skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Stephen Churchman, Jean Forsyth, Brian Jones a John Wyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 57 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20.10.16 fel rhai cywir   

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20.10.16 fel rhai cywir

 

 

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth  yn ymwneud ag unigolion penodol a bod gan yr unigolion hynny hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r  wybodaeth yn eithriedig ac yn gorbwyso unrhyw fudd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER PENNAETH ADRAN RHEOLEIDDIO

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd

Cofnod:

 

Penderfyniad y Pwyllgor yn eu cyfarfod ar Hydref 20fed 2016 oedd rhoi pedwar ymgeisydd ymlaen ar gyfer y ganolfan asesu.

 

Cadarnhawyd trefn y cyfweliadau gyda’r Aelodau.

 

Cyfwelwyd pedwar ymgeisydd ar gyfer y swydd.

 

Gwahoddwyd Mr Arwyn Reynolds, Ymgynghorydd annibynnol o gwmni PCS Associates i gyflwyno sylwadau o’r Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 23.11.16. Derbyniwyd crynodeb manwl o berfformiadau’r pedwar ymgeisydd gan ymhelaethu ar eu cryfderau a’u cyfyngiadau.

 

Diolchwyd i Mr Reynolds am ei sylwadau.         

 

 

PENDERFYNWYD PENODI MR DAFYDD WYN WILLIAMS  I’R SWYDD  PENNAETH  RHEOLEIDDIO