skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W Gareth Roberts yn Gadeirydd am 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19

Cofnod:

PENDERFYNWYD peidio ethol Is-gadeirydd am y cyfnod 2018/2019

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R Medwyn Hughes, Eryl Jones-Williams, Mair Rowlands, Dyfrig Siencyn a Gethin Glyn Williams

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Datganodd y canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

Dilwyn Williams (Prif Weithredwr) a Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 5 ar y rhaglen gan ei bod yn brif swyddogion ac felly yn destun y Polisi Tâl – y naill oherwydd y rhan yn ymwneud a chyflog y Prif Weithredwr a’r llall oherwydd y rhan yn ymwneud a chyflogau prif swyddogion. Pe byddai yna unrhyw drafodaeth ar y materion perthnasol, byddent yn ymadael a’r ystafell. 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 83 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Chwefror 2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14.02.18 fel rhai cywir

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod dyletswydd statudol ar y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i gyflwyno eu hargymhellion yn dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.  Amlygwyd nad oedd addasiadau i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried y polisi.

 

Er nad oedd addasiadau i’r polisi tynnwyd sylw at rai materion. Nodwyd, yn unol â Chytundeb Tâl Cenedlaethol (cyfnod cytundeb dwy flynedd) bydd isafswm cyflog y Cyngor yn codi o £8.62 i £9.18 yr awr erbyn Ebrill 2019. Ategwyd mai lleiafrif bychan o swyddi fydd yn disgyn o fewn y pwynt isaf gyda rhan helaeth ar £9.55 neu uwch. Adroddwyd, er enghraifft, bod gofalwyr yn cael eu cyflogi ar raddfa £9.36 - £9.55ya gyda’r gallu i gyrraedd £9.55ya ar ôl blwyddyn o gyflogaeth. Atgoffwyd yr Aelodau mai £9.00ya yw’r isafswm cyflog sydd yn cael ei ystyried fel Cyflog Byw gan y corff gwirfoddol “Sefydliad Cyflog Byw”, ond gyda’r penderfyniad lleol blaenorol i ddileu'r ddau bwynt isaf oddi ar y strwythur tâl cenedlaethol, £9.18ya fydd isafswm cyflog Cyngor Gwynedd oddi ar y 1af o Ebrill, 2019. Ategwyd y byddai hyn, o ganlyniad, yn golygu bod Cyngor Gwynedd, am y tro cyntaf, yn talu cyflog uwchlaw’r Cyflog Byw o £9.00ya sydd yn fater y gall y Cyngor ymfalchïo ynddo.

 

Tynnwyd sylw at faterion eraill oedd wedi eu diweddaru yn y polisi sef materion a gytunwyd arnynt yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r cytundeb torfol gyda’r undebau llafur. O ganlyniad nodwyd bod yr amodau gwaith wedi eu moderneiddio a’u cysoni.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol am y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phrinder Gofalwyr a’r awgrym o gynyddu’r cyflog i £10.00ya fel bod mwy o statws i’r swydd, adroddwyd y byddai rhaid cysoni graddfeydd cyflogau ar draws y Cyngor i weithredu hyn er mwyn sicrhau tegwch a chyflog cyfartal. Atgoffwyd  yr Aelodau bod y Cyngor wedi cwblhau Adolygiad Tâl Lleol yn 2008 wnaeth osod seiliau cadarn ar gyfer sicrhau tal cyfartal am waith o werth cyfartal ar gyfer yr holl weithlu ac os am gynyddu cyflog ar gyfer gofalwyr, byddai’n ofynnol rhoi ystyriaeth i bawb arall fyddai â chyfrifoldebau cyfatebol. Amlygwyd y buddsoddiad sylweddol a wnaed mewn cyflogau gan y Cyngor trwy adrodd bod cyfanswm cost y codiadau cyflog yn 2018/19 yn £4.1m gyda swm cyfatebol eto wedi’i glustnodi ar gyfer codiadau Ebrill 2019. Ategwyd bod cynnydd cyffredinol o 2% ar gyflogau 2019/2020 gyda staff o dan bwynt 19 yn derbyn codiadau o hyd at 5.5%.

 

Nodwyd bod darn o waith o gasglu tystiolaeth yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Oedolion i geisio deall natur y broblem o recriwtio Gofalwyr ar draws y Sir. Er yr ymddengys bod cwmnïau preifat yn talu cyflog uwch, maent yn cyfrannu llai at bensiwn y gweithiwr. I’r gwrthwyneb, gwelir bod y Cyngor yn talu llai o gyflog, ond yn cynnig pecyn pensiwn gwerthfawr. Awgrymwyd yr angen i’r Cyngor amlygu buddiannau’r cynllun pensiwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chanrannau codi cyflog a’r gymhareb rhwng  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.