Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Simon Glyn, E. Selwyn Griffiths a Peter Read.

2.

RHAGLEN WAITH Y GWASANAETH ADFYWIO CYMUNEDOL pdf eicon PDF 549 KB

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Cymunedol raglen waith y Swyddog Adfywio Lleol gan fanylu ar fesuryddion y Gwasanaeth Adfywio Cymunedol. Manylodd Swyddog Adfywio Ardal Dwyfor ar brosiect Hafod Ceiri.

 

Nodwyd diolch am y gefnogaeth a roddir gan Swyddog Adfywio Ardal Dwyfor i’r prosiectau.

 

Pwynt Gweithredu:

 

 

3.

CYNLLUN CYFLOGAETH LLŶN AC EIFIONYDD

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Strategaeth a Datblygu a Chydlynydd Gwledig Gwynedd Dros Dro.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Hyrwyddo beth sydd ar gael o ran band eang i fusnesau.
  • Cadarnhau trefniadau o ran y gronfa Tâl Tai Dewisol sydd yn cefnogi teuluoedd i osgoi mynd i ddyled oherwydd y dreth llofftydd.
  • Codi’r mater o ran y disgwyliad bod cyfleoedd i bobl leol yn ystod trafodaethau efo parc gwyliau Hafan y Môr.
  • Gwirio faint o unigolion lleol a gyflogir gan Blas Heli.
  • Gwneud ymholiadau o ran y gwaith a gwblheir gan Ymgynghoriaeth Gwynedd o ran Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol 2016-17.
  • Anfon sylw o ran cyflwr y cylchdeithiau yn enwedig y llwybr rhwng Nefyn a Phistyll at yr Uned Llwybrau.
  • Cyflwyno’r camau nesaf i’r Fforwm Ardal yn dilyn etholiad Mai 2017.
  • Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau

 

4.

RHEOLAETH O'R ARFORDIR

Cofnod:

(Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem isod gan y Cynghorydd Eirwyn Williams (Is-Gadeirydd))

 

Derbyniwyd diweddariad ar yr uchod gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Gweithredu trefn dros dro yn ardal Morfa Nefyn am y tymor gan drafod efo partneriaid eraill gan gynnwys Cyngor Tref Nefyn yng nghyswllt datrysiad tymor hir.
  • Ail edrych ar y strategaeth traethau.