skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Simon Glyn, E. Selwyn Griffiths, John Brynmor Hughes, Michael Sol Owen, Peter Read a Eirwyn Williams.

2.

CYFLWYNIAD AR WAITH GALW GWYNEDD, Y GANOLFAN GYSWLLT YM MHENRHYNDEUDRAETH

I dderbyn cyflwyniad gan Joanne Parry (Rheolwr Siopau Gwynedd, Galw Gwynedd a'r Gwasanaeth Cofrestru).

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Reolwr Siopau Gwynedd, Galw Gwynedd a’r Gwasanaeth Cofrestru.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau.

 

Pwynt Gweithredu:

 

Cyfleu diolchiadau’r aelodau am waith staff y Ganolfan Gyswllt.

3.

TREFNIADAU ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL - MAI 2017 pdf eicon PDF 82 KB

I drafod trefniadau ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol er mwyn codi ymwybyddiaeth Aelodau o’r trefniadau sy’n cael eu datblygu ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at y sesiynau sydd wedi eu trefnu ymhob un o’r tair ardal ym mis Ionawr 2017. 

 

Gofynnwyd i’r aelodau adnabod grwpiau/rhwydweithiau lleol y dylid gohebu yn benodol i hyrwyddo gwybodaeth.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Darparu rhestr o enwau a rhifau cyswllt swyddogion i aelodau ar ôl etholiad 2017 ac ystyried nodi dyddiau gweithio swyddogion yn ogystal.
  • Holi aelodau sydd wedi datgan nad ydynt am sefyll etholiad o ran grwpiau/rhwydweithiau lleol y dylid gohebu yn benodol i hyrwyddo gwybodaeth.