skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Sian Wyn Hughes yn Gadeirydd.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dylan Bullard yn Is-Gadeirydd.

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Simon Glyn, E. Selwyn Griffiths, John Brynmor Hughes, Peter Read, W. Gareth Roberts a Eirwyn Williams.

4.

CYFLWYNIAD I'R FFORWM

Cofnod:

Derbyniwyd eglurhad gan yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol ar gylch gorchwyl y Fforwm gan dynnu sylw bod y Fforymau ar gyfer trafod materion hynny rhwng gwaith ward ar y naill law a materion sir gyfan y dylid ymdrin â hwy drwy drefniadau craffu. Atgoffwyd nad oedd gan y Fforwm bwerau gweithredol o ran gwneud penderfyniad ond bod modd ceisio gwneud penderfyniadau i ddylanwadu ar Aelod Cabinet neu Adran a chyfeirio unrhyw fater i’w graffu’n ffurfiol.

 

Nodwyd y defnyddir y Fforymau ar gyfer hyfforddiant neu rannu gwybodaeth

5.

SESIWN GWYBODAETH AM Y SIR

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad am wybodaeth am y Sir gan Rheolwr Ymchwil a Dadansoddeg a’r Uwch Swyddog Ymchwil a Dadansoddeg Dros Dro.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Darparu gwybodaeth amcanestyniadau Poblogaeth Gwynedd fesul ardal llesiant;
  • Darparu gwybodaeth lefel Cymru o ran mynediad at wasanaethau;
  • Darparu ffigyrau o ran hunangyflogaeth yn Nwyfor;
  • Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau

6.

SEFYDLU MATERION AR GYFER Y RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 111 KB

(Ynghlwmrhestr o eitemau a ystyriwyd gan Pwyllgor Ardal Dwyfor 2013-17)

Cofnod:

Cyfeiriwyd at y rhestr o faterion a drafodwyd gan y Fforwm Ardal eisoes rhwng 2013 - 2017. Cafwyd awgrymiadau am faterion i’w ystyried yn y cyfarfodydd am y flwyddyn.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

(i)    Cytuno ar yr eitemau canlynol gan ystyried eitemau eraill yn ystod y  

       flwyddyn:

·                   Cynllun Cyflogaeth Llŷn ac Eifionydd

·                   Manteisio ar gyfleoedd o ran yr Iaith ym myd gwaith

·                   Darpariaeth Tai yn yr Ardal

·                   Incwm Premiwm Treth Ail-Gartrefi

·                   Prinder meddygon teulu a gweithwyr gofal yn yr ardal

·                   Diwygio wardiau etholiadol

 

(ii)    Swyddogion i ymgynghori efo’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd o ran pa 

        eitemau y dylid cynnwys ar raglenni’r cyfarfodydd.

 

7.

DYDDIADAU CYFARFODYDD 2017-18

I nodi dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

  • dydd Llun, 11 Rhagfyr 2017
  • dydd Llun, 5 Mawrth 2018

 

Cofnod:

Pwynt Gweithredu:

 

Nodi dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn i ddod, sef:

 

  • dydd Llun, 11 Rhagfyr 2017

·         dydd Llun, 5 Mawrth 2018