skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Simon Glyn, E. Selwyn Griffiths, John Brynmor Hughes a Peter Read.

2.

CREDYD CYNHWYSOL

I dderbyn cyflwyniad ar Gredyd Cynhwysol.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Dysgu Cymunedol a Rheolwr Prosiectau (Cydymdrechu yn erbyn Tlodi a STEM Gogledd)).

 

Nodwyd diolch am y gwaith.

 

Pwyntiau Gweithredu:

  • Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau;
  • Anfon rhestr o sesiynau Galw Draw Gwynedd Ddigidol i’r aelodau;
  • Aelodau i gysylltu efo’r Rheolwr Prosiectau pe dymunir trafod ymhellach.

3.

PORTH AELODAU

I dderbyn cyflwyniad ar y porth.

Cofnod:

Rhoddodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts (Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) gyflwyniad i waith Is-Grŵp o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys edrych ar ffurf a chynnwys y Porth Aelodau.

 

Tywysodd y Swyddog E-ddysgu yr aelodau drwy’r Porth.

 

Pwynt Gweithredu:

 

Cysylltu efo Rheolwr Aelodau - Gwasanaeth Democrataidd gyda unrhyw sylwadau ar y Porth.