Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y
Cynghorydd Lesley Day |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2016 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2016 fel rhai cywir. . |
|
TREFN GWYNION Y CYNGOR PDF 141 KB Ystyried adroddiad
yr Aelod Cabinet Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd,
Amddifadedd a Chydraddoldeb (ynghlwm). 2.30pm – 3.00pm Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet (Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb) yn
manylu ar Drefn Gwynion y Cyngor ac yn ymateb i gwestiynau a ddarparwyd ymlaen
llaw mewn perthynas â:- ·
Sut mae’r drefn newydd yn gwahaniaethu o’r hyn oedd yn digwydd yn y
gorffennol a sut mae o fudd i drigolion Gwynedd. ·
Y canlyniadau i drigolion Gwynedd a thystiolaeth i brofi hynny. ·
Y berthynas gyda Galw Gwynedd a Siopau Gwynedd fel y pwyntiau cyswllt
cyntaf ·
Ymateb y gwasanaethau i’r drefn newydd. ·
Hyfforddiant i staff ar y drefn newydd a sut i ddelio â chwynion. ·
Y gwersi a ddysgwyd dros y flwyddyn ddiwethaf a sut maent wedi eu
cyfathrebu. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau pellach gan yr aelodau. Crynhodd y Cadeirydd brif neges y drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod pryder ynglŷn â chapasiti Galw Gwynedd i ateb galwadau. ·
Argymhellid y dylid rhannu gwybodaeth ynglŷn ag ymchwiliadau
ffurfiol gydag aelodau lleol os gwelir bod patrwm o gwynion yn datblygu o fewn
ardal benodol. ·
Gwerthfawrogir y ffaith bod yr adnodd
cefnogol i gydlynu’r drefn newydd yn gweithredu’n annibynnol ac yn edrych ar y
sefyllfa o safbwynt y cwsmer, gan ymateb yn amserol i gwynion. ·
Bod angen sicrhau cysondeb a dysgu gwersi o drefn gwynion y Gwasanaethau
Cymdeithasol. Diolchwyd
i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth gan nodi o bosib’ y gofynnid
iddynt ddod yn ôl gerbron y pwyllgor ymhen blwyddyn. |
|
Y BUDD I WYNEDD O GADW'R DRETH FUSNES PDF 730 KB Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet Adnoddau a’r Aelod Cabinet Economi (ynghlwm). 3.00pm –
3.45pm Cofnod: Eglurodd y Cadeirydd:- ·
Mewn trafodaeth yn y Cyngor llawn ym mis Hydref 2015, y bu i aelod dynnu
sylw’r Cyngor fod y Llywodraeth ganolog yn Lloegr wedi penderfynu bod cynghorau
lleol Lloegr am gael cadw’r dreth busnes i gyd er mwyn ei ail fuddsoddi yn
lleol, ond nad dyma’r sefyllfa yng Nghymru. ·
Mewn ymateb i gynnig yr aelod i gysylltu gyda Llywodraeth Cymru i ofyn
am yr un amodau yng Nghymru, awgrymodd y Prif Weithredwr fod gwaith craffu
manwl yn cael ei wneud cyn hynny, er mwyn sicrhau a fyddai’r un drefn yng
Nghymru yn debygol o arwain at fuddiannau, colledion, cyfleoedd neu beryglon i
Wynedd. Cyflwynwyd
– adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau a’r Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor
i graffu ac ystyried buddion a risgiau cadw’r trethi busnes yn lleol ac yn
ymateb i gwestiynau a ddarparwyd ymlaen llaw mewn perthynas â:- ·
Chynnwys
datganiad y Canghellor. ·
Yr effaith ar
awdurdodau lleol yn Lloegr. ·
Y goblygiadau i
Wynedd petai’r un amodau ar gael yng Nghymru. ·
Y tebygolrwydd i
Wynedd gael budd, colled, cyfle neu berygl o gadw’r dreth busnes a gesglir yn
lleol. Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid a’r Uwch
Reolwr Refeniw a Risg ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd
ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau. Crynhodd y Cadeirydd brif neges y drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Llongyfarch yr Aelodau Cabinet a’r swyddogion ar lunio adroddiad clir a
dealladwy ar fater hynod dechnegol. ·
Wedi edrych ar y cyfleoedd a’r risgiau, nid oedd y pwyllgor wedi’i
argyhoeddi ar hyn o bryd y byddai cyflwyno’r un amodau yng Nghymru yn dod ag
unrhyw fudd i Wynedd, ond yn hytrach, ‘roedd o’r farn y byddai’n creu risgiau
sylweddol. ·
Ei bod yn gynamserol i lobïo’r Cynulliad ar hyn o
bryd. ·
Pe cyfyd mwy o fanylion am ddatblygiadau tebyg i Gymru, argymhellir bod
y Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn gwneud gwaith craffu pellach ar y mater bryd
hynny. Diolchwyd i’r Aelodau Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth. |