Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Mr Rheinallt Thomas.    

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am y flwyddyn  2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Gweno Glyn yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn

am y flwyddyn 2015/16.

 

4.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitema sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

7.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnod:

(a)  Croesawyd Mai Bere i’w chyfarfod cyntaf o CYSAG Gwynedd yn y rôl o Glerc CYSAG fel olynydd i Mr John Blake sydd bellach wedi ymddeol.  Gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau anfon gair o ddiolch i Mr Blake am ei wasanaeth a chefnogaeth i CYSAG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac i ddymuno’n dda iddo.

 

(b)  Cyfeiriwyd at benderfyniad Mr Wyn Myles Meredith i ymddeol o wasanaethu ar CYSAG a deallir ei fod yn trefnu i gynrychiolydd arall wasanaethu yn ei le ar ran Yr Eglwys Fethodistaidd. 

 

Bu Mr Meredith yn aelod ffyddlon o GYSAG ers ei ymddeoliad fel Aelod o Gyngor Gwynedd yn 2008  ac yr unig un sydd wedi cynrychioli CYSAG Gwynedd ar Gymdeithas CYSAGau Cymru gan fynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd.

 

Gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau anfon llythyr i Mr Meredith yn diolch iddo am ei ymroddiad a’i gefnogaeth i CYSAG ar hyd y blynyddoedd ac i ddymuno pob dymuniadau gorau iddo i’r dyfodol.

 

(c)  Cyfeiriwyd at benderfyniad Mr Noel Dyer i ymddeol yn gynnar o’i swydd yn Ysgol Glan y Môr ac felly yn yr un modd yn ymddeol fel aelod o CYSAG Gwynedd.  Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Mr Dyer am ei wasanaeth clodwiw a’i gyfraniad gwerthfawr i waith CYSAG ar hyd y blynyddoedd ac yr un pryd yn dymuno ymddeoliad hapus iddo.  Hyderir y gall efallai barhau i gyfrannu at waith CYSAG mewn rôl arall yn ystod ei ymddeoliad.

 

(ch)  Nodwyd hefyd bod Mrs Miriam Amlyn i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth ac estynnwyd pob dymuniad da iddi.

 

 

Penderfynwyd:                      Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau a Chraffu anfon llythyrau, ar ran CYSAG, i ddiolch ac i ddymuno’n dda i’r rhai a nodwyd uchod. 

 

8.

COFNODION pdf eicon PDF 255 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2015.  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Chwefror  2015 fel rhai cywir.

 

Eitem 6 – Hunan Arfarniadau Ysgolion

 

Yn deillio o’r cofnodion diwethaf, tynnwyd sylw at benderfyniad i gynnal cyfarfod o CYSAG mewn ysgol ond ni fu’n bosibl i wneud trefniadau ar gyfer y cyfarfod y tro hwn.  Ceisir trefnu eto ar gyfer y cyfarfod nesaf i’w gynnal ym mis Tachwedd.

 

9.

ADRODDIAD GAN YMGYNGHORYDD HER GWE

I dderbyn adroddiad / cyflwyniad gan Miss Bethan James ar y canlynol:

 

(a)          Addoli ar y Cyd

(b)          Datblygu Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3

(c)          Diweddariad ar ymgynghoriad Yr Athro Donaldson ar Gwricwlwm i Gymru

Cofnod:

(a)  Addoli ar y Cyd

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her bod ymdrech wedi ei wneud i adnabod ffordd i ymgymryd â monitro safonau addoli ar y cyd.  Atgoffwyd y pwyllgor bod holiadur wedi cael ei ddosbarthu oddeutu blwyddyn yn ôl er mwyn adnabod ffyrdd i ymgymryd â chyfrifoldebau unigol dros fonitro safonau Addysg Grefyddol neu addoli ar y cyd gyda’r ymatebion hynny yn llywio’r gwaith a’r bwriad bellach ydoedd rhoi trefniadau mewn lle i fonitro. Cyfeiriwyd at arweiniad ESTYN i’w harolygwyr ar yr hyn i’w fonitro wrth iddynt arolygu addoli ar y cyd.  Cyfeiria’r arweiniad at y gofynion cyfreithiol sef bod addoli ar y cyd yn digwydd yn ddyddiol ar unrhyw bryd yn ystod y dydd a bod hawl gan rieni i dynnu eu plant o’r addoliad.  Tra’n derbyn nad oedd Aelodau CYSAG yn hoff o arolygu addoli ar y cyd gwnaed awgrym iddynt ymweld ag ysgolion i gael blas ar addoli ar y cyd.  Cyfeiriwyd ymhellach at arweiniad gan Gymdeithas CYSAGau Cymru yn nodi pam bod addoli ar y cyd yn fuddiol  i blant a’i fod yn hybu datblygiad ysbrydol disgyblion ac yn cyfrannu at ddatblygiad personol ac yn fuddiol i gael ymdeimlad bod ysgolion yn gymuned ac yn cysylltu’r ysgolion â’r gymuned leol.  Hefyd, fe graffir ar adroddiadau ysgolion ac yn gofyn a ydynt yn diwallu gofynion statudol.

 

Cyflwynwyd ffurflen i Aelodau yn ystod y cyfarfod i helpu cofnodi wrth iddynt fynychu sesiynau addoli ar y cyd ac fe’i tywyswyd drwy gynnwys y ffurflen.

 

Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(a)  Bod angen bod yn wyliadwrus o ran cadw at yr hyn sy’n statudol o safbwynt Addysg Grefyddol oherwydd mewn rhai ysgolion erbyn hyn bod gofynion eraill ar athrawon yn ystod cyfnodau cofrestru megis cyflwyno llythrennedd, darllen, a’i fod yn anoddach cynnal gwasanaeth dosbarth oherwydd hyn.

 

(b)  Bod rhai llywodraethwyr yn cael ei dynodi yn bencampwyr i roi rhagolwg ar Addysg Grefyddol  a/ neu bynciau eraill ac a fyddai modd defnyddio’r llywodraethwyr hyn i’r eithaf ar gyfer monitro rhag dyblygu’r gwaith. 

 

Mewn ymateb, nodwyd bod gan CYSAG rôl statudol i fonitro drwy samplo ac arsylwi bod yr hyn mae ysgolion yn nodi yn yr hunan arfarniadau yn cyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol.

(c)  Croesawyd y ffurflen gan ychwanegu y byddai’n ddefnyddiol ac o gymorth i’r ysgolion a llywodraethwyr hefyd.

(d)  Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â rhwystredigaeth mewn addoli ar y cyd lle ceir nifer o wahanol grefyddau, ni ragwelir y byddai hyn yn broblem gan fod rhieni yn eithaf hapus i’w plant gymryd rhan mewn gwasanaeth / gweithgareddau ysgol a bod hwythau fel rhieni yn cymryd cyfrifoldeb dros y ffydd.

(e)  Bod Aelodau CYSAG Ynys Môn eisoes yn ymweld ag ysgolion i fonitro addoli ar y cyd a’r trefniadau wedi bod yn llwyddiannus gydag ymateb ysgolion yn bositif iawn.

 

Penderfynwyd:                      Derbyn y ffurflen monitro a chymeradwyo i arbrofi’r defnydd ohoni wrth ymweld â’r ysgolion gan bwysleisio bod y broses ar gyfer cefnogi ysgolion ac nid i’w harolygu.

 

 

(b)  Datblygu Llythrennedd a Rhifedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 239 KB

(a)          I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer Gwanwyn 2015 – Haf 2015. 

 

(b)          I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:

 

(i)            Ysgol Coed Mawr

(ii)           Ysgol Bro Plennydd

(iii)          Ysgol Tanygrisiau

(iv)         Ysgol Yr Eifl

(v)          Ysgol Ffridd y Llyn

(vi)         Ysgol Felinheli

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a) Tywysodd Clerc CYSAG yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw bo 5 ysgol gynradd a 2 ysgol uwchradd wedi eu harolygu gan ESTYN yn ystod tymor y Gwanwyn 2015 ynghyd ag Ysgol y Traeth gyda’r adroddiad heb ei chyhoeddi hyd yma. Rhagwelir y bydd 4 ysgol arall yn cael eu harolygu yn ystod y tymor hwn sef Ysgolion Llanaelhaearn, Llanrug, Llanelltyd a Hirael.

 

(b)  O safbwynt CYSAG, er mai anfoddhaol nodwyd gan ESTYN o safbwynt Ysgol Gynradd Dolgellau, tynnwyd sylw y cyfeiria hyn at drefniadau’r ysgol ar gyfer diogelu disgyblion. 

 

(c)   O safbwynt yr adroddiad blynyddol, tynnir sylw at gasgliadau a godir yn nhermau darpariaeth ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol.

 

(ch)   Nodwyd mai anaml mae adroddiadau yn eu cyfanrwydd yn cyfeirio at addysg grefyddol.  Cyfeiria adroddiad Ysgol Dyffryn Nantlle bod y ddarpariaeth ar gyfer CA4 yn anfoddhaol o ran amserlen ac felly awgrymwyd fel Aelodau CYSAG y byddai’n fuddiol i wahodd yr ysgol i rannu eu hadborth.  Mewn ymateb, awgrymwyd ymhellach y byddai adroddiad ysgrifenedig yn dderbyniol yn hytrach na thynnu'r athro / athrawes allan o’r ysgol.   

 

 

(d)  Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Coed Mawr, Bro Plennydd, Tanygrisiau, Yr Eifl, Ffridd y Llyn a Felinheli, gan gyfeirio at y tri chwestiwn allweddol sef:

 

1.    Pa mor dda yw’r deilliannau mewn Addysg Grefyddol?

2.    Pa mor dda yw’r ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol?

3.    Pa mor dda yw’r ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd?

 

Cytunwyd bod yr hunan arfarniadau yn cyfartalu â’r hyn a nodir yn arolygiadau ESTYN.

 

Nododd Ymgynghorydd Her GwE bwysigrwydd i gyfeirio at addysg grefyddol yn yr hunan arfarniadau er mwyn i CYSAG gael blas o’r hyn maent yn wneud ynghyd â’r defnydd o eirfa briodol.  

 

PENDERFYNWYD:     Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol â’r drefn, i’r Swyddog Addysg Cynorthwyol, anfon llythyr at yr ysgolion uchod yn eu llongyfarch am eu llwyddiant a nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr ysgolion i gyrraedd y graddau.

 

11.

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU pdf eicon PDF 394 KB

(a)          I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015 yn Sir Benfro.

 

(b)          I nodi bod cyfarfod nesaf y Gymdeithas uchod i’w gynnal ar 25 Mehefin 2015 yn Sir Fflint.

Cofnod:

(a)    Cofnodion cyfarfod diwethaf

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015 yn Sir Benfro.

 

Adroddwyd nad oedd mater penodol yn codi o’r cofnodion gan fod Aelodau CYSAG eisoes wedi derbyn cyflwyniadau a gyflwynwyd i Gymdeithas CYSAGau Cymru o dan eitem 7 uchod.  

 

Penderfynwyd:                      (a)        Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion.

 

                                       (b)       Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas

ar  25 Mehefin 2015 yn Sir Fflint.