Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Selwyn Grifiths.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. Jean Forsyth, Cathryn Davey (Undeb Athrawon), Mr Cynrig Hughes (Yr Annibynwyr), Mrs Elizabeth Roberts (Undeb Bedyddwyr Cymru). 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 (b) (ii) Hunan Arfarniad Ysgol Borth y Gest oherwydd ei fod yn llywodraethwr yn yr Ysgol honno. 

           

Roedd o’r farn nad oedd y buddiant yn rhagfarnu ac ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 236 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016.   

 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2017 fel rhai cywir.

 

6.

HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 273 KB

 (a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer Haf 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol: 

 

(i)         Ysgol Bodfeurig

(ii)        Ysgol Borthygest

(iii)       Ysgol Bro Cynfal

(iv)       Ysgol Cae Top

(v)        Ysgol Llanbedr

(vi)       Ysgol Maenofferen

(vii)      Ysgol Penybryn (Tywyn)

(viii)     Ysgol Rhiwlas

(ix)       Ysgol Waunfawr

 

(Copïau’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)   Tywysodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol  yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw mai 3 ysgol gynradd a oedd wedi eu harolygu gan ESTYN  yn ystod tymor yr Haf 2016 ynghyd ag 6 ysgol gynradd yn ystod cyfnod tymor yr Hydref 2016.  

(b)   Mewn ymateb i sylw wnaed gan Aelod ynglŷn â therminoleg ESTYN o’r farndigonolyn hunan arfarniad Ysgol Maenofferen, nododd Ymgynghorydd Her GwE bod y frawddeggofal, cymorth ac arweiniadyn rhan o faes ehangach a thynnwyd sylw bod y geiriaueffeithiol, llwyddiannus, cadarn, buddiolyn cyfeirio at “da” a oedd yn berthnasol i Addysg Grefyddol.  

           

(c)   Cyfeiriwyd at Hunan Arfarniadau'r ysgolion unigol canlynol

 

(i)            Ysgol Bodfeurig

(ii)           Ysgol Borth-y-gest

(iii)          Ysgol Bro Cynfal

(iv)         Ysgol Cae Top

(v)          Ysgol Llanbedr

(vi)         Ysgol Maenofferen

(vii)        Ysgol Penybryn Tywyn

(viii)       Ysgol Rhiwlas

(ix)         Ysgol Waunfawr

 

Nododd Ymgynghorydd Her GwE bod ansawdd yr Hunan Arfarniadau wedi gwella ond bod rhai gwendidau yn parhau, oherwydd nad oedd ysgolion wedi craffu’r canllawiau yn ddigonol a’r angen i dderbyn canllawiau cliriach. 

 

Yng nghyd-destun Ysgol Maenofferen, tynnwyd sylw penodol at y cyfeiriad o lefelau disgyblion ar ddiwedd Blynyddoedd 3, 4, a 5. 

 

Nodwyd bod Hunan Arfarniad Ysgol Cae Top wedi ei lunio ar ddull gwahanol ac wedi derbyn arolygiad ardderchog yn ddiweddar.

 

Cyfeiriwyd at Hunan Arfarniad Ysgol Penybryn Tywyn a oedd yn rhoi blas o’r gwersi. 

 

PENDERFYNWYD:     Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol â’r drefn, llongyfarch yr ysgolion uchod am eu hymdrechion i gyrraedd y graddau. 

 

7.

DIWEDDARIAD GAN YR YMGYNHGORYDD HER (MISS BETHAN JAMES)

 

I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her ar yr isod:

 

 

(i)            Safonau Addysg Grefyddol

(ii)           Adnoddau Addysg Grefyddol

(iii)          Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes

(iv)         Astudiaethau Crefyddol a TGAU /Safon Uwch

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)    Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes

 

Atgoffwyd yr Aelodau o brif argymhellion Yr Athro Graham Donaldson fel rhan o’r cwricwlwm “Dyfodol Llwyddiannus” neu Gwricwlwm am Oes, Cwricwlwm i Gymru. Un o’r egwyddorion hynny ydoedd i’r cwricwlwm gael ei weithredu o’r gwaelod i fyny a’i fod yn addas i’r ardal leol.  I’r perwyl hwn, roedd CYSAGau lleol yn enghraifft dda i allu dylanwadu ar gwricwlwm lleol. 

 

Ymhelaethwyd ymhellach o’r pedwar diben wrth wraidd y cwricwlwm newydd arfaethedig sef cefnogi plant a phobl ifanc i fod yn:

 

·         Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

·         Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

·         Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd

·         Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

 

Un o’r tasgau i’w wynebu ydoedd sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu i ymateb i’r dibenion uchod. 

 

Ymhelaethodd Ymgynghorydd Her GwE ei bod yn rhan o Banel Ymgynghorol a’u bod wedi cwrdd i geisio llunio arweiniad ar “beth yw addysg grefyddol”.  Yn sgil y gwaith hwn, cyflwynwyd i’r Aelodau ddatganiadau ar “beth yw Addysg Grefyddol dda” a gofynnwyd iddynt mewn parau drafod os oedd y datganiadau yn cyfrannu at y pedwar diben a chonsensws yr Aelodau ar y cyfan ydoedd bod y datganiadau yn ddigon clir ac yn gymwys i’r pedwar diben.

 

O ran y camau nesaf, anogwyd yr athrawon a oedd yn bresennol i brofi’r uchod yn eu hysgolion i weld os ydynt yn gyfforddus gyda’r datganiadau, a.y.b. ac anfon unrhyw sylwadau o ran adborth yn ôl i Ymgynghorydd Her GwE.

 

 

(b)  TGAU / Safon Uwch

 

Esboniodd yr Ymgynghorydd Her bod dirprwyaeth o’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol wedi cwrdd gyda Mr Gareth Pierce, CBAC, a oedd wedi derbyn neges glir bod pryder ynglyn a chyflwyno manyleb TGAU Medi diwethaf a rhoddwyd pwysau arnynt i’w ohirio am flwyddyn.  Erbyn hyn nodwyd bod y fanyleb wedi cyrraedd.  Nodwyd bod athrawes arweiniol GwE (Mefys Jones) yn gweithredu’n effeithiol mewn ymgynghoriad gydag athrawon Gwynedd a Môn ac y byddai deunydd ar gael erbyn Mehefin / Gorffennaf.

 

Mewn ymateb i’r uchod mynegwyd bryder ymhlith yr athrawon ynglyn a’r newidiadau i’r fanyleb TGAU a’r ffaith bod ysgolion angen dechrau’r gwaith cwrs yn fuan a ddim deunyddiau Cymraeg ar gael, ac y byddai canlyniadau ysgolion yn dioddef. 

    

Deallir bod llawer o ysgolion yn Ne Cymru yn cynnig Manyleb A fel cwrs dewisol, a Manyleb B fel un statudol. Pwysleisiwyd  bod Addysg Grefyddol yn ofyniad statudol ar gyfer pob disgybl a bod  angen i ysgolion ddehongli’r gofynion yn drylwyr yn unol â’r ddeddf.  Yn ogystal, gellir darparu rhaglen astudio sy’n cyfeirio at y gofynion ac yn cynnig gymwysterau priodol eraill e.e. Bagloriaeth Cymru.

 

(c)   Adnoddau Addysg Grefyddol

 

Cyfeiriwyd at y cyhoeddiadau canlynol ar gyfer adnoddau:

 

·         Dau rifyn o E-gylchgrawn Addysg Grefyddol wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

·         Podlediadau – pytiau o raglenni’r BBC “Bwrw Golwg”

·         Erthyglau gan dri awdur (Noel Dyer, Huw Dylan a Catrin  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD pdf eicon PDF 252 KB

I ystyried y cynllun gweithredu.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd cynllun gweithredu am y flwyddyn 2016-17.

 

Cyfeiriwyd, yn ei absenoldeb, at sylw anfonwyd gan Mr Cynrig Hughes ynglyn ag arsylwi arfer dda yn yr ysgolion ac roedd o’r farn y dylid gwneud ymgais yn weddol fuan i wneud hyn gan fod y mater wedi ei drafod ers sawl blwyddyn bellach gan CYSAG Gwynedd a dim gweithrediad ar y mater hyd yma.

 

Mewn ymateb i’r uchod, awgrymodd Ymgynghorydd Her GwE i gynnal cyfarfod CYSAG tymor yr haf ar ffurf wahanol ac i roi gwahoddiad i oddeutu 4 o athrawon i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar eu harferion gorau a / neu bryderon.  Awgrymwyd ymhellach er mwyn hwyluso’r trefniadau i ofyn i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol :   

 

·         Anfon at ysgolion i ganfod a fyddai Penaethiaid yn fodlon rhyddhau athrawon i fynychu

·         Ymchwilio a fyddai modd digolledu ysgolion am ryddhau athrawon

·         Canfod a fyddai ysgolion yn fodlon gwahodd Aelodau CYSAG i arsylwi arferion da yng nghyswllt addoli ar y cyd

 

Addawodd Ymgynghorydd Her GwE y byddai’n darparu briff eithaf clir i ysgolion ar gyfer yr uchod.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r cynllun gweithredu ar gyfer 2016-17.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol weithredu yn unol â’r pwyntiau bwled uchod yn dilyn derbyn briff gan Ymgynghorydd Her GwE.

 

9.

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU pdf eicon PDF 702 KB

(a) I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2016 yng Nghaerfyrddin.  

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b) I ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)    Cofnodion cyfarfod diwethaf

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2016 yn Sir Gaerfyrddin.

 

Nododd Ymgynghorydd Her GwE bod y cyfarfod yn un buddiol a chyfeiriodd at eitem o fewn y cofnodion at ymarfer da a weithredir yn Ysgol Gymraeg Bro Myrddin sy’n rhoi cyfle i bob disgybl gymryd rhan a chyflwyno gweithred ddyddiol o addoli ar y cyd.

 

Penderfynwyd:             Derbyn a nodi’r uchod.