Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Trevor Edwards,
Selwyn Griffiths, Brian Jones, Michael Sol Owen, W Gareth
Roberts, Dyfrig Siencyn a Dilwyn O Williams (Prif
Weithredwr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Datganodd y canlynol
fuddiant personol am y rhesymau a nodir: Geraint Owen (Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 5 ar y rhaglen gan ei fod yn brif swyddog ac felly yn destun y
Polisi Tal. Pe byddai yna unrhyw drafodaeth ar y mater hwnnw, byddai’n gadael y
cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6.12.16 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 06.12.16 fel rhai cywir |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR PDF 85 KB Cyflwyno
adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr Adroddiad Polisi Tâl gan y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol. Yn
ei gyflwyniad, amlygwyd rhai ychwanegiadau i’r polisi tal ar gyfer 2017/2018.
Tynnwyd sylw at y gymhareb rhwng canolrif cyflog Prif Swyddogion a’r lleiafswm cyflog
o fewn y Cyngor o 1:5 ynghyd a’r gymhareb rhwng y cyflog uchel (Prif
Weithredwr) a’r cyflog isaf o 1:7.8.
(cymhareb genedlaethol yn 1:20 ). Yn wahanol i’r arfer, oherwydd bod
cytundeb tal cenedlaethol wedi ei gytuno arno am gyfnod o ddwy flynedd yn
Mawrth 2016, roedd y Cyngor eisoes yn ymwybodol beth fyddai lefel cyflogau
staff a Prif Swyddogion oddi ar y 1af o Ebrill, 2017.
Cyfeiriwyd at yr atodiad yn yr adroddiad ple'r oedd y manylion yn adlewyrchu
cyflogau fel ag y byddant yn ymddangos ar gyfer 2017-18. Yng
nghyd-destun y cyflogau isaf nodwyd bod cyn Canghellor y Trysorlys mewn
datganiad cyllidebol ar yr 8fed o Orffennaf 2015 wedi nodi'r angen i osod £7.20
yr awr fel ‘cyflog byw’ oddi ar y 1af o Ebrill, 2016 gan godi i £9.00 yr awr
erbyn Ebrill 2020 (ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn). Adroddwyd y byddai
pwynt 8 (sef isafswm cyflog y Cyngor) yn £7.90 yr awr (o’i gymharu â £8.45 yr
awr a adnabyddir fel Cyflog Byw gan y Sefydliad Cyflog Byw) o’r 1af o Ebrill
2017. Nodwyd bod trafodaethau yn parhau gyda chynrychiolwyr undebau
cydnabyddedig yn lleol i geisio codi’r isafswm yn
agosach at yr hyn a adnabuwyd fel Cyflog Byw gan y Sefydliad Cyflog Byw erbyn
Ebrill 2018. Diolchwyd i’r
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol am y cyflwyniad ac amlygodd y Cynghorydd Peredur
Jenkins (Aelod Cabinet Adnoddau
Dynol) ei fod yn cefnogi’r
adroddiad. Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn a chystadlu gyda chwmnïau preifat e.e., ym maes
gofal am swyddi sydd yn cynnig cyfraddau uwch o gyflog, eglurwyd bod isafswm
tal gofalwyr yn seiliedig ar bwynt 10 (oddeutu £8.09 yr awr oddi ar y 1af o
Ebrill, 2017) ond bod y rhan helaethaf o’r gofalwyr a gyflogir gan y Cyngor yn
derbyn hyd at £8.54 yr awr oddi ar yr un dyddiad sydd eisoes yn uwch na’r
Cyflog Byw. Derbyniwyd, fodd bynnag, bod trafferthion recriwtio yn y maes a bod
angen rhoi sylw i hyn er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth. Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â manteision pensiwn y Cyngor, derbyniwyd bod hyn yn
ran allweddol o’r pecyn cyflogaeth a gynigir i staff
a bod angen mwy o godi ymwybyddiaeth ymysg staff presennol yn ogystal a darpar
ymgeiswyr am swyddi er mwyn iddynt sylweddoli gwerth llawn y pecyn cyflogaeth
sydd ar gael. Cynigiwyd ac eiliwyd
i dderbyn yr argymhelliad DERBYNIWYD YR ADRODDIAD YN UNFRYDOL YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD. ·
Bod
y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad
o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor, ar Fawrth yr 2il 2017, fel un i’w fabwysiadu ar gyfer 2017 / 18. |