skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2017/18

 

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd W Gareth Roberts yn Gadeirydd am 2017/18.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is gadeirydd ar gyfer  2017/18.

 

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Is Gadeirydd am 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peredur Jenkins,  Eric M. Jones, Dyfrig Siencyn ac Ioan Thomas

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 75 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.02.2017  fel rhai cywir 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 o Chwefror 2017 fel rhai cywir.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cytunwyd  bod yr Aelod Cabinet perthnasol yn cael bod yn bresennol i wrando ar y drafodaeth

 

8.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH ADDYSG

Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

 

Cofnod:

Adroddodd y Cadeirydd mai un cais yn unig oedd wedi ei dderbyn am y swydd.

 

 Awgrymodd bod modd ynteu:

 

-       Parhau i dynnu rhestr fer

-       Ystyried ail hysbysebu

 

Cynigwyd ac eiliwyd parhau gyda llunio rhestr fer

 

Mewn ymateb i sylw pam nad oedd Penaethiaid Ysgolion Cynradd ac Uwchradd wedi ceisio am y swydd, adroddodd y Prif Weithredwr y byddai’n cynnal arolwg ymysg Penaethiaid i geisio sefydlu pam nad oedd mwy o geisiadau yn cael eu derbyn, er mwyn ceisio darganfod atebion ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD RHOI YR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfweliadau i’w cynnal Tachwedd 8fed 2017

 

CWESTIYNAU AR GYFER Y CYFWELIAD

 

Dosbarthwyd pum cwestiwn a thestun cyflwyniad  ar gyfer y cyfweliad.

 

PENDERFYNWYD anfon sylwadau am y cwestiynau yn uniongyrchol at y Prif Weithredwr