skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Dylan Bullard, Stephen Churchman, Anwen Davies, Simon Glyn, Sian Wyn Hughes, Hefin Underwood ac Eirwyn Williams.

2.

CYFLWYNIAD HOSBIS DEWI SANT

I dderbyn cyflwyniad gan Sioned Williams (Swyddog Codi Arian Ardal Dwyfor) a Trystan Pritchard (Prif Weithredwr).

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad yn manylu ar waith Hosbis Dewi Sant a Swyddog Codi Arian Ardal Dwyfor ynghyd â’r bwriad i sefydlu is-uned hosbis yn Ysbyty Bryn Beryl.

 

Nodwyd cefnogaeth i’r bwriad i sefydlu is-uned hosbis yn Ysbyty Bryn Beryl.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Pwyntiau Gweithredu:

  • Cysylltu â Swyddog Codi Arian Ardal Dwyfor pe dymunir ei gwahodd i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn y gymuned.
  • Lledaenu’r neges o ran y bwriad i sefydlu is-uned hosbis ac ennyn cefnogaeth.
  • Anfon deunydd am waith Hosbis Dewi Sant at yr aelodau.

·         Trosglwyddo gwerthfawrogiad yr aelodau o waith staff Siop Hosbis Dewi Sant ym Mhwllheli.

3.

STRATEGAETH RHEOLI TRAETHAU DRAFFT

I dderbyn cyflwyniad gan Llŷr Jones (Uwch Reolwr Economi ac Adfywio).

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad ar y Cynllun Rheoli Traethau Drafft.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Pwynt Gweithredu:

·         Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau.

4.

DIWEDDARIAD AR ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI

Derbyn diweddariad gan Llŷr Jones (Uwch Reolwr Economi ac Adfywio) ar y gwaith hyd yma.

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad ar yr adolygiad. Nodwyd bod Strategic Leisure wedi eu penodi i edrych ar y 5 opsiwn posib o ran rheolaeth yr Hafan a’r Harbwr.

 

Pwynt Gweithredu:

·         Derbyn diweddariad yn dilyn derbyn adroddiad Strategic Leisure yn y cyfarfod nesaf.

5.

EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF

I nodi eitemau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Cofnod:

Cafwyd trafodaeth o ran eitemau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf, nodwyd yr eitemau canlynol:

 

Ø  Cyflwyniad ar ddatblygiadau yn Ysbyty Bryn Beryl

Ø  Diweddariad ar Adolygiad Hafan a Harbwr Pwllheli

Ø  Pont Bodfel

Ø  Trethi Tai Haf