Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y
Cynghorydd Selwyn Grifiths. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Gweno Glyn yn
Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. Jean Forsyth, Eirian Bradley Roberts (Yr Eglwys Catholig), Cathryn Davey (Undeb Athrawon) a Mai Bere (Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2016 fel rhai cywir. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2016 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG GWYNEDD 2015/16 PDF 635 KB I ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft 2015/16 cyn cyhoeddi copi terfynol. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG
Gwynedd am y flwyddyn academaidd 2015-16, er cymeradwyaeth yr aelodau, cyn
cyhoeddi’r adroddiad terfynol. (A) Eglurodd Miss Bethan James mai pwrpas yr
Adroddiad Blynyddol ydoedd crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd gan CYSAG dros y
flwyddyn flaenorol a phwysigrwydd bod yr argymhellion o fewn yr adroddiad yn
cael eu dwyn i sylw’r Cabinet. Tywyswyd
yr Aelodau drwy gynnwys yr adroddiad gan ddwyn sylw at y prif bwyntiau
canlynol: (i)
Hunan arfarniadau – Llongyfarchwyd CYSAG Gwynedd am
y drefn o dderbyn hunan arfarniadau gan ysgolion ac fe welwyd cam o welliant yn
ansawdd yr hunan arfarniadau ac fe nodwyd werthfawrogiad i’r ysgolion am eu
cwblhau. Cofnodir faint o hunan
arfarniadau a dderbyniwyd dros dreigl o 5 mlynedd ac fe lwyddwyd i graffu rhwng
8 – 14 yn flynyddol yng Ngwynedd. Atgoffwyd y
Pwyllgor y cytunwyd i enwi’r ysgolion ac fe gyfeiriwyd at yr agweddau sydd wedi
derbyn sylw. (ii)
Asesiadau athrawon - tynnwyd sylw’r Pwyllgor at yr
argymhellion ac fe nodwyd bod manylebau arholiadau TGAU a Safon Uwch ar wefan
CBAC. Rhaid sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at arweiniad pynciol bwrdd
arholi CBAC. (iii)
Mewn ymateb i ymholiad gan aelod ynglyn â chodi safonau canlyniadau bechgyn, nodwyd nad oedd
y data yn cyfleu natur y cohort ymhob ysgol. Cytunwyd bod angen i’r argymhellion i Gyngor
Gwynedd gynnwys cyfeiriad at gau’r bwlch rhwng bechgyn a marched. Nodwyd ymhellach bod deunydd AS yn apelio’n
well i fechgyn. (iv)
Cyfeiriwyd at adroddiadau arolygu ESTYN gan nodi yn
ddiffael yng Ngwynedd
gwelir rhywfaint o gyfeirad at Addysg Grefyddol ac
addoli ar y cyd. O safbwynt addoli ar y
cyd, cydnabuwyd bod y farn gan amlaf yn nodi ei fod
yn dda ac ambell ysgol yn dda iawn.
Nodwyd bod rhai ysgolion yn cydweithio’n dda mewn partneriaeth gyda’r
Capeli ac Eglwysi lleol wrth i ddisgyblion ddysgu am grefydd yn yr ardal leol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, roedd yr
Aelodau o’r farn y dylid hepgor y tabl ym mhwynt
2.3.3 ac y dylid anfon llythyr i ESTYN i sicrhau defnydd o’r termau cywir o
safbwynt addoli ar y cyd gan nodi eu bod yn croesawu’r cyfeiriadau at y gwaith partneriaethaol a wneir rhwng ysgolion a grwpiau crefyddol.
Awgrymwyd ymhellach y byddai’n fuddiol ychwanegu cwestiwn ar y ffurflen hunan
arfarnu fel bo ysgolion yn gallu nodi y gwaith partneriaethol
a wneir gyda grwpiau crefyddol. (v)
O safbwynt monitro addoli ar y cyd, hyderir y gellir aelodau CYSAG dderbyn gwahoddiad gan ysgolion i
fynychu sesiynau addoli ar y cyd. Nodwyd
bod oddeutu tri chwarter aelodau CYSAG Môn wedi mynychu sesiynau ac wedi cynnal
trafodaethau buddiol yng nghyfarfod CYSAG.
Penderfynwyd: (a) Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad
blynyddol ynghyd a’r sylwadau a wnaed uchod.
(b)Anfon
llythyr i ESTYN yn cyfleu dymuniad CYSAG Gwynedd i’r arolygwyr sicrhau defnydd
o dermau cywir o safbwynt addoli ar y cyd a thynnu sylw a chydnabod y gwaith partneriaethol da a wneir rhwng ysgolion a grwpiau
crefyddol mewn cymunedau. |
|
I ystyried holiadur ar gyfer Aelodau CYSAG wrth iddynt fynychu
sesiwn addoli ar y cyd mewn
ysgolion. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
holiadur a dreilawyd gan aelodau CYSAG Môn wrth
iddynt fynychu sesiynau addoli ar y cyd mewn ysgolion. Gofynnwyd i’r
Aelodau a fyddent yn barod i fynychu sesiynau yn ysgolion Gwynedd ac a fyddent
yn hapus i’w dreilau.
Pwysleiswyd nad oedd angen i ysgolion baratoi
yn benodol ar gyfer ymweliadau Aelodau CYSAG. Mewn ymateb,
nododd Aelodau unigol fel a ganlyn: · Mai’r opsiwn a
ffafriwyd fyddai bod ysgolion yn gwahodd
Aelodau CYSAG i sesiwn boed hyn yn gyfnod yn y dosbarth neu sesiwn torfol. ·
Bod perthynas dda iawn rhwng ysgolion a’r capel
mewn ambell bentref a chyfeirwyd yn benodol at Ysgol
Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd ac Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth Penderfynwyd: Gofyn
I’r Swyddog Addysg Cynorthwyol mewn ymgynghoriad gyda’r Ymgynghorydd Her GwE I
ofyn I’r ysgolion I wahodd Aelodau CYSAG I fynychu sesiynau addoli ar y
cyd. |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU PDF 380 KB (a) I dderbyn cofnodion cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 yn Rhyl. (Copi’n amgaeedig) (b) I nodi y cynhelir cyfarfodydd nesaf y Gymdeithas uchod ar: ·
18
Tachwedd 2016 yng Nghaerfyrddin. ·
3
Mawrth 2017 yn Brynbuga, Sir Fynwy Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cofnodion
cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 yn Rhyl. Tynnwyd sylw gan Ymgynghorydd Her GwE bod diffyg presenoldeb aelodau o GYSAGau ac fe annogwyd
aelodau i fynychu pe gallent. Nododd Aelod
nad oedd y cofnodion yn ddwyieithog
ac y dylid anfon gair at y Gymdeithas y dylid cyflymu’r broses o’u cyfieithu fel
bo modd eu
cyflwyno yn ddwyieithog fel rhan o Raglen CYSAG Gwynedd. Cyfeiriodd Ymgynghorydd Her GwE at y prif
faterion a drafodwyd yn y cyfarfod uchod: ·
Addysg Grefyddol
a’i le o fewn y cwricwlwm newydd ·
Canllawiau ar
Reoli Hawl Tynnu’n ol o Addysg
Grefyddol a ddarparwyd gan Gill Vaisey Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. (b) I nodi y cynhelir cyfarfodydd nesaf y Gymdeithas uchod ar: ·
18 Tachwedd
2016 yng Nghaerfyrddin ·
3 Mawrth
2017 yn Brynbuga, Sir Fynwy Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
DIWEDDARIAD YMGYNGHORYDD HER GwE I dderbyn diweddariad llafar gan Ymgynghorydd
Her GwE ar y materion canlynol: (a) Cwricwlwm i Gymru (b) Cefnogaeth I’r TGAU newydd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddwyd: (a) Bod y Rhanbarth wedi adnabod athrawon arweiniol Addysg
Grefyddol a fyddai’n gweithio gydag athrawon Gwynedd a Môn ar gyfer paratoi at
manyleb newydd TGAU. (b) O safbwynt y
Cwricwlwm newydd ni dderbyniwyd arweiniad hyd yma ond roedd swyddogion wedi
dechrau gwaith paratoadol fel bo modd cyflwyno egwyddorion ac arweiniad lleol o
“Be’ sy’n gwneud addysg grefyddol yn dda” Penderfynwyd: Derbyn,
nodi a diolch i’r Ymgynghorydd Her GwE am ei gwaith gan
nodi bod ei harweiniad i aelodau CYSAG yn werthfawr dros
ben. |