skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Dr Gwyn Lewis.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. Judith Humphreys, Cynrig Hughes (Yr Annibynwyr), Alwen Watkin, Heledd Jones (Undebau Athrawon)

 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

Cofnod:

Datganodd Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol yn Eitem 8 – Hunan Arfarnu Ysgolion gan ei fod yn gwasanaethu ar Gorff Llywodraethu Ysgol Abersoch.  Roedd o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y Siambr yn ystod

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Cofnod:

(Nid oedd y materion canlynol wedi eu cynnwys ar y rhaglen ond cytunodd y Cadeirydd i’w hystyried dan Adan 100 (4)(b), Deddf Llywodraeth Leol 1972).

 

(a)  Eglurodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn holiadur gan ESTYN i’w gwblhau erbyn 27 Hydref 2017 ond ei fod wedi gofyn am estyniad fel bo modd derbyn barn aelodau CYSAG ar yr ymatebion cyn ei anfon ymlaen yn ddi-oed i ESTYN.

 

Cyflwynwyd copi o’r holiadur i’r Aelodau ac fe gytunwyd ar y diwygiadau canlynol:

(i)            Ychwanegu’r brawddegau isod i’r blychau yn y mannau perthnasol (ac fe waned hyn gan Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE tra yn y cyfarfod):

 

Hawl gan bob cynghorydd i fod yn aelod o Gorff Llywodraethu, ac felly mewn sefyllfa i

drafod addysg grefyddol gydag athrawon a disgyblion eu hysgolion.

 

Mae tystiolaeth storïol yn awgrymu bod yr arlwy ar gyfer disgyblion cynradd yn fwy cyfyng

erbyn hyn, e.e. adalw stori Feiblaidd, yn hytrach na’u bod yn astudio effaith

dysgeidiaethau crefyddol ar fywydau credinwyr neu’n ymgymryd â ‘phrosiect’ neu

ymholiad sy’n seiliedig ar gwestiwn mawr neu sylfaenol.

 

Sicrhau amser digonol i’r pwnc yn her i’r ysgolion cynradd.

 

Prin yw’r cyfleoedd i adrannau AG i gydweithio gydag adrannau eraill ar faterion sy’n

gorgyffwrdd”. 

 

 

(ii)           Diddymu’r frawddeg a oedd yn cyfeirio at absenoldeb staff gan nad oedd yn berthnasol.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo’r holiadur a gofyn i’r Swyddog Addysg Ardal

Cynorthwyol anfon yr holiadur i ESTYN.

 

(b)  Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais gan Ddyneiddiwr i wasanaethu ar CYSAG Gwynedd fel aelod gyda phleidlais.  Yn y cyfamser roedd y Cadeirydd wedi cyfeirio’r cais i Swyddog Monitro'r Cyngor er mwyn sicrhau y byddir yn cydymffurfio â chyfansoddiad CYSAG. 

 

 Adroddodd Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE bod canllawiau i’w dilyn ar gyfer ffurfio CYSAG ac ym Mhwyllgor Addysg ym 1996 cytunwyd i sefydlu grwpiau fel a ganlyn:

 

Grŵp A            -           Cristnogion a Chrefyddau Eraill

Grŵp B            -           Athrawon

Grŵp C            -           Yr Awdurdod Addysg

Grŵp CH         -           Aelodau Cyfetholedig

 

Esboniwyd ymhellach bod Deddf 1993 sy’n diwygio Deddf 1944 a Deddf 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i’r AALl sicrhau bod cyfansoddiad pwyllgor A cynhadledd maes llafur cytûn a grŵp A CYSAG (enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill ac enwadau’r crefyddau hynny) gynrychioli’r gymuned leol. Mae’n ofynnol i nifer y cynrychiolwyr o bob enwad a chrefydd adlewyrchu’n fras gryfder cyfrannol yr enwad hwnnw neu’r grefydd honno yn yr ardal leol, cyn belled ag y bo hynny’n gyson â chyflawni’n effeithlon swyddogaethau’r pwyllgor neu’r grŵp. Gan hynny, mae’r darpariaethau statudol yn cydnabod y bydd achlysuron pan fydd buddiannau effeithlonrwydd yn drech na’r gofyniad i sicrhau cynrychiolaeth uniongyrchol gyfrannol.

 

Penderfynwyd:       Nodi’r uchod a disgwyl ymateb gan y Swyddog Monitro. 

           

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 255 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2017 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol:

 

(a)     Yn y Gymraeg:

 

7 (c)   - “fel yn y sector cynradd…”    yn llefel yn y sector …”  yn y 3ydd paragraff

8 (b) (b) “7 Gorffennaf 2017 yn Wrecsamyn lle “23 Mehefin 2016 yn Rhyl”

 

 

(b)   Yn y Saesneg:

 

Yn yr ymddiheuriadau – “Presbyterian Church of Wales” yn lle “Union of Welsh Baptists”

6 (b) – YchwaneguTalysarnyn y paragraff 1af

“Agreed” yn lleCytûnyn yr ail baragraff

“was not fully meeting” yn lle “was fully meeting” yn y 3ydd paragraff

7 (a)  “illness and confusion” yn lle “confusion and error”

8 (b) (b)  “7 July 2017 in Wrexham” yn lle “23 June 2016 in Rhyl”

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG GWYNEDD 2016/17 pdf eicon PDF 672 KB

I ystyried adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2016/17 cyn cyhoeddi copi terfynol.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Gwynedd am y flwyddyn academaidd 2016-17, er cymeradwyaeth yr aelodau, cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

 

Adroddwyd gan yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE, bod yr adroddiad yn grynhoad o drafodaethau CYSAG  yn ystod y flwyddyn flaenorol o Fedi 2016 hyd Awst 2017, a’i fod gerbron yr aelodau , er mwyn rhoi cyfle iddynt fynegi barn ar yr adroddiad drafft. 

 

Eglurwyd mai swyddogaeth CYSAG oedd cynghori’r Awdurdod Addysg ar faterion yn ymwneud â darparu Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd, a’r Maes Llafur Cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad gan gyfeirio ar y dulliau a ddefnyddir i roi sylw cyson i fonitro safonau Addysg Grefyddol, trwy graffu hunan arfarniadau ysgolion ac fe welwyd bod ansawdd yr hunan arfarniadau wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf; adroddiadau arolygu ESTYN ynghyd â monitro canlyniadau arholiadau.

 

Tynnwyd sylw at gynllun gweithredu CYSAG Gwynedd a oedd yn amlinellu 4 blaenoriaeth.

 

Cytunwyd i’r dyfodol i ysgolion gyflwyno eu hunan arfarniadau yn y tymor yn dilyn derbyn arolygiad.

 

Gwnaed fân ddiwygiadau i’r adroddiad drafft tra yn y cyfarfod ac addawodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE y byddai’n gwirio’r ddogfen cyn cyflwyno’r adroddiad terfynol.

 

Diolchwyd i’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE am baratoi’r Adroddiad Blynyddol Drafft.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn gyda diolch Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG ar gyfer 2016-17, a gofyn i’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE wneud unrhyw gywiriadau a newidiadau golygyddol a gytunwyd yn y cyfarfod cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

 

7.

ADDOLI AR Y CYD pdf eicon PDF 310 KB

I dderbyn Canllawiau Atodol gan ESTYN a Chymdeithas CYSAGau Cymru ar addoli ar y cyd. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Canllawiau Atodol gan ESTYN a Chymdeithas CYSAGau Cymru mewn perthynas ag addoli ar y cyd mewn ysgolion anenwadol.

 

Derbyniwyd eglurder ar beth yn union yw addoli ar y cyd gan yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE gan nodi bod Deddf Diwygio Addysg 1988 a Chylchlythyr 10/94 Swyddfa Cymru yn pennu’r gofynion cyfreithiol ar gyfer addoli ar y cyd mewn ysgolion yng Nghymru.  Gofynnir i ysgolion ddarparu addoli ar y cyd bod dydd i bob disgybl cofrestredig gan ddilyn patrwm Cristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl.  Gall addoli ar y cyd gael ei gynnal unrhyw bryd yn ystod diwrnod yr ysgol ac nid oes rhaid iddo fod yn dorfol - gall gael ei ddarparu i ddosbarth neu flwyddyn ysgol.  Esboniwyd bod hawl gan rieni i eithrio eu plant o addoli ar y cyd gydag ysgolion yn gorfod cytuno i geisiadau o’r fath.

 

Gofynnwyd i Aelodau CYSAG i ba raddau maent yn awyddus i fonitro addoli ar y cyd mewn ysgolion.  Pwysleisiwyd nad oedd angen dod i farn ar ansawdd yr addoliad ond yn hytrach bod yr ymarferiad ar gyfer gwella deallusrwydd Aelodau o’r hyn a gyflwynir gan ysgolion yn yr addoliad. 

 

Awgrymwyd gan Aelodau y byddent yn fodlon mynychu’r ysgolion hynny lle maent yn gwasanaethu ar y cyrff llywodraethu ac y byddai’n gwrtais i’r awdurdod addysg gysylltu â’r ysgolion hynny i’w hysbysu o’r bwriad ac wedyn i’r ysgolion estyn gwahoddiad i Aelodau CYSAG fynychu pan fyddent yn cynnal eu haddoliad ar y cyd.

 

Penderfynwyd:          (a)  Derbyn a chymeradwyo i’r 6 aelod etholedig sy’n gwasanaethu ar CYSAG fonitro addoli ar y cyd yn yr ysgolion hynny lle maent yn llywodraethwyr yn eu wardiau. 

 

                                    (b)  Gofyn i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol gysylltu â’r ysgolion i’w hysbysu o’r bwriad uchod fel bo modd i’r Penaethiaid a’r Aelodau drefnu iddynt fynychu sesiwn addoli ar y cyd.

 

 

8.

HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 251 KB

(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod yr Haf i Gwanwyn 2017.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b)  I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol: 

 

(i)         Ysgol Abersoch

(ii)        Ysgol Felinwnda

 

 

 

(Copïau’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Tywysodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw bod 4 ysgol gynradd, a dim un ysgol uwchradd nac ysgol arbennig wedi eu harolygu gan ESTYN  yn ystod tymor yr Haf 2017.  Cyfeiriwyd at sylwadau ESTYN o dan baragraff Gofal, cymorth ac arweiniad, gan nodi mai ychydig iawn o fanylder a roddir i addysg grefyddol.

 

Yng nghyswllt Ysgol Rhosgadfan o safbwynt y dyfarniad o anfoddhaol o dan y pennawd  Gofal, cymorth ac arweiniad, nodwyd y cyfeirir at ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gyda datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol disgyblion yn dda. 

 

 

(b)       Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Abersoch a Felinwnda gyda’r safonau, y ddarpariaeth addysg yn dda a chyfeiriwyd bod yr Ysgolion wedi adnabod elfennau i dderbyn sylw, megis:

·         Datblygu sgiliau ysgrifennu estynedig disgyblion wrth iddynt ddysgu am grefydd arall ar wahân i Gristnogaeth

·         Mwy o gyfleoedd i’r disgyblion fagu hyder wrth ofyn ac ateb cwestiynau penodol er mwyn mynegi barn am faterion moesol perthnasol

·         Sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd yn cael ei roi i ymwelwyr ddod i gyfnodau addoli ar y cyd

 

PENDERFYNWYD:     (a)  Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol â’r drefn, i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol, anfon llythyr at yr ysgolion uchod yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr ysgolion i gyrraedd y graddau.

 

                                    (b)   Gofyn i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol lythyru hefo’r ysgolion hynny sydd wedi derbyn arolygiad ym mis Hydref i ofyn iddynt gyflwyno eu hunan arfarniad i gyfarfod nesaf CYSAG ym mis Chwefror.

 

9.

DIWEDDARIAD GAN YMGYNGHORYDD CEFNOGI GWELLIANT GWE

I dderbyn diweddariad llafar gan Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE ar y materion canlynol:  

 

·         Fframwaith Arolygu newydd ESTYN  goblygiadau i weithdrefnau monitro CYSAG Gwynedd

·         Cwricwlwm am Oesymateb i argymhellionDyfodol Llwyddiannus

 

 

Cofnod:

(a)  Ffurflen Hunan Arfarniad Drafft

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE at dudalennau 32-33 yn y Rhaglen a oedd yn cynnwys ffurflen hunan arfarniad a anfonir at ysgolion i’w cyflwyno ar gyfer monitro gan CYSAG

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Fframwaith Arolygu ESTYN wedi newid ers Medi 2017, mewn cydweithrediad â chydweithwyr a swyddogion CYSAG, roedd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE wedi addasu’r ffurflen ac fe gyflwynwyd y drafft i’r Aelodau, er canfod eu barn o’r cynnwys.  

 

Eglurwyd bod maes arolygu 1 yn y Fframwaith newydd yn cyfeirio at safonau addysg grefyddol gan ofyn pa mor dda mae’r disgyblion yn   gwneud cynnydd mewn addysg grefyddol, sef bod yn ymwybodol o safonau’r disgyblion.

 

Cyfeiria’r ail faes at Les ac agweddau at ddysgu - efallai bod CYSAG yn awyddus i wybod sut mae disgyblion yn teimlo tuag at addysg grefyddol yn yr Ysgol, a ydynt yn mwynhau’r pwnc ac yn cyfrannu at eu datblygiad at ddinasyddion llwyddiannus

 

Ym maes arolygu 3 cyfeirir at brofiadau mae plant yn cael.  Rhoddir cyfle i gyfeirio at y  gwersi - a yw’r disgyblion yn cael croestoriad o grefyddau, ydynt yn mynd ar ymweliadau a fyddai yn helpu plant i wella addysg grefyddol.

 

O safbwynt Gofal, cymorth ac arweiniad mewn addysg grefyddolh.y. beth yw effaith yr addysg grefyddol, gofynnir i ysgolion nodi i ba raddau mae addysg grefyddol yn dod a chymuned at ei gilydd, a yw’r disgyblion yn cael profiadau eang yn eu cymunedau.

 

Yng nghyd-destun Arweinyddiaeth a rheolaeth, gofynnir i ba raddau mae athrawon yn craffu ar addysg grefyddol, a ydynt yn adnabod y cryfderau a gwendidau i sicrhau bod addysg grefyddol yn gyson dda.

 

Gofynnwyd am farn y Pwyllgor o gynnwys y ffurflen ddrafft uchod ac mewn ymateb amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(a)  Y byddai’r ffurflen yn cael ei throsglwyddo i Benaethiaid pwnc i’w chwblhau ac nid o reidrwydd yn cael ei chwblhau gan Bennaeth ysgol

(b)  Bod y gofyn yn ormod eleni wrth i Benaethiaid orfod ddygymod â’r Fframwaith Arolygu newydd.  Gwyntyllwyd y syniad i gadw’r ffurflen yn ôl am flwyddyn gan fod Penaethiaid yn gorfod ymdopi hefo trefn newydd beth bynnag. 

(c)   A yw’r cwestiynau braidd yn gyffredinol, h.y. pa dystiolaeth fydd yn cael ei ddefnyddio i ymateb i’r cwestiynau ac a yw hunan ddatblygiad y plentyn yn cael ei golli?

(d)  Bod pob pwnc arall yn cael eu bandio o fewn chwarteli yn CA3 heblaw addysg grefyddol.  Fodd bynnag cyflwyna ysgolion ddata i GwE ond nid oedd yn hawdd tracio ar lefel ehangach.

(e)  Nad oedd addysg grefyddol yn cael sylw pob blwyddyn mewn ysgolion cynradd fel hunan arfarniad pynciol

 

Nododd un aelod y byddai’n barod i gwblhau’r ffurflen ar ran Ysgol Eifionydd.

 

 

Penderfynwyd:          Y byddir yn rhoi dewis i ysgolion pa ffurflen i’w chwblhau ond efallai dewis ambell Ysgol i’w dreialu yn y flwyddyn newydd. 

 

(b)  Cwrs TGAU Astudiaeth Grefyddol Newydd

 

Mynegwyd pryder yngl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU pdf eicon PDF 435 KB

(a)  I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2017 yn Wrecsam. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b)  I nodi dyddiadau o gyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru fel a ganlyn:   

 

·         Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2017 – Canolfan Ddinesig, Pen-y-Bont Ar Ogwr

·         Dydd Gwener, 9 Mawrth 2018 – Canolfan Ddinesig, Abertawe

 

(c)   I dderbyn diweddariad ar y broses o ddiwygio’r cwricwlwm.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)    Cofnodion cyfarfod diwethaf

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf  2017.

 

(b)          Nodi dyddiadau o gyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru:

 

·         Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2017 - Canolfan Ddinesig, Pen-y-bont Ar Ogwr

·         Dydd Gwener, 9 Mawrth 2017 – Canolfan Ddinesig, Abertawe

 

(c) Cyflwynwyd diweddariad ar y broses o ddiwygio’r cwricwlwm gan Manon Jones, Llywodraeth Cymru.

 

 

Penderfynwyd:             (a)        Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion.

 

                                       (b)       Nodi’r dyddiadau uchod. 

 

(c)        Nodi’r diweddariad.