Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Peter Read, W. Gareth Roberts a Angela Ann Russell.

 

2.

SIARTER IAITH

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Gydlynydd y Siarter Iaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau.

 

Pwynt Gweithredu:

 

  • Gofyn i’r ysgolion penodol lle bo aelod yn Llywodraethwr a ddim yn derbyn gwybodaeth o ran gwe iaith yr ysgol i ddarparu’r wybodaeth.
  • Gofyn i’r Adran Addysg ddarparu gwybodaeth o ran yr ysgolion sydd wedi derbyn gwobr aur, arian ac efydd.

3.

RHAGLEN WAITH Y GWASANAETH ADFYWIO CYMUNEDOL pdf eicon PDF 206 KB

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Cymunedol raglen waith y Swyddog Adfywio Lleol. Manylodd Swyddog Adfywio Ardal Dwyfor ar brosiectau penodol. Rhannwyd copïau o Adroddiad Blynyddol Cist Gwynedd ar gyfer 2015/16 a oedd wedi ei gyhoeddi eisoes yn Rhaeadr.

 

Nodwyd diolch i’r cyn swyddogion a oedd wedi gadael y Cyngor yn dilyn arbedion effeithlonrwydd/toriadau am eu gwaith yng nghyswllt y cronfeydd.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Holi Grŵp Cynefin o ran eu bwriad yng nghyswllt gosod tai a fyddai’n rhan o ddatblygiad tai fforddiadwy bwriedig ar safle cyn Ysgol Llidiardau, Rhoshirwaun, sydd yn y broses o gael ei drosglwyddo i’w perchnogaeth;
  • Derbyn diweddariad ymhen 6 mis.

 

4.

YMGYRCH NEIFION pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Swyddog Ecosystemau Morol Dros Dro a’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r achrediad gan yr aelodau ac fe fynegwyd pryder o ran hawliau’r swyddogion i blismona’r arfordir pan fo unigolion ddim yn cydymffurfio â’r Côd Diogelwch Morol.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Darparu copïau o’r côd morol i’r aelodau er mwyn iddynt allu eu harddangos/dosbarthu yn eu cymunedau;
  • Derbyn diweddariad o ran trafodaethau yng nghyswllt rheoli’r arfordir cyn y tymor nesaf gan ofyn i’r Pennaeth Economi a Chymuned a’r Aelod Cabinet Economi fod yn bresennol yn y cyfarfod.