirydd i’w thrafod fel mater brys o dan Adran 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd bod y mater wedi codi ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor, bod y sefyllfa’n newid yn ddyddiol a’i bod yn bwysig cael safbwynt ffurfiol Pwyllgor Iaith y Cyngor ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach.

 

Eglurodd y Cadeirydd y derbyniwyd cais gan y Cynghorydd Siân Gwenllian i’r pwyllgor drafod mater enw Plas Glynllifon a gwahoddwyd yr aelod i ymhelaethu ymhellach.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Siân Gwenllian at adroddiadau diweddar yn y wasg ynglŷn â’r mater, gan nodi:-

 

·         Er bod pawb yn credu bod cwmni MBi Sales, darpar brynwyr Plas Glynllifon, wedi ail-ystyried eu penderfyniad i farchnata’r plasty o dan yr enw Wynnborn, gan i’r enw ddiflannu oddi ar eu gwefan am gyfnod, bod yr enw Wynnborn yn ôl ar y wefan erbyn hyn a bod y plasty yn dal i gael ei farchnata o dan yr enw hwnnw.

·         Iddi gyfarfod gyda chynrychiolydd o ochr weithredol y cwmni oedd wedi pwysleisio mai Wynnborn fyddai’r enw yn ystod y cyfnod marchnata o flwyddyn neu ddwy, ond y perygl oedd y byddai’r enw’n sefydlu’i hun yn ystod y cyfnod hwnnw.

·         Ei bod wedi gwneud cais am gyfarfod pellach gyda chynrychiolydd o ochr marchnata a gwerthiant y cwmni.  ‘Roedd Hywel Williams, AS, yn bwriadu rhoi cynnig ymlaen yn y Senedd ac ‘roedd deiseb wedi cychwyn ar-lein.

·         Bod y sefyllfa sydd ohoni’n tanlinellu’r angen am gynnwys cymal ynglŷn â’r Gymraeg yn Bil yr Amgylcheddol Hanesyddol sy’n cael ei ystyried gan bwyllgor o’r Cynulliad ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Ysgrifennu at gwmni MBi Sales i ddatgan ein safbwynt ynglŷn â’r defnydd o’r enw Wynnborn a gofyn iddynt a fyddent yn fodlon derbyn dirprwyaeth o’r Cyngor yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a’r aelod lleol.

(b)     Paratoi datganiad i’r wasg ynglŷn â’n safbwynt.

(c)     Anfon at y Gweinidog Iaith a’r Comisiynydd Iaith.

(ch)   Cysylltu â Chadeirydd y pwyllgor yn y Cynulliad sy’n trafod Bil yr Amgylcheddol Hanesyddol i bwyso am gynnwys cymal ynglŷn â’r Gymraeg yn y bil, gan gysylltu â Chynghorau Môn a Cheredigion ar y pwynt yma hefyd, a chyflwyno adroddiad i’r pwyllgor nesaf, neu cyn hynny.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 77 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o'r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

(a)       18 Mehefin, 2015 (ynghlwm)

(b)       8 Gorffennaf, 2015 (cyfarfod arbennig) (ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mehefin ac 8 Gorffennaf, 2015 (cyfarfod arbennig) fel rhai cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD YMCHWILIAD IAITH - Y GYMRAEG MEWN CYFARFODYDD pdf eicon PDF 152 KB

(a)   Cyflwyno adroddiad yr Ymchwiliad (ynghlwm).

(b)   Ystyried maes ar gyfer yr ymchwiliad iaith nesaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(a)     Cyflwynwyd – adroddiad yr Ymchwiliad Iaith – Y Gymraeg mewn Cyfarfodydd gan Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Craig ab Iago, a gofynnwyd am ymateb yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg i’r argymhellion.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Grŵp Ymchwiliad am eu gwaith, gan nodi:-

 

·         Ei fod yn croesawu’r adroddiad a bod yna elfennau cadarnhaol iawn ynddo.

·         Bod yr argymhellion yn rhai y byddai’n eu dilyn, yn arbennig rhif 5, sy’n ymwneud â dylanwadu ar, nid yn unig gynghorau eraill, ond cyrff cyhoeddus hefyd, a hyderai y byddai modd gweithredu ar yr holl argymhellion o fewn chwe mis.

·         Bod y gwaith gyda’r cyrff cyhoeddus yn mynd yn ei flaen drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, ac y gobeithid, wrth ddatblygu’r gwaith hwnnw, y byddai’r cyrff cyhoeddus sy’n rhan o’r Bwrdd yn ymrwymo i ddefnyddio’r iaith.

·         Bod y gwaith o gynnal awdit i’r defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y Cyngor ar fin cychwyn a diau y byddai yna adroddiad yn ôl ar hynny.

·         Y byddai’n fodlon cyflwyno’r adroddiad gerbron Cabinet ffurfiol gan y byddai hynny’n atgyfnerthu’r argymhellion.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Cyn ceisio dylanwadu ar gyrff y tu allan i’r sir, bod angen dylanwadu ar gyrff o fewn Gwynedd sy’n dal i weithredu drwy’r Saesneg, megis cynghorau cymuned a chyrff llywodraethol.

·         Mai gwan oedd yr ymateb a gafwyd i’r holiadur gan y cyrff allanol, ond bod yr ymatebion i’r holiadur aelodau a swyddogion yn galonogol iawn.

·         Bod yr ymchwiliad wedi cyflawni gwaith da ac wedi mynd dan groen y materion sydd angen sylw gan gyflwyno argymhellion clir i’r Aelod Cabinet.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion yr ymchwiliad a’u cyflwyno’n ffurfiol i’r Aelod Cabinet.

 

(b)     Ystyriwyd – dau awgrym ar gyfer yr ymchwiliad nesaf, sef:-

 

·         Edrych ar ba mor weladwy yw’r iaith Gymraeg.

·         Edrych ar sut mae’r gyfundrefn gynllunio yn hybu ac yn gwarchod yr iaith Gymraeg.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni:-

 

·         y byddai’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, yn eu cyfarfod nesaf, yn cymryd trosolwg o’r sefyllfa o ran cynllunio a’r iaith Gymraeg, a heb ragdybio, ‘roedd posibilrwydd y gallai hynny arwain at ymchwiliad ganddynt hwy maes o law.

·         Y gellid anfon neges at y Pwyllgor Craffu Cymunedau i ddweud bod y Pwyllgor Iaith yn awyddus i gefnogi unrhyw waith a gyflawnir ganddynt yn y maes.

 

PENDERFYNWYD nodi dymuniad i edrych ar y maes pa mor weladwy yw’r Gymraeg a gweithio ar friff ar gyfer ymchwiliad.  Yn y cyfamser, cynnal trafodaeth gyda’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ynglŷn â beth sy’n digwydd nesaf o ran cynllunio a’r iaith Gymraeg ac awdurdodi’r swyddogion i symud ymlaen gyda’r naill neu’r llall, neu’r ddau, os yw’r capasiti yn caniatáu hynny.

 

 

 

6.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Cyflwyno adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y gwaith sy’n mynd ymlaen yn y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, yr awdit i’r defnydd o’r iaith Gymraeg, sefydlu’r ganolfan iaith newydd ym Mangor, y gwaith sy’n mynd rhagddo o ran y gweithlu dwyieithog, y Siarter Iaith, ymateb cychwynnol i’r Safonau Iaith, cynllunio ieithyddol a phrosiect hyrwyddo’r iaith yn Nolgellau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

7.

DIWEDDARIAD AR SAFONAU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 22 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn nodi y derbyniwyd yr Hysbysiad Cydymffurfio ar y Safonau terfynol ar 30 Medi ac yn amgáu, er gwybodaeth, y safonau y bydd yn ofynnol i gydymffurfio â hwy o fewn 6 mis, ynghyd â chrynodeb o’r pwyntiau gweithredu.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Nad ‘dewis’ iaith ddylai’r diffiniad fod yn y Safonau, ond yn hytrach ‘yr iaith mae rhywun yn arfer ei siarad’ gan ei bod yn amlwg yn syth os ydi rhywun yn siarad Cymraeg ai peidio.

·         Y bydd Cyngor Gwynedd yn mynd ymhellach na gofynion y Safonau oherwydd natur ieithyddol y sir hon.

·         Bod angen gloywi iaith rhai o staff Galw Gwynedd sy’n dueddol o gyfeirio at rifau a misoedd y flwyddyn, ayb, yn Saesneg.

·         Bod y Safonau wedi’u hanelu at gynghorau eraill nad ydynt, yn gyffredinol, yn talu sylw priodol i’r Gymraeg, a dylid ystyried apelio yn erbyn unrhyw Safon sy’n cyfarwyddo’r Cyngor hwn i gasglu gwybodaeth er mwyn profi rhywbeth sy’n amlwg yn barod, gan fod hynny’n wastraff arian i drigolion Gwynedd ac yn tynnu adnoddau oddi wrth y gwaith o hyrwyddo’r iaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chyflwyno diweddariad i’r cyfarfod nesaf fydd hefyd yn cyfeirio at unrhyw apêl fydd wedi’i chyflwyno yn y cyfamser yn erbyn unrhyw Safon a dybir sy’n parhau i fod yn anghymesur neu’n afresymol.

 

8.

YMATEB COMISIYNYDD Y GYMRAEG I'R ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y CYNLLUN IAITH pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn cyflwyno ymateb y Cyngor i’r ymholiadau pellach yn ymateb y Comisiynydd i’r Adroddiad Blynyddol ac yn ceisio ymateb yr aelodau i’r materion canlynol a godir yn sgil yr adroddiad:-

 

·         Trefn adrodd ar gwynion iaith – argymhellid na ddylai cwynion gael eu hadrodd i’r Pwyllgor Iaith nes y bydd unrhyw ymholiadau wedi’u cwblhau ac ymateb wedi ei anfon i’r achwynydd, os yn briodol.

·         Trefn cofnodi sgiliau iaith staff – gofynnid i’r aelodau ystyried i ba raddau y dylai’r Cyngor fod yn cofnodi sgiliau iaith.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Ei bod yn fuddiol i’r aelodau glywed am unrhyw gwynion iaith sydd i law ac awgrymwyd y gellid cyflwyno dau gategori o gwynion i’r Pwyllgor Iaith yn y dyfodol, sef y rhai sydd wedi eu datrys a’r rhai sydd heb eu datrys.

·         Er gwaethaf yr hyn mae’r Safonau’n ei ddweud, rhaid sefydlu trefn o gofnodi sgiliau iaith staff sydd â chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosib’ yn perthyn iddi, ond sydd, ar yr un pryd, yn rhoi darlun synhwyrol i ni o alluoedd ieithyddol y staff,  e.e. ydynt yn medru cynnal sgwrs, ysgrifennu adroddiad, ayb, yn Gymraeg, ac efallai bod angen gofyn hefyd pa mor gefnogol ydynt i’r Gymraeg. 

·         Y gallai’r wybodaeth ynglŷn â sgiliau a’r wybodaeth mwy meddal ynglŷn ag agwedd, ayb, fod o gymorth i dargedu gwaith y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu, yn hytrach na bod y gwasanaeth yn ymatebol fel ar hyn o bryd.

 

Llongyfarchwyd y Swyddog Datblygu Iaith ar ei gwaith trwyadl yng nghyswllt y mater hwn a materion ieithyddol eraill.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Derbyn ymateb Comisiynydd y Gymraeg i adroddiad y Cyngor ac ymateb y Cyngor i’r cais am wybodaeth bellach.

(b)     Y dylid cyflwyno dau gategori o gwynion i’r Pwyllgor Iaith yn y dyfodol, sef y rhai sydd wedi eu datrys gan adrodd hefyd er gwybodaeth ar y rhai y mae’r adran yn parhau i ymchwilio iddynt.

(c)     Y dylid edrych ar sefydlu trefn o gofnodi sgiliau iaith staff sydd â chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosib’ yn perthyn iddi, ond sydd, ar yr un pryd, yn rhoi darlun synhwyrol i ni o sgiliau’r staff.

 

 

9.

ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU - ADDYSG GYMRAEG pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno adroddiad terfynol yr ymchwiliad  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu – Addysg Gymraeg gan Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Alwyn Gruffydd.  Nododd:-

 

·         Yr ymchwiliwyd i weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod yn ysgolion y Sir a diolchodd i’w gyd-aelodau ar y grŵp, ynghyd a’r swyddogion, fu’n gweithio’n ddyfal dros gyfnod o 6-7 mis.

·         Y cyflwynwyd adroddiad drafft yr ymchwiliad i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau ar 22 Medi ac y penderfynodd y pwyllgor dderbyn cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg, gan ofyn iddo gyflwyno adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg ymateb yr adran i’r adroddiad gan nodi:-

 

·         Bod yr adran yn croesawu’r gwaith ac yn canmol ac yn cydnabod y gwaith aruthrol a gwblhawyd yn y maes hwn sy’n greiddiol i holl waith y gwasanaeth.

·         Bod yr Aelod Cabinet Addysg wedi derbyn yr argymhellion a’r cam nesaf fyddai trafodaeth rhwng yr adran a’r Aelod Cabinet o ran ymarferoldeb gweithredu’r argymhellion.

·         Bod y pwyllgor craffu wedi dod i lawer o’r un casgliadau â chwmni Trywydd, a gomisiynwyd i gyflawni gwaith yn y sector uwchradd.

 

Wrth drafod casgliadau’r ymchwiliad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y sefyllfa ieithyddol yn ardal Bangor yn benodol ac effaith bositif y Siarter Iaith ar agwedd plant yr ardal tuag at y Gymraeg.

·         Nodwyd bod plant yn gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg.  Mewn ymateb, nodwyd bod y sylw hwn wedi’i wneud yn y Pwyllgor Craffu hefyd a chadarnhawyd bod y Gwasanaeth Addysg yn ymchwilio i’r mater.

·         Diolchwyd i aelodau’r ymchwiliad a’r swyddogion am eu gwaith trwyadl oedd wedi arwain at gyfres o argymhellion clir a phell gyrhaeddol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

10.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar y cwynion iaith diweddaraf i law.

 

Gan gyfeirio at y gŵyn am ddiffyg darpariaeth Gymraeg ar wefan y bydd ysgolion yn cael eu cyfeirio ati gan y Llywodraeth i gael gwybodaeth a chyngor arbenigol yn ymwneud â gweithgareddau awyr agored (gwefan OEAP), nododd y Swyddog Datblygu Iaith ymhellach:-

 

·         Bod ymateb uniaith Saesneg yr Adran Addysg a Sgiliau’r Llywodraeth i’r gŵyn yn egluro nad oedd y Llywodraeth o’r farn bod cyfrifoldeb arnynt i dalu am gyfieithu’r adnoddau gan mai gwefan allanol ydoedd.

·         Y bwriedid anfon cŵyn at y Comisiynydd Iaith ynglŷn â’r ymateb uniaith Saesneg a dderbyniwyd i’r gŵyn.

 

Mynegodd aelod bryder nad oedd cyfieithydd yn bresennol mewn apêl cynllunio ym Mhorthmadog ar 13 Hydref yn erbyn penderfyniad y Cyngor i wrthod cais i godi tyrbin gwynt yn Llanaelhaearn.  Cytunodd y swyddogion i wneud ymholiadau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.