Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301 E-bost: GlyndaOBrien@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Dr W. Gwyn Lewis.                         

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd, Mrs Miriam Amlyn (NAS/UWT), Mr Rheinallt Thomas (Aelod Cyfetholedig).

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 337 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG GWYNEDD 2014-15 pdf eicon PDF 627 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol Drafft er ystyriaeth cyn cyhoeddi copi terfynol.

Cofnod:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Gwynedd am y flwyddyn academaidd 2014-15, er cymeradwyaeth yr aelodau, cyn cyhoeddi’r adroddiad  terfynol.

  

(A)       Eglurodd Miss Bethan James mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol ydoedd crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd gan CYSAG dros y flwyddyn flaenorol a phwysigrwydd bod yr argymhellion o fewn yr adroddiad yn cael eu dwyn i sylw’r awdurdod. Tywyswyd yr Aelodau drwy gynnwys yr adroddiad gan dynnu sylw bod 14 o ysgolion cynradd wedi cyflwyno  adroddiadau hunan arfarniadau yn ystod 2013-14.

 

O safbwynt y tri chwestiwn allweddol yn fframwaith arolygu cyffredin ESTYN ac yn benodol y ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd, nodwyd pwysigrwydd i Aelodau CYSAG ymweld â sesiynau addoli ar y cyd ysgolion er mwyn bodloni eu hunain bod ysgolion yn cydymffurfio a’r gofynion statudol.  Ymddengys bod un Ysgol uwchradd yng nghyffiniau Bangor yn awyddus i aelod o CYSAG Gwynedd ymweld â’r Ysgol honno ac felly byddai’n fuddiol i aelod ymweld pan ddaw'r gwahoddiad.

 

Tynnwyd sylw bod arolygiadau ESTYN yn ffocws i drafodaethau llynedd o safbwynt Ysgol Crud y Werin, Ysgol Dyffryn Nantlle ac Ysgol y Gader.  Derbyniwyd cyflwyniad gan Ysgol Crud y Werin a gwelwyd bod gwelliant yn ansawdd cynlluniau'r Ysgol dan sylw. Efallai y byddai’n amserol i wahodd  Ysgol Dyffryn Nantlle ac Ysgol y Gader i gefnogi CYSAG drwy ddangos y cynnydd a wneir yn y ddwy ysgol.

 

Tynnwyd sylw at arfarniad gwaith CYSAG ac fe welwyd cynnydd boddhaol yn erbyn mwyafrif o’r blaenoriaethau.      

 

Nodwyd bod un o’r argymhellion yn cyfeirio at gynnig gweithdai tymhorol i gydlynwyr pwnc wrth iddynt hunan arfarnu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn eu hysgolion.  Eglurodd Miss Bethan James ei bod wedi cynnal gweithdai o hanner diwrnod yn Ynys Môn i unrhyw Ysgol oedd angen cefnogaeth ac y byddai modd gwneud trefniadau cyffelyb yn Wynedd pe dymunir.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r broses o weithredu a monitro argymhellion CYSAG i’r awdurdod, nodwyd y byddir yn cyflwyno’r argymhellion i’r Pennaeth Addysg. 

 

Esboniodd Miss Bethan James mai cyfrifoldeb CYSAG yw llunio maes llafur CYTÛN addysg grefyddol i ysgolion Gwynedd.  Atgoffwyd yr Aelodau y bu i CYSAG fabwysiadu fframwaith cyffredin fel maes llafur CYTUN Gwynedd 2008  ac yn unol â’r rheolau dylid diwygio’r maes llafar CYTÛN pob 5 mlynedd.  Cymerodd CYSAG Gwynedd benderfyniad i oedi cyn ei adolygu hyd nes y gwyddys beth fyddai’n digwydd i’r cwricwlwm newydd yn deillio o argymhellion yr Athro Donaldson. Hyderir y byddir, drwy Aelodau newydd CYSAG Gwynedd a grŵp o athrawon i gynghori, yn gallu helpu CYSAG i ymateb i egwyddorion adroddiadDyfodol Llwyddiannusyr Athro Donaldson. 

 

Penderfynwyd:          (a)  Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2014/15.

 

                                    (b)   Cymeradwyo’r argymhellion a gynigwyd yn yr adroddiad.  

 

7.

HUNAN ARFARNIADAU YSGOLION pdf eicon PDF 231 KB

(a)          I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer Haf i Hydref 2015.

 

(b)          I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol: 

 

(i)            Ysgol Babanod Morfa Nefyn

(ii)          Ysgol Beddgelert

(iii)         Ysgol Hirael

(iv)         Ysgol Llanaelhaearn

(v)          Ysgol Llanelltyd

(vi)         Ysgol y Traeth

(vii)        Ysgol Dyffryn Nantlle

(viii)      Ysgol y Gader

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 (a) Tywysodd Clerc CYSAG yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw bo 5 ysgol gynradd wedi eu harolygu gan ESTYN yn ystod tymor yr Haf 2015.  Cyfeiriwyd at ddyfyniadau wedi eu cymryd o adroddiadau ESTYN o dan y pennawd gofal, cymorth ac arweiniad dangosydd 2.3 o’r Fframwaith Arolygu Cyffredin.

 

Esboniodd Miss Bethan James ar yr eirfa a ddefnyddir gan ESTYN yn benodol o safbwynt addoli ar y cyd a bod yn rhaid bod yn ofalus ar sut y dehonglir y brawddegau e.e. “llwyddiannussy’n golygu da, “priodolsy’n golygu digonol.  Atgoffwyd yr Aelodau hefyd na ddylid bod yn rhy feirniadol o ysgolion sydd wedi derbyn anfoddhaol / digonol am yr elfen gofal, cymorth ac arweiniad gan ei fod yn bosibl i’r dyfarniad fod yn cyfeirio at elfennau eraill heblaw addoli ar y cyd a datblygiad ysbrydol a moesol.    

 

(b)  Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Morfa Nefyn, Beddgelert, Hirael, Llanaelhaearn, Llanelltyd, Y Traeth, a dwy Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a’r Gader gan gyfeirio at y tri chwestiwn allweddol sef:

 

1.    Pa mor dda yw’r deilliannau mewn Addysg Grefyddol?

2.    Pa mor dda yw’r ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol?

3.    Pa mor dda yw’r ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd?

 

Gwerthfawrogwyd yr hunan arfarniadau gan Aelodau CYSAG a derbyniwyd eglurhad gan Miss Bethan James ynglŷn â’r blwch sy’n nodi safonau medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a meddwl a’i fod wedi ei gynnwys er annog ysgolion i wahaniaethu safonau addysg grefyddol a’r medrau ac i fod yn fwy penodol o’r math o elfennau a gyflwynir yn yr adroddiad.

 

Tynnwyd sylw at elfennau diddorol a wna rhai ysgolion ac y byddir yn croesawu ysgolion i fynychu cyfarfodydd CYSAG i’r dyfodol i rannu arferion da gydag Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:     (a)      Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau. 

 

(b)     Cymeradwyo i Miss Bethan James, Ymgynghorydd Her, wahodd Ysgol i roi cyflwyniad ar unrhyw elfen o’r hunan arfarniad a fyddai o ddiddordeb i CYSAG. 

 

 

 

 

8.

CANLYNIADAU ADDYSG GREFYDDOL 2015 pdf eicon PDF 625 KB

I dderbyn adroddiad gan Ymgynghorydd HerGwE ar yr uchod. 

Cofnod:

Cyflwynwyd a thywyswyd yr Aelodau drwy ganlyniadau Haf 2015 sef asesiadau athrawon Cyfnod Allweddol 3 lle gwelwyd bod 94% wedi cyrraedd lefel 5+.  Rhagwelir y byddai mwy o bwysau i’r dyfodol i gyrraedd lefelau 6 a 7.  Llongyfarchir yr ysgolion lle gwelir bod 25 disgybl yng Ngwynedd yn deilwng o Lefel 8 ac roedd hyn yn glod i’r ysgolion hynny.

 

O safbwynt TGAU, esboniwyd bod pob plentyn yn ymgymryd â chwrs statudol addysg grefyddol ond bod astudiaethau crefyddol yn cyfeirio at y cwrs dewisol.  Rhaid cofio bod rhai ysgolion yn cynnig y cwrs gydag ysgolion eraill yn cydweithio a rhannu adnoddau.  Tynnwyd sylw bod y niferoedd o ymgeiswyr yn cadw’n weddol gyson o ystyried demograffi gyda 371 wedi sefyll yr arholiad a thraean ohonynt yn llwyddo i gael A*.  Esboniwyd ei fod yn anodd cymharu canlyniadau yn genedlaethol oherwydd ni wyddys beth yw’r trefniadau  gan fod rhai disgyblion yn dilyn y cwrs ar ôl Ysgol a rhai yn ei gyflawni ym Mlwyddyn 10, ac amrywiaeth yn yr oriau dysgu sydd ar gael i’r ymgeiswyr.

 

Ar y cyfan, nodwyd bod canlyniadau ar gyfer y cwrs llawn yn dda gyda chanlyniadau’r merched yn rhagori ar ganlyniadau’r bechgyn.  Fodd bynnag, roedd rhai ysgolion yn cynnal diddordeb bechgyn mewn astudiaethau crefyddol oherwydd, mai’n debyg, natur y pynciau cyfoes.   

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglŷn â’r bwlch rhwng merched a bechgyn, nodwyd bod hyn yn her a sialens i ysgolion ond bod cwrs Manyleb B wedi cynyddu o ran poblogrwydd gyda’r bechgyn oherwydd efallai'r elfennau materion cyfoes a.y.b. ac y dylid cyflwyno’r pynciau hyn iddynt ynghynt yn eu gyrfa addysg grefyddol.  Cydnabuwyd bod ymdrech yn cael ei wneud yn yr ysgolion ac yn aml iawn  bod Adrannau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr un disgyblion o ran dewisiadau pynciol.

 

Esboniwyd bod disgyblion yn y gorffennol wedi cael dewis o ddau gwrs sef cwrs traddodiadol (Manyleb A) a chwrs cyfoes yn astudio pynciau llosg o safbwynt gwahanol grefyddau (Manyleb B).  Roedd cwrs Manyleb B wedi cynyddu o ran poblogrwydd ac yn llwyddiannus hyd yn oed gyda bechgyn.   Fodd bynnag, roedd bwriad gan CBAC i gyflwyno cwrs newydd yn 2017 sy’n cyfuno’r cwrs traddodiadol a’r cwrs cyfoes.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am y wybodaeth uchod.

 

9.

CYNLLUNIAU LLYWODRAETH CYMRU O FEWN ADDYSG GREFYDDOL pdf eicon PDF 180 KB

I ystyried llythyr a dderbyniwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch newidiadau i Addysg Grefyddol. 

 

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at lythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynglŷn â newidiadau i addysg grefyddol yn sgil newidiadau i’r cwricwlwm yn deillio o adroddiad yr Athro Graham Donaldson.

           

Tynnwyd sylw at baragraff sy’n nodi gwahoddiad i gonsortia rhanbarthol addysg (sef GwE) i weithio gydag ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig er mwyn iddynt geisio bod yn Ysgolion Arloesol.  Byddai’r ysgolion hyn yn arwain ar ddylunio a datblygu’r cwricwlwm newydd, fel rhan o bartneriaeth drwy Gymru, ynghyd a rhanddeiliad perthnasol.

 

Teimlwyd y byddai hyn yn faich ar yr ysgolion arloesol ac o safbwynt Gwynedd dylai CYSAG gynnal trafodaethau gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau bod y briff ym maes addysg grefyddol yn addas a pherthnasol.   

           

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

10.

CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD 2015-2016

I ystyried cynllun datblygu drafft ar gyfer CYSAG Gwynedd am y flwyddyn 2015-16. 

Cofnod:

Adroddodd Miss Bethan James y bu i CYSAG ddatblygu cynllun gweithredu llynedd yn amlinellu’r hyn roedd CYSAG am gyflawni yn ystod y flwyddyn.  Nid oedd cynllun gweithredu wedi ei ddrafftio ar gyfer 2015-16 hyd yn hyn ond fe drafodwyd a phenderfynwyd ar gynnwys y materion canlynol fel rhan o’r cynllun:

 

(a)  Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau rheolaethol cydlynwyr ac arweinyddion pwnc

(b)  Annog athrawon addysg grefyddol Gwynedd (sector cynradd ac uwchradd) ac Aelodau CYSAG Gwynedd i gyfrannu’n llawn at unrhyw adolygiad o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu

(c)  Sicrhau bod yr ymgynghorydd her yn cynnig gweithdai tymhorol er mwyn cynnig arweiniad i gydlynwyr pwnc wrth iddynt hunan arfarnu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn eu hysgolion

(d)  Sicrhau bod ysgolion yn ymateb i unrhyw ddiffygion sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod yr ymarferion hunan arfarnu a/neu ymweliad arolygu ESTYN

 

Mewn perthynas â (d) uchod, nodwyd bod Ysgolion Dyffryn Nantlle a’r Gader wedi gweithio’n galed yn dilyn arolygiadau diweddar a hyderir y byddent yn barod i groesawu Aelodau CYSAG i’r ysgolion i weld y cynnydd neu yn rhoi cyflwyniad yng nghyfarfod nesaf CYSAG.

 

Yn achos Ysgol y Gader roedd cyfeiriad yn Adolygiad ESTYN nad oedd rhai athrawon wedi cynnal addoliad ar y cyd yn ddyddiol ac awgrymodd yr Ymgynghorydd Her y byddai’n ymweld â’r Ysgol yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo i’r Ymgynghorydd Her i:

 

(a)   lunio cynllun gweithredu am y flwyddyn 2015/16

(b)   drefnu iddi hi, ynghyd a Chadeirydd CYSAG, ymweld ag Ysgolion Dyffryn Nantlle a’r Gader pan yn gyfleus.

 

11.

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU pdf eicon PDF 444 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd fel a ganlyn: 

 

(a)  25 Mehefin 2015 yn Yr Wyddgrug, Sir Fflint

(b)  25 Tachwedd  2015, Glyn Ebwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd y cofnodion Cyfarfodydd diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar: 

 

            25 Mehefin 2015

            25 Tachwedd 2016

 

(b)            Rhoddwyd sylw i lythyr a dderbyniwyd gan Libby Jones, Ysgrifenyddes Cymdeithas CYSAGau Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Tynnwyd sylw mai Mrs Ruth Davies oedd cynrychiolydd CYSAG Gwynedd ar y Pwyllgor Gwaith ond ei bod bellach wedi ymddiswyddo ers mis Tachwedd 2015 ac yn unol â chyfansoddiad Cymdeithas CYSAGau Cymru bod hawl gan Wynedd i enwebu aelod i fynychu’r cyfarfodydd yn ei lle tan y cyfarfod blynyddol sydd i’w gynnal ym Mehefin 2016.

 

            Nodwyd bod cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 8 Mawrth 2016 yn Sir Fynwy. 

           

Awgrymwyd os oes gan unrhyw Aelod ddiddordeb mewn mynychu cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru iddynt gysylltu yn uniongyrchol a Chadeirydd CYSAG Gwynedd a / neu Miss Bethan James, Ymgynghorydd Her GwE.

 

            Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion.

 

(b)    Cymeradwyo i Aelodau gysylltu os oes ganddynt ddiddordeb mewn mynychu Cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ar ran CYSAG Gwynedd.