skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Paul Rowlinson. 

2.

ETHOL CADEIRYDD

Cymeradwyo argymhelliad y cyfarfod blaenorol i ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2018/19.

Cofnod:

Ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cymeradwyo argymhelliad y cyfarfod blaenorol i ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer  2018/19.

Cofnod:

Ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

 

4.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau uchod.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

6.

MATERION BRYS

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys

 

7.

COFNODION pdf eicon PDF 130 KB

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017 a 20 Mehefin 2018 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017 a 20 Mehefin 2018 fel rhai cywir.

 

 

8.

CYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTUN pdf eicon PDF 23 KB

Nodyn o gyfarfod CYSAG, 20 Mehefin 2018         

 

‘Roedd bwriad i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytûn yn dilyn cyfarfod CYSAG i benderfynu i gadw Maes Llafur Cytûn Gwynedd hyd nes derbynnir fwy o wybodaeth gan y Llywodraeth ynglyn â chwricwlwm newydd yn deillio o adroddiad Yr Athro Donaldson.

 

Oherwydd nad oedd cwrowm i’r cyfarfod argymhellwyd i gynnal trafodaeth ar ddechrau cyfarfod nesaf CYSAG sydd i’w gynnal ar 7 Tachwedd 2018.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddodd Miriam Amlyn ar ei siom bod y deunydd yn dal ddim ar gael yn y Gymraeg er ei fod ar gael yn y Saesneg. Nodwyd ei fod yn broblem mewn pynciau eraill hefyd.  Cadarnhawyd bod llythyr eisoes wedi ei ysgrifennu at Kirsty Williams yn nodi y pryder uchod.

 

Amlygwyd pryder ymysg yr Aelodau unwaith eto fod y deunydd yn uniaith Saesneg.  Awgrymwyd y dylai’r Cadeirydd ystyried ysgrifennu llythyr clir a chryf eto, at sylw Yr Aelod Cabinet, Kirsty Williams, Y Comisiynydd Iaith, Siân Gwenllian, Garem Jackson, gyda chopi i Dyfrig Siencyn, Eluned Morgan a Dilwyn Williams.

 

Nodwyd y bydd newidiadau pellach o bosib yn 2020 ac yn wyneb hynny y dylid ystyried cadw at y Fframwaith enghreifftiol ar hyn o bryd.

 

Argymhellwyd:          Gofyn i’r Cadeirydd ysgrifennu at yr uchod i gyfleu pryder CYSAG am y diffyg mewn deunyddiau Cymraeg, gan gadw at y Fframwaith bresennol ar hyn o bryd.

 

9.

CYFANSODDIAD CYSAG pdf eicon PDF 79 KB

Er gwybodaeth gefndirol i’r eitem, gweler y ddolen isod ar gyfer cylchlythyr rhif 10/94 a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa Gymreig yn 1994:

 

http://www.wasacre.org.uk/publications/wag/W-cylchlythyr10-94.pdf

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Derbyniwyd cais gan y Dyneiddwyr i wasanaethu fel aelodau gyda phleidlais ar CYSAG Gwynedd.

 

(b)  Esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr bod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i greu CYSAGau ac mai cyfrifoldeb Cabinet yr Awdurdodau ydoedd y cyfansoddiad, ond wrth gwrs, gall y CYSAG gyfethol Aelodau. Cyfeiriwyd at lythyr dyddiedig 3 Mai 2018 gan Kirsty Williams oedd yn nodi mai barn Llywodraeth Cymru erbyn hyn oedd

 

“er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Hawliau Dynol 1998, dylid dehongli bod y darpariaethau yn ymwneud â chyfansoddiad CYSAG a CMLIC yn Neddf 1996 yn caniatáu penodi personau sy’n cynrychioli’r rhai â chredoau anghrefyddol yn yr un modd ag y maent yn caniatáu penodi personau sy’n cynrychioli’r rhai â chredoau crefyddol …”  Aiff ymlaen i nodi “mae penodiad yn dibynnu ar farn yr Awdurdod Lleol perthnasol ynglŷn ag a fyddai cynrychiolydd o’r fath yn helpu i sicrhau bod y traddodiadau perthnasol yn ardal yr Awdurdod Lleol yn cael eu hadlewyrchu’n briodol yn Grŵp A.”

 

(c)   Nodwyd nad oedd adolygiad o’r aelodaeth / cyfansoddiad wedi digwydd ers 1996.  Cwestiynwyd a yw traddodiadau perthnasol yn yr ardal yn cael eu hadlewyrchu yn briodol yn Grŵp A, a beth yw’r farn am gais y Dyneiddwyr i fod yn rhan o Grŵp A.

 

(ch) Codwyd y pwyntiau canlynol wrth drafod yr uchod:

 

i.              Beth sydd yn digwydd mewn Awdurdodau eraill?

ii.             Yr arweiniad yn y cwrs TGAU yw bod modd gwahodd Dyneiddwyr i ysgolion i siarad

iii.            Onid sustem gred yn hytrach na chrefydd yw Dyneiddiaeth?

iv.           Onid croesawu cymaint o amrywiaeth â phosib yn Grŵp A y dylem, o gofio’r sefyllfa ddiweddar o ddiffyg cworwm yn y cyfarfod blaenorol?

 

Cyfeiriwyd at y sylwadau canlynol hefyd

 

-       Byddai’r Pwyllgor yn manteisio o glywed lleisiau gwahanol grefyddau yn eu trafodaethau sydd yn greiddiol i gwricwlwm y maes dysgu

-       Byddai yn hybu cyswllt rhwng Penaethiaid, Athrawon a Disgyblion o wahanol gredoau yn uniongyrchol wyneb yn wyneb

-       Byddai yn gyfle i greu pontydd a hybu cymdeithas fwy goddefgar o gredoau amrywiol

-       Cadarnhawyd fod Dyneiddiaeth yn cael ei gyflwyno yn rhai o ysgolion Gwynedd

 

Cadarnhawyd bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi penodi Dyneiddwraig ar eu Pwyllgor Gwaith ac oni ddylai CYSAG adlewyrchu yr hyn sydd yn cael ei addysgu?

Rhaid bod yn ofalus rhag gosod blaenoriaeth i rai credoau ac mae angen rheoli ceisiadau o’r fath yn ofalus. 

A oes meini prawf?

Mae cyfle yma i ddysgu a rhannu arbenigedd

 

 

Argymhellwyd:          Y byddai Pwyllgor CYSAG yn ffafriol i geisiadau ar sail tystiolaeth, gyda amod fod credoau anghrefyddol yn cael eu dysgu yn Ysgolion Gwynedd.  Gan gyfeirio at y cais penodol, cadarnhawyd o blaid cynnwys y Dyneiddwyr i Grŵp A.

 

 

Adroddwyd bod trafodaeth wedi codi yn y cyfarfod blaenorol ynglŷn â’r posibilrwydd o wahodd disgybl/disgyblion ysgol i fod yn rhan o’r aelodaeth bresennol er mwyn clywed llais y disgybl. Trafodwyd yr egwyddor er mwyn bod yn gynhwysol ond nodwyd bod materion ymarferol oedd yn golygu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

HUNAN ARFARNIAD YSGOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 52 KB

Adroddiad llafar gan Mr Rhys Glyn, Pennaeth Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth.

Cofnod:

Croesawyd Mr Rhys Glyn (Pennaeth Ysgol Cefn Coch ac Ysgol Penrhyndeudraeth) i’r cyfarfod i drafod y berthynas mae wedi ei datblygu rhwng y cwricwlwm, addysg bersonol ac addysg grefyddol. 

 

Rhannodd enghreifftiau o waith y disgyblion a chadarnhaodd nad yw Addysg Grefyddol yn cael ei ddysgu fel pwnc, ond mae’r ysgol yn datblygu plant yn holistaidd, gydag Addysg Grefyddol yn treiddio yn naturiol. 

 

Derbyniwyd sylwadau positif iawn gan y Pwyllgor a llongyfarchwyd Rhys Glyn ar y gwaith.  Nodwyd bod llawer o faich gwaith i wneud pob dim ar wahân a bod profiadau aml-synhwyrol gyda phlant yn arwain y gwaith.  Nododd bod rôl y llywodraethwyr wedi ei ddatblygu gyda’r llywodraethwyr yn cymryd rhan ym mhob agwedd gan gynnwys craffu’r gwaith unwaith mae portffolio wedi ei gasglu. 

 

Nodwyd, ers Donaldson bod angen datblygu ym mhob maes, ond bod croeso i’r elfen greadigol a llais y plant a phwyslais ar brofiadau.

 

 

11.

TROSOLWG O HUNAN ARFARNIADAU YSGOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Argymhellwyd:          Nodi a derbyn cynnwys yr Adroddiad.

 

12.

SWYDDOG PROFFESIYNOL AG I CYSAG pdf eicon PDF 38 KB

Cofnod:

Nodwyd cynnwys llythyr Libby Jones yn gofyn am gynrychiolydd o Wynedd.  Gofynnwyd i Miriam Amlyn ystyried.

 

Argymhellwyd:          Rhoi cyfle i Miriam Amlyn ystyried y cais.

 

13.

GWEITHDAI'R CYNULLIAD I YSTYRIED ADDYSG GREFYDDOL A'R CWRICWLWM NEWYDD AR GYFER CYMRU pdf eicon PDF 271 KB

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y Cynradd, ar y cyfan yn edrych ymlaen at y cyfnod newydd, ond nodwyr pryder mawr o’r uwchradd.

 

Amlinellwyd yr argymhelliad newydd fel cyfuno Addysg Grefyddol, Hanes, Daearyddiaeth a Busnes i’r maes dyniaethau, gydag un wers i bob pwnc ond nid oedd yn eglur ar hyn o bryd faint o oriau fyddai hyn yn ei olygu.  Cwestiynwyd yn syth sut fyddai CYSAG yn monitro'r dyniaethau? 

 

Os oes bwriad newid erbyn 2020, nodwyd bod llawer iawn o waith paratoi - mae’r ddogfen bresennol yn eang ond yn sôn am gysyniadau a sgiliau sydd yn gofyn am gydweithio rhwng adrannau.  Ar hyn o bryd, nodwyd nad yw yn glir a fydd y cwrs yn plethu neu a fydd y pynciau yn cael eu trin fel pum pwnc ar wahân?  Pryder arall a nodwyd oedd y byddai unigolyn heb arbenigedd yn y pwnc penodol yn rhoi un o’r gwersi o bosib.  Holwyd a fydd statws cyfartal i’r pum pwnc, yn enwedig os oes Pennaeth sydd ddim yn gweld gwerth mewn pwnc arbennig?  Cwestiynwyd hefyd yr oriau fyddai yn cael eu neilltuo ar gyfer pob pwnc. 

 

Cwestiynwyd beth fyddai modd i CYSAG ei wneud gan fod y broses yn mynd rhagddi?  Libby Jones yw’r unig ymgynghorydd Addysg Grefyddol yng Nghymru.

 

Argymhellwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

14.

CYNNIG PRIFYSGOL BANGOR - RE-CONNECT

Cofnod:

Codwyd pryder yn sgil adroddiad diweddar ynglŷn â phrinder athrawon a’r mater o ddysgu dwyieithog yng Ngwynedd.  Nodwyd gwir bryder am yr uno rhwng Prifysgolion Bangor a Chaer.  Awgrymwyd efallai y byddai modd i’r Cadeirydd lythyru gyda’r Brifysgol i holi am y canlynol :

 

i.              Onid oes linc ar goll - mae gwir bryder wedi ei nodi gan CYSAG ynglŷn â’r diffyg ym maes Addysg Grefyddol, a’r cysylltiad gyda Phrifysgol Caer, ac yn ychwanegol y toriad rhwng TGAU a chwrs gradd.  Angen nodi hefyd bod llythyr uniaith Saesneg wedi ei dderbyn gan y Brifysgol.

 

Cwestiynwyd a yw lefel A yn cael ei gynnig mewn Addysg Grefyddol yng Ngwynedd?  Ydy’r Coleg yn cynnig Addysg Grefyddol?  Beth am Goleg Meirion/Dwyfor?

 

Argymhellwyd:          Gofyn i’r Cadeirydd ysgrifennu at y Brifysgol yn unol â’r uchod. 

Gofyn i’r Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol edrych i mewn i’r ddarpariaeth Lefel A Addysg Grefyddol yng Ngwynedd.

 

 

15.

COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL CYSAGAU CYMRU - YNYS MON 6/7/18 - ER GWYBODAETH pdf eicon PDF 231 KB

Cofnod:

Argymhellwyd:          Derbyn a nodi’r cynnwys. 

16.

AMRYWIAETH CREFYDD A CHRED - ER GWYBODAETH pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o’r ddogfen uchod a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

Argymhellwyd:                      Derbyn a nodi’r cynnwys. 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:00 pm a daeth i ben am 4.10 pm