Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Trevor Edwards, Dyfrig Jones, Aled Wyn Jones, Michael Sol Owen a Hefin Underwood.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 249 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2016 fel rhai cywir.  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2016 fel rhai cywir.

 

5.

GALW GWYNEDD AC ATEB GALWADAU FFON pdf eicon PDF 274 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal Cwsmer a’r Rheolwr Galw Gwynedd, Siopau Gwynedd a Chofrestru  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal Cwsmer a’r Rheolwr Galw Gwynedd, Siopau Gwynedd a Chofrestru yn gosod y cefndir i sefydlu Galw Gwynedd yn 2008 ac yn ymateb i gwestiynau penodol a godwyd ymlaen llaw gan y craffwyr mewn perthynas â:-

 

·         Y data perfformiad diweddaraf ar gyfer ateb galwadau ffôn gan Galw Gwynedd ac adrannau’r Cyngor yn gyffredinol.

·         Effaith newidiadau diweddar ar berfformiad ateb ffôn a chynlluniau’r gwasanaeth ar gyfer gwella perfformiad.

·         Data ynglŷn â’r amser mae’n cymryd i gael ateb galwad yn Galw Gwynedd a dichonoldeb cyflwyno system sy’n gadael i gwsmeriaid wybod pa mor hir fydd yr aros.

·         Dulliau o ddygymod â’r cyfnodau prysuraf.

·         Gallu’r prosiect Hunan-wasanaeth i leihau’r galwadau a ddaw i Galw Gwynedd.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Diolchwyd i staff Galw Gwynedd am eu gwaith caled a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwarchod y staff hynny drwy barhau i wella’r system.

·         Nodwyd bod y camau a gymerwyd hyd yma (trwy sicrhau mwy o adnodd a defnyddio adnoddau Siopau Gwynedd) wedi symud at liniaru’r broblem a bod hynny i’w groesawu.

·         Croesawyd yr adolygiad o’r dull o hyfforddi staff a’r ffaith bod geiriad ac amlder y neges mae galwyr yn glywed wrth aros i’w galwad gael ei hateb am gael ei newid y fuan.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Y dylid ystyried opsiwn o system ateb, e.e. neges yn nodi’r amser disgwyl am ateb i’r alwad neu’n cynnig opsiwn i aros ar y lein neu gyfeirio’r alwad ymlaen i rywle arall.

·         Bod angen datrysiad i alwadau sy’n cael eu colli ar draws adrannau’r Cyngor gan godi ymwybyddiaeth swyddogion o’r niferoedd, monitro a chanfod datrysiadau i hynny.

·         Efallai y dylid rhoi ystyriaeth i ymateb i erthygl gamarweiniol ddiweddar yn y Daily Post ynglŷn â pherfformiad Galw Gwynedd.

·         Y dylid gwneud trefniadau i aelodau’r pwyllgor ymweld â Galw Gwynedd.

·         Ystyried adrodd yn ôl ar gynnydd i’r pwyllgor ymhen 6 mis (os yw’r aelod o’r pwyllgor sy’n rhan o’r cyfarfodydd monitro perfformiad gyda’r Aelod Cabinet yn gweld fod problem yn parhau).

·         Y byddai’n fuddiol i’r trigolion / aelodau fedru gweld statws unrhyw ymholiadau a wneir ganddynt, neu ar ran eu hetholwyr.

 

 

6.

PROSIECT HUNAN-WASANAETH pdf eicon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal Cwsmer a’r Rheolwr Prosiect Hunan-wasanaeth  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet a’r Rheolwr Prosiect Hunan-wasanaeth yn gosod y cefndir i sefydlu’r Prosiect Hunan-wasanaeth ac yn ymateb i gwestiynau penodol a godwyd ymlaen llaw gan y craffwyr mewn perthynas â:-

 

·         Nod, rhaglen waith a chynnydd y prosiect hyd yma.

·         Y nod ar gyfer uchafu’r defnydd o hunanwasanaeth.

·         Mesur llwyddiant.

·         Mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y sianel ddigidol hyd yma.

·         Goblygiadau creu cynllun busnes ar gyfer datblygu system hunanwasanaeth ein hunain yn hytrach na phrynu oddi ar y silff.

·         Y canlyniadau i bobl Gwynedd sy’n debygol o ddeillio o’r prosiect.

·         Cynlluniau ar gyfer sut i gyfathrebu’r cyfleoedd hyn gyda’r cyhoedd.

·         Problemau sydd wedi codi gyda’r system hyd yma a sut maent yn cael eu datrys.

 

Dangoswyd y system ar y wefan i’r aelodau er mwyn sicrhau dealltwriaeth glir o’r prosiect hunanwasanaeth.

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Croesawyd y prosiect hwn oedd â photensial i fod yn arbennig o ddefnyddiol, ond pwysleisiwyd mai un ffordd o gyfathrebu gyda’r Cyngor fyddai hyn, ac nid yr unig ffordd.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod angen rhoi ystyriaeth i sut mae’r gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo a bod rôl i aelodau a staff y Cyngor yn gyffredinol i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r system.

·         Bod yr elfen tracio ymholiadau yn hynod ddefnyddiol a bod angen trosglwyddo’r holl wasanaethau posib’ i’r system cyn gynted â phosib’.

·         Bod angen rhoi ystyriaeth i ddelwedd y wefan a lleoliad a maint y linc i’r cyfrif personol.

·         Er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect, bod angen sicrhau bod y staff swyddfa gefn yn ymwybodol o’r system ac yn barod i weithredu a bod angen adnoddau i sicrhau hynny.

·         Y dylai’r system hunan-wasanaeth ymgorffori egwyddorion iaith syml er mwyn hwyluso’r defnydd ohoni.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth.

 

7.

IAITH SYML pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad y Grwp Ymchwiliad Craffu Iaith Syml  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Grŵp Ymchwiliad Craffu Iaith Syml ar waith a chasgliadau’r ymchwiliad i ba mor syml a hawdd i’w deall yw’r termau mae’r Cyngor yn eu defnyddio mewn holiaduron.

 

Diolchodd aelodau’r ymchwiliad i’r Dr Llion Jones ac Eleri Hughes o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor am eu harweiniad ac i’r swyddogion am eu gwaith yn cefnogi’r ymchwiliad. 

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Y gobeithid y byddai’r gwaith hwn yn sbarduno pobl i ddefnyddio iaith gliriach mewn meysydd eraill ar draws y Cyngor, e.e. wrth lunio adroddiadau i bwyllgorau.

·         Y dylid egluro beth yw ystyr unrhyw acronym wrth ei ddefnyddio y tro cyntaf mewn dogfen.

·         Bod iaith syml yn berthnasol i hunan-wasanaeth hefyd er mwyn sicrhau bod pobl yn ei ddefnyddio.

·         Y dylai Hunaniaith fod yn rhan o hyn hefyd o ran yr wybodaeth maent yn ei rhannu’n gyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Grŵp, sef:-

(a)     Bod yr Uned Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Chanolfan Bedwyr yn cyd-ddatblygu canllawiau byr (dim mwy na 2 ochr A4) i staff ar lunio holiaduron mewn iaith syml a’u bod hefyd yn creu rhestr eirfa / ymadroddion i’w hosgoi.

(b)     Bod Canolfan Bedwyr hefyd yn rhoi mewnbwn i becyn mewnol o ganllawiau ar gyfer trefnu cyfarfodydd cyhoeddus, datganiadau i’r wasg, ayb, sydd wrthi’n cael ei greu ar hyn o bryd.

(c)     Cynnal peilot o’r canllaw holiaduron gydag adran benodol o’r Cyngor i weld oes effaith o’i gyflwyno cyn ystyried sefydlu cynllun ehangach.