skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2016/17

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Gadeirydd am 2016/17.

 

2.

ETHOL IS GADEIRYDD

Ethol Is gadeirydd ar gyfer  2016/17.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R H Wyn Williams yn Is Gadeirydd am 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25.2.16 fel rhai cywir   . 

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 o Chwefror 2016 fel rhai cywir.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

8.

LLENWI SWYDD WAG PENNAETH OEDEOLION, LECHYD A LLESIANT

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

 

(ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig)

Cofnod:

Yn dilyn, ymddeoliad cynnar Mrs Gwenan Parry, Pennaeth Oedolion, Iechyd  a Llesiant oherwydd salwch hir dymor, cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn argymell y Pwyllgor i ystyried dau opsiwn ar gyfer llenwi'r swydd.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Mrs Gwenan Parry am y gwasanaeth a  roddodd i drigolion Gwynedd a dymunwyd y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth am yr opsiynau, ynteu i hysbysebu’n allanol neu gadarnhau Mr Aled Davies i’r swydd yn barhaol (ac yntau wedi bod yn gwneud y swydd dros dro ers 18 mis), cynigiwyd ac eiliwyd i Mr Aled Davies fod yn Bennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant ar gytundeb parhaol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL CADARNHAU MR ALED DAVIES I SWYDD PENNAETH OEDOLION, IECHYD A LLESIANT YN BARHAOL

 

Yn dilyn y penderfyniad, nodwyd y byddai swydd y Pennaeth Rheoleiddio bellach yn dod yn rhydd a bod angen symud ymlaen i lenwi’r swydd drwy hysbysebu yn y ffordd arferol.