Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorydd Glyn Daniels a Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 17.10.17 fel rhai cywir
Cofnod: Llofnoddd y Cadeirydd gofnodion cyfarod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd 17.10.17 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei
fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff
12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n
berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad
oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr
unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o
gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu Cofnod: PENDERFYNWYD
cau allan y wasg a’r cyhoedd
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolion penodol a bod gan yr unigolion hynny
hawl i breifatrwydd.
Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig
ac yn gorbwyso unrhyw fudd cyhoeddus
o’i ddatgelu. |
|
CYFWELD YMGEISYDD AR GYFER PENNAETH ADDYSG I gyfweld ymgeisydd ar gyfer y swydd Cofnod: Cyfwelwyd un ymgeisydd a oedd ar y rhestr fer
ar gyfer y swydd. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad
ar sut y byddai yn mynd
ati yn ymarferol
i gyflwyno a chyflawni ei weledigaeth
ac ymatebodd i nifer o gwestiynau dilynol. Cyflwynwyd sylwadau o’r Ganolfan
Asesu a gynhaliwyd 25.10.17
gan Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol gyda chrynodeb o berfformiad yr ymgeisydd. Cynigiwyd ac eiliwyd
bod y swydd yn cael ei chynnig
i Mr Garem Jackson. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â mentora, mynegodd y
Prif Weithredwr y byddai’n trafod yr anghenion cefnogaeth briodol gyda’r
ymgeisydd er mwyn ei gynorthwyo i ddatblygu yn ei rôl fel Pennaeth Addysg. PENDERFYNWYD
YN UNFRYDOL I BENODI MR GAREM JACKSON I’R SWYDD PENNAETH ADDYSG. |