Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Dr Gwyn Lewis |
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. Cofnod: Argymhellwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19
yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. Cofnod: Argymhellwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2018/19 yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. R. Medwyn Hughes, Mike
Stevens, Anest Gray Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru),
Alwen Watkin, Cathryn Davey, Miriam Amlyn a Heledd Jones (Undebau Athrawon) (a)
Adrododd y Swyddog
Cefnogi Aelodau nad oedd cworwm yn y cyfarfod oherwydd absenoldeb aelodau o'r
sector addysg. Trafodwyd a ddylai CYSAG fwrw ymlaen heb gworwm, ac yn unol ag
arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr cytunwyd i fwrw ymlaen ond gan nodi na fyddai
gan y cyfarfod rym i wneud penderfyniadau, a hynny’n unol â Chyfansoddiad y
CYSAG. (b) Awgrymwyd y dylid
anfon e-bost i holl Aelodau CYSAG yn esbonio yr hyn a ddigwyddodd o ran diffyg
cworwm i’r cyfarfod ac apelio ar Aelodau i’r dyfodol i gysylltu â’r Swyddog
Cefnogi Aelodau mewn da bryd os nad ydynt yn gallu bod yn bresennol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd
gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017. Penderfynwyd: Gohirio
cymeradwyo’r cofnodion tan y cyfarfod nesaf yn wyneb y ffaith nad oedd cwrowm yn y cyfarofd. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION PDF 361 KB Eitem 8 (b) – Cwrs
TGAU Astudiaeth Grefyddol Newydd I dderbyn, er
gwybodaeth: (a)
Copi o lythyr dyddiedig 21 Tachwedd 2017 anfonwyd at y Gweinidog dros Addysg, Llywodraeth Cymru (b)
Copi o ymateb dyddiedig 6 Rhagfyr 2017 oddi wrth y Gweinidog dros Addysg. (Copiau’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd copi o
lythyr dyddiedig 21 Tachwedd 2017 anfonwyd at y Gweinidog dros Addysg,
Llywodraeth Cymru, ynghyd a’i hymateb dyddiedig 6 Rhagfyr 2017 ynglyn â diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer y cwrs TGAU
Astudiaethau Crefyddol newydd. ‘Roedd cyfeiriad
yn y llythyr o gyfarfod pellach ac awgrymwyd y dylid derbyn adborth o ganlyniad
cyfarfod y Gweinidog dros Addysg gyda Phrif Weithredwr CBAC. Deallwyd nad oedd
copi Cymraeg byth ar gael. Argymhellwyd: I
nodi’r uchod a gofyn i’r Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG ymchwilio i ddiweddariad o’r sefyllfa gan
adrodd yn ôl i gyfarfod
nesaf CYSAG. |
|
CEFNOGAETH CYSAG I ystyried hysbysiad gan GwE i dynnu’n ôl gwasanaeth o gefnogaeth a ddarparir i CYSAG Gwynedd gan yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant o hyn ymlaen. Cofnod: Adroddwyd bod GwE
wedi anfon hysbysiad i dynnu’n ôl gwasanaeth o gefnogaeth a ddarperir i CYSAG
Gwynedd gan Miss Bethan James, Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant, o hyn
ymlaen. Esboniodd y
Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol y cefndir gan nodi mai cyn Gwmni CYNNAL
oedd yn darparu’r Gwasanaeth ac ar sefydliad GwE bu iddynt etifeddu’r gwaith.
Deallir nad yw darparu cefnogaeth i CYSAGau o fewn y
model cenedlaethol. Ychwanegwyd mai Miss
Bethan James oedd yn darparu adroddiad blynyddol i CYSAG a hefyd yn mynychu
cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru. Golygai hyn oddeutu 12 – 15 diwrnod o waith
mewn blwyddyn iddi. Amlygwyd pryder
ymysg yr Aelodau o golli cyfraniad amhrisiadwy yr Ymgynghorydd Cefnogi
Gwelliant ac roedd ei harweiniad yn greiddiol i drafodaethau CYSAG a heb ei
chyfraniad gall CYSAG fod yn bwyllgor di-gyfeiriad, ac y dylid pwyso am rhyw
ffordd i gael y gefnogaeth yn ôl boed hyn yn seiliedig ar ffurf comisiwn ond yn
fwy penodol i ddarparu’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2017/18. Awgrymwyd y
dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pennaeth Addysg i gyfleu pryder y CYSAG ac i
erfyn arno i ymchwilio i ffurf o fedru
derbyn cefnogaeth Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE neu brynu arbenigedd ym maes addysg grefyddol
ar gyfer darparu arweiniad yn y maes i CYSAG. Argymhellwyd: Gofyn
i’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pennaeth Addysg i gyfleu pryder CYSAG fel amlinellir uchod ac i erfyn
arno ymchwilio i ffurf o gael cefnogaeth i CYSAG. |
|
(a) I dderbyn diweddariad ynghylch cais gan Ddyneiddiwr i wasanaethu fel aelod gyda phleidlais ar CYSAG Gwynedd. (Copi’n amgaeedig) Er gwybodaeth, gweler y ddolen isod ar gyfer cylchlythyr rhif 10/94 a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa Gymreig yn 1994: http://www.wasacre.org.uk/publications/wag/W-cylchlythyr10-94.pdf (b) I dderbyn ymddiswyddiad oddi wrth Mr Gwyn Rhydderch fel aelod cyfetholedig o CYSAG. (c) I dderbyn enwebiadau ar gyfer Aelodau cyfetholedig i wasanaethu ar CYSAG. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Derbyniwyd cais gan Ddyneiddiwr i wasanaethu
fel aelod gyda phleidlais ar CYSAG Gwynedd. (b) Esboniodd yr Uwch
Gyfreithiwr bod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i greu CYSAGau ac mai
cyfrifoldeb Cabinet yr Awdurdodau ydoedd y cyfansoddiad. Wrth gwrs, gall y
CYSAG gyfethol Aelodau. Cyfeiriwyd at
gylchlythyr 10/94 (a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa Gymreig ym 1994) a oedd yn
nodi y byddai “cynnwys cynrychiolwyr systemau cred nad ydynt yn gyfystyr â
chrefydd neu enwad crefyddol, ar Grwp A CYSAG, yn groes i’r darpariaethau
cyfreithiol y cyfeirir atynt ym mharagraff 102 o’r cylchlythyr”. Nodwyd nad oedd adolygiad o’r aelodaeth /
cyfansoddiad wedi digwydd ers 1996 ac felly gofynnwyd a oedd angen cynnal
adolygiad yn sgil cwestiynau a godwyd ynglyn â ddylai personau â chredoau
anghrefyddol (fel Dyneiddwyr) gael caniatad i fod yn aelodau llawn o Grwp A yn
seiliedig ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Awgrymwyd mai’r cam naturiol fyddai
cyflwyno adroddiad i’r Cabinet yn amlinellu ystadegau o’r sefyllfa gan ofyn iddynt
ystyried adolygu’r Aelodaeth ynghyd â’r cyfansoddiad. (c)
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffigyrau canlynol o
ystadegau Gwynedd yn deillio o gyfrifiad 2011:
Cristnogaeth 59.5% Bwdhaeth 0.3% Hindwaeth 0.2% Iddewiaeth 0.0% Islam 1.1% Siciaeth 0.0% Crefydd arall 0.5% Dim crefydd 29.7% Heb nodi crefydd 8.6% Argymellwyd: Gofyn i’r Uwch Gyfreithiwr / Adran Addysg
gyflwyno adroddiad i’r Cabinet gyda chais iddynt adolygu’r aelodaeth /
cyfansoddiad. (d) Adroddwyd bod Mr Gwyn Rhydderch, a oedd yn aelod
cyfetholedig, yn rhinwedd ei swydd yng Ngholeg Y Bala, wedi ymddiswyddo o
CYSAG. Deallwyd bod Nia Williams,
Swyddog Adnoddau Addysg ar gyfer Plant a Ieuenctid yr Eglwys Bresbyteraidd, yn
awyddus i wasanaethu ar CYSAG fel aelod cyfetholedig. Awgrymwyd
ymhellach y byddai’n fuddiol gwahodd personau ifanc o Gynghorau Ysgolion i fod
yn Aelodau cyfetholedig. Efallai y
gellir trefnu yn y lle cyntaf bod y disgyblion yn cael eu gwahodd o ysgolion yr
athrawon sy’n cynrychioli’r Undebau ac yn gwasanaethu ar CYSAG fel bo modd
iddynt gyd-deithio, ac yna ymhen amser gellir sefydlu trefniadau fel bo
cynrychiolwyr yn amrywio o ardal i ardal.
Argymhellwyd: Bod
y Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol yn: ·
Cysylltu â Nia
Williams, Swyddog Adnoddau Addysg ar gyfer Plant a Ieuenctid yr Eglwys
Bresbyteraidd, i ganfod ei bwriad I fod yn aelod cyfetholedig o CYSAG ·
Cysylltu gyda’r
athrawon sy’n cynrychioli yr Undebau ar CYSAG i ganfod a fyddai diddordeb gan
ddisgybl o’u hysgolion gael ei g/chyfethol i wasanaethu ar CYSAG ·
Cysylltu gyda
Parchedig Aled Davies i ganfod a oedd yn dymuno parhau fel aelod cyfetholedig |
|
GOBLYGIADAU FFRAMWAITH NEWYDD ESTYN I DREFNIADAU MONITRO CYSAG PDF 989 KB I dderbyn adroddiad ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn amlinellu engreifftiau o’r hyn y gall
CYSAG fonitro yn sgil newidiadau i fframwaith arolygu ESTYN sy’n seiliedig ar
bump maes sef 1.
Safonau 2.
Lles ac agweddau dysgu 3.
Addysgu a phrofiadau dysgu 4.
Gofal, cymorth ac arweiniad 5.
Arweinyddiaeth a rheolaeth Argymhellwyd: I
nodi’r uchod. |
|
HUNAN ARFARNU YSGOLION PDF 268 KB (a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflenni monitro adroddiadau Hunan
Arfarniadau ysgolion ar gyfer: ·
Cyfnod Hydref 2017 i Gwanwyn
2018 ·
Cyfnod Gwanwyn 2018 i Haf 2018 (Copiau’n amgaeedig) (b) I dderbyn cyflwyniad gan Suzanne Roberts, Adran Addysg Grefyddol Ysgol Y Moelwyn. (Copi hunan-arfarniad yn amgaeedig) (c) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol: (i)
Ysgol
y Moelwyn (ii)
Ysgol
Friars (iii)
Ysgol
Baladeulyn (iv)
Ysgol
Cwm y Glo (v)
Ysgol
Sarn Bach (vi)
Ysgol
Nebo (vii)
Ysgol
y Gelli (viii) Ysgol O M Edwards (ix)
Ysgol
Abererch (Copïau’n
amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd hunan arfarniadau ysgolion dros
ddau dymor sef Hydref 2017 i Gwanwyn 2018 sef: Ysgol y Moelwyn Ysgol Friars Ysgol Baladeulyn Ysgol Cwm Y Glo Ysgol Sarn Bach Ysgol Nebo Ysgol y Gelli Ysgol O M Edwards Ysgol Abererch Tynnwyd sylw penodol at hunan arfarniad Ysgol
Abererch a oedd yn arbennig o dda. (b) Croesawyd Suzanne Roberts o Ysgol y Moelwyn
i’r cyfarfod a bu iddi dywys yr Aelodau drwy hunan arfarniad yr Ysgol gan nodi
bod y cynllun datblygu adrannl yn plethu i fewn i’r hunan arfarniad ynghyd â
blaenoriaethau’r Ysgol. Tynnwyd sylw at
y 5 cwestiwn a’r dystiolaeth a gasglwyd fel ymateb megis fforwm disgyblion, craffu
ar waith ysgrifenedig ac ymarferol ac arsylwi gwersi. Nodwyd bod yr hunan arfarniad yn seiliedig
ar adnabyddiaeth y pennaeth pwnc ar staff a disgyblion yr Adran. Mewn ymateb i gwestiynau amlygwyd y canlynol: ·
O ran cyswllt hefo corff llywodraethwyr, bod llywodraethwyr yn cael
trafodaeth gyda’r Adran ar yr hyn a wneir i gael gwell dealltwriaeth sy’n
cynnwys edrych ar gynlluniau gwaith, arsylwi llyfrau a thasgau. ·
O safbwynt adroddiad Yr Athro Donaldson, teimlwyd bod Addysg Grefyddol
yn ffitio fewn i rai elfennau ond bod angen mwy o hyfforddiant ac amser i’w
gynllunio. Argymhellwyd: (a)
Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn
unol â’r drefn, i’r Swyddog Adnoddau Addysg, anfon llythyr at yr ysgolion uchod
yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr ysgolion i gyrraedd
y graddau. (b) I nodi a diolch i Suzanne Roberts am
fynychu’r cyfarfod a’r cyflwyniad. |
|
Diweddariad ar Addysg Grefyddol a Maes Dysgu a
Phrofiad y Dyniaethau sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r
Cwricwlwm Newydd i Gymru (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd ddiweddariad ar Addysg Grefyddol a
Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau sydd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r
Cwricwlwm Newydd i Gymru. Cyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod
sylwadau NASUWT i’r cynigion gan nodi y dylai Addysg Grefyddol, Hanes,
Daeryddiaeth a Busnes dderbyn sylw hafal yn nhermau amser ac adnoddau megis
nifer o wersi, athrawon ag arbenigedd, a.y.b.
Rhaid sicrhau bod gofynion cymhwysterol Addysg Grefyddol yn derbyn
blaenoriaeth gan ddarparu ar gyfer egwyddorion Donaldson islawr yn yr ysgolion
uwchradd. Awgrymwyd yr egwyddorion i’w
cyrraedd fel a ganlyn: ·
Ymdrechu
i gael ysgolion i benodi athro /athrawes pwnc Addysg Grefyddol ·
Sicrhau
bod Addysg Grefyddol yn bwnc Cyfnod Allweddol 3 ac ddim yn atodiad mewn pynciau
eraill ·
Sicrhau
bod Addysg Grefyddol yn deryn yr un adnoddau ac amser â’r pynciau dyniaethau
eraill ·
Sicrhau
bod gofynion cymhwysterol (TGAU ac ati) yn derbyn blaenoriaeth ar ofynion
Donaldson Argymhellwyd: Gofyn i’r
Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol anfon llythyr i Manon Jones, Is-Adran y Cwricwlwm, Asesu ac Addysgeg,
LLywodraeth Cymru, i gyfleu’r sylwadau uchod, ac i’w cymeradwyo yng nghyfarfod
nesaf CYSAG. |
|
ADDOLI AR Y CYD - ADBORTH GAN AELODAU I dderbyn adborth gan Aelodau yn dilyn mynychu gwasanaethau Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Cofnod: Cyflwynwyd ffurflen
adborth y Cynghorydd Mike
Stevens yn dilyn iddo fynychu addoliad
ar y cyd mewn Ysgol yn ei
ward. Adroddodd y Cynghorydd
Dewi Roberts fod yntau wedi mynychu dwy
Ysgol gyda’r addoliad a r y
cyd yn wahanol
iawn yn y ddwy Ysgol. Roedd angen ail-ymweld ag un Ysgol arall. Argymhellwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG GWYNEDD 2016/17 PDF 658 KB I dderbyn, er gwybodaeth, copi terfynol o adroddiad blynyddol CYSAG Gwynedd am y flwyddyn 2016/17. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol terfynol
CYSAG Gwynedd am y flwyddyn academaidd 2016-17, er gwybodaeth i Aelodau, gan eu
bod wedi mabwysiadu’r adroddiad yng nghyfarfod diwethaf CYSAG. Byddir yn anfon copi i Cymdeithas CYSAGau Cymru. Argymhellwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU PDF 374 KB (a) I dderbyn cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Gymru gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018. (Copi’n amgaeedig) (b) I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 6 Gorffennaf 2018 yn Oriel Môn, Llangefni. (c) I ystyried cyfansoddiad drafft Cymdeithas CYSAGau Cymru. (Copi’n amgaeedig) (ch) I ystyried enwebiad ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cofnodion
cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018. (b) I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 6 Gorffennaf
2018 yn Oriel Môn, Llangefni, ac anogwyd Aelodau i fynychu, pe
gallent. (a)
Cyflwynwyd cyfansoddiad
draff Cymdeithas CYSAGau Cymru. (ch) Cyflwynwyd un enwebiad
ar gyfer sedd ar Bwyllgor
Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. Argymhellwyd: I nodi’r
holl faterion uchod. |
|
RHEOLI'R HAWL I DYNNU'N ÔL O ADDYSG GREFYDDOL I dderbyn, er
gwybodaeth, copi o’r ddogfen uchod
a gyhoeddwyd yn ddiweddar. (Copi i’w
ddosbarthu yn y cyfarfod) Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gopi o’r ddogfen uchod
a gyhoeddwyd yn ddiweddar. |
|
ADRODDIAD ESTYN AR ADDYSG GREFYDDOL PDF 1 MB I ystyried yr adroddiad uchod. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
thematig a gyhoeddwyd gan ESTYN ar 12 Mehefin 2018 a thynnwyd i sylw’r argymhellion. Adroddwyd y byddir
yn anfon e-bost i holl
ysgolion Gwynedd i dynnu eu
sylw i’r adroddiad. Argymhellwyd: I dderbyn
a nodi’r uchod. |